PTSD Cymhleth

Myf image

 

Mae’r wybodaeth isod wedi'i ddarparu gan y Royal College of Psychiatrists ac ar gyfer pawb sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD), neu sy’n adnabod rhywun a all fod yn dioddef ohono. 


Beth yw PTSD cymhleth?  


Mae rhai pobl yn datblygu anhwylder straen wedi trawma cymhleth (PTSD cymhleth). Gall hyn ddigwydd ar ôl mynd trwy ddigwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau eithriadol o fygythiol neu erchyll. Gall y profiadau hyn ddigwydd yn ystod plentyndod neu pan fyddwch yn oedolyn.   

Yn eithaf aml, bydd y digwyddiadau hyn yn anodd neu’n amhosibl eu hosgoi neu ddianc rhagddyn nhw. Er enghraifft:

  • artaith  
  • caethwasiaeth 
  • hil-laddiad  
  • byw mewn ardal rhyfel  
  • trais domestig dros gyfnod maith 
  • camdriniaeth rywiol neu gorfforol barhaus yn ystod plentyndod    

Yn ogystal â symptomau PTSD, efallai hefyd y bydd pobl sy’n dioddef o PTSD cymhleth yn arddangos y symptomau canlynol:    

  • credoau eithriadol o negyddol amdanyn nhw eu hunain – meddwl eu bod yn dda i ddim, yn ddi-rym neu’n ddiwerth  
  • anhawster mawr i reoli eu hemosiynau a’u hymatebion emosiynol  
  • anhawster mawr i ddal gafael mewn perthnasoedd ac anhawster o ran teimlo’n agos at bobl eraill 

 


Sut alla’ i ddod ataf fy hun ar ôl PTSD cymhleth?  

Mae diffyg ffydd mewn pobl eraill ac yn y byd yn gyffredinol yn rhywbeth cyffredin ymhlith pobl sy’n dioddef o PTSD cymhleth. Yn aml, bydd y driniaeth yn para dros gyfnod hwy er mwyn eu galluogi i feithrin perthynas gref gyda’r therapydd. Yn aml, bydd y gwaith a wneir rhwng yr unigolyn sy’n dioddef o PTSD cymhleth a’r therapydd yn digwydd mewn tri cham:   


Sefydlogi 

  • Yn ystod y cam sefydlogi, byddwch yn dysgu sut i ymddiried yn eich therapydd, ynghyd â deall a rheoli’r trallod a’r diffyg cyswllt a deimlwch.  Fel rhan o’r cam sefydlogi, efallai y byddwch yn dysgu technegau ar gyfer ailgysylltu â’r presennol. 
  • Gall y rhain eich helpu i ganolbwyntio ar deimladau corfforol arferol a’ch atgoffa eich bod yn byw yn y presennol yn hytrach nag yn y gorffennol.  
  • Gall y cam sefydlogi eich helpu i ‘ddatgysylltu’ eich ofn a’ch gorbryder oddi wrth yr atgofion a’r emosiynau sy’n creu’r ofn a’r gorbryder hwnnw. 
  • Gall hyn helpu i wneud yr atgofion yn llai brawychus.    Nod y cam sefydlogi yw eich galluogi yn y pen draw i fyw eich bywyd heb deimlo gorbryder na chael ôl-fflachiau.  


Weithiau, efallai y bydd y cam sefydlogi yn ddigon.     

 

Therapïau sy’n canolbwyntio ar drawma

Gall therapi sy’n canolbwyntio ar drawma, yn cynnwys EMDR neu TF-CBT, eich helpu i brosesu eich profiadau trawmatig. Gall mathau eraill o seicotherapi, yn cynnwys seicotherapi seicodynamig, fod yn fuddiol hefyd. Rhaid bod yn ofalus gyda PTSD cymhleth, oherwydd efallai y bydd y triniaethau hyn yn gwaethygu’r sefyllfa os cân nhw eu defnyddio’n amhriodol.    


Ailintegreiddio neu ailgysylltu 

Gall ailintegreiddio mewn trefn arferol o fyw eich helpu i arfer â’r byd go iawn, a chithau bellach wedi gadael y sefyllfa beryglus a ddaeth i’ch rhan yn y gorffennol. Gall eich helpu i ddechrau eich gweld eich hun fel unigolyn sydd â hawliau a dewisiadau.

Bydd ailintegreiddio yn eich helpu i wneud y canlynol:   

  • uniaethu’n dosturiol â chi eich hun ac â phobl eraill  
  • ailsefydlu ymddiriedaeth ynoch eich hun ac mewn pobl eraill 
  • ailafael mewn cyfeillgarwch, perthnasoedd agos a gweithgareddau sy’n hybu eich iechyd a’ch llesiant 

  


Meddyginiaeth 

Fel yn achos PTSD, gellir defnyddio cyffuriau gwrth-iselder neu feddyginiaethau eraill yn ogystal â seicotherapi. Gellir defnyddio meddyginiaethau os yw’r seicotherapi yn aneffeithiol neu’n amhosibl i chi. Efallai hefyd y byddai’n syniad da i arbenigwr iechyd meddwl adolygu eich meddyginiaeth

 

Hunangymorth

Os ydych yn dioddef o PTSD cymhleth, efallai y byddai’n fuddiol ichi roi cynnig ar bethau normal nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiad â’r trawma a ddaeth i’ch rhan yn y gorffennol. Gall y pethau hyn gynnwys:  

  • gwneud cyfeillion 
  • chwilio am swydd  
  • gwneud ymarfer corff rheolaidd 
  • dysgu technegau ymlacio 
  • dod o hyd i hobi 
  • anifeiliaid anwes. 

Gall y pethau hyn eich helpu i ymddiried yn raddol yn y byd o’ch cwmpas. Ond gall y broses gymryd amser, a pheidiwch â chywilyddio o gwbl os cewch anawsterau neu os methwch â’u gwneud ar eich union.