Pa driniaethau sydd ar gael ar gyfer PTSD?

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pawb sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD), neu sy’n adnabod rhywun a all fod yn dioddef ohono. 


Mae yna nifer o driniaethau gwahanol ar gyfer PTSD, yn cynnwys therapi gwybyddol ymddygiadol sy’n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT), Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu drwy Symudiadau Llygaid (EMDR) a meddyginiaethau. 

 

Seicotherapi  

Bydd seicotherapi ar gyfer PTSD yn canolbwyntio ar y profiad trawmatig yn hytrach nag ar eich gorffennol. Fe fydd yn eich helpu gyda’r pethau canlynol:    

Derbyn

Dysgu derbyn y canlynol: er na allwch newid yr hyn a ddigwyddodd, gallwch feddwl mewn ffordd wahanol am y digwyddiad, y byd a’ch bywyd.  

 
Cofio’r digwyddiad

Cofio’r hyn a ddigwyddodd heb gael eich llethu gan ofn a thrallod. Bydd modd ichi feddwl am yr hyn a ddigwyddodd pan fyddwch yn dewis gwneud hynny, yn hytrach nag yn sgil meddyliau ymwthiol neu ôl-fflachiau. 


Cyfleu eich profiadau mewn geiriau

Siarad am yr hyn a ddigwyddodd er mwyn i’ch meddwl allu storio’r atgofion, a symud ymlaen at bethau eraill.   


Teimlo’n fwy diogel

Eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros eich teimladau. Gall hyn eich helpu i deimlo’n fwy diogel, felly ni fydd angen ichi osgoi cymaint ar yr atgofion.

Dim ond rhywun sydd wedi’i hyfforddi a’i achredu a ddylai roi seicotherapi. Fel arfer, bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn wythnosol fan leiaf, gyda’r un therapydd, ac yn aml fe fyddan nhw’n para am 8-12 wythnos.  Er y bydd y sesiynau’n para oddeutu awr fel arfer, o dro i dro fe allan nhw bara hyd at awr a hanner.   

 

Mae therapïau ar gyfer PTSD yn cynnwys:  

Ymddygiad gwybyddol ymddygiadol sy’n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT)  

Therapi siarad yw hwn, a gall eich helpu i newid eich ffordd o feddwl. Ymhen amser, gall eich helpu i deimlo’n well ac ymddwyn yn wahanol. Fel arfer, caiff ei gynnal mewn sesiynau un-i-un, ond mae yna beth tystiolaeth sy’n dangos bod modd cynnal y therapi hwn mewn grwpiau hefyd.    

Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu drwy Symudiadau Llygaid (EMDR)  

Dyma dechneg sy’n defnyddio symudiadau llygaid i helpu’r ymennydd i brosesu atgofion trawmatig.  Gofynnir ichi feddwl am y digwyddiad trawmatig a’r ffordd y mae’n gwneud ichi feddwl a theimlo. Tra byddwch yn gwneud hyn, gofynnir ichi symud eich llygaid neu wneud ‘ysgogiad dwyochrog’ o ryw fath, fel taro eich llaw yn ysgafn. Dangoswyd bod hyn yn gallu lleihau dwyster yr emosiynau sy’n gysylltiedig â’r atgof trawmatig, gan helpu i chwalu’r trawma.  Dim ond ymarferydd hyfforddedig a ddylai gynnig sesiynau EMDR. Fel arfer, caiff EMDR ei gyflwyno dros 8-12 sesiwn a bydd pob sesiwn yn para rhwng awr ac awr a hanner.  Yn achos pobl nad ydyn nhw’n ymateb yn dda i EMDR neu TF-CBT, efallai y bydd therapïau siarad o fath arall yn fuddiol ar gyfer targedu symptomau penodol (e.e. cysgu’n wael).    

Meddyginiaeth

Os ydych wedi rhoi cynnig ar therapïau eraill i drin eich PTSD, ond os na fu’r rhain yn llwyddiannus, efallai y bydd eich meddyg yn rhoi cyffuriau gwrth-iselder ichi.  Mae atalyddion ailgydio serotonin-benodol (SSRIs) yn gyffuriau gwrth-iselder a all helpu i leihau eich symptomau PTSD. Os ydych yn dioddef o iselder hefyd, gall cyffuriau gwrth-iselder helpu gyda hyn.   Os na fydd y cyffuriau SSRI yn gweithio i chi, efallai y byddwch yn cael cynnig meddyginiaeth arall, ond dim ond ar sail cyngor gan arbenigwr iechyd meddwl y dylid gwneud hyn.     


Pa driniaeth sydd fwyaf llwyddiannus?  

Pa bryd bynnag y bo modd, dylid cynnig therapïau seicolegol sy’n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT neu EMDR) cyn cynnig meddyginiaeth. Mae hyn yn cyd-fynd â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

Sut alla' i fy nghynorthwyo fy hun?  Os ydych yn dioddef o PTSD, mae yna rai pethau y gallwch eu gwneud i helpu eich adferiad. Bydd eich therapydd yn eich helpu gyda’r pethau hyn ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn eu gwneud ar yr adeg iawn: 

  1. Cadw at eich trefn arferol.  Os oes modd, ceisiwch ddychwelyd/cadw at eich trefn arferol. Bydd cadw eich bywyd mor normal â phosibl yn rhoi rhyw fath o sylfaen ichi. 

  2. Siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo.  Er na ddylech deimlo bod yn rhaid ichi siarad am yr hyn a ddigwyddodd gyda rhywun rywun, fe fydd siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo yn eich helpu i brosesu eich teimladau mewn man diogel. Efallai hefyd y byddai o fudd ichi siarad â rhywun sydd wedi mynd trwy ddigwyddiad tebyg o’r blaen, os na fydd gwneud hynny’n peri gormod o drallod. 

  3. Rhoi cynnig ar ymarferion ymlacio.  Rhowch gynnig ar fyfyrdod hunanarweiniol ac ymarferion eraill er mwyn eich helpu i ymlacio. Mae’n anodd ymlacio os ydych yn dioddef o PTSD, felly siaradwch â’ch therapydd am ymarferion neu weithgareddau a allai weithio i chi. 

  4. Mynd yn ôl i’r gwaith neu i’r ysgol.  Os ydych yn teimlo’n ddigon da, gall dychwelyd i’r gwaith, i’r ysgol neu i’r brifysgol eich helpu. Gall gynnig rhyw fath o drefn i’ch bywyd. Ond ceisiwch osgoi sefyllfaoedd lle gallech ddod i gysylltiad â rhagor o drawma neu straen mawr. Yn gyffredinol, y peth gorau i’w wneud yw gweithio mewn amgylchedd cefnogol, isel ei straen, hyd nes y byddwch wedi cael eich triniaeth. 

  5. Bwyta a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.  Ceisiwch fwyta ar yr adegau arferol, hyd yn oed os na fydd archwaeth bwyd arnoch. Os oes modd, ceisiwch wneud ymarfer corff yn rheolaidd. Gall hyn eich helpu i deimlo’n fwy blinedig pan ddaw hi’n amser cysgu. 

  6. Treulio amser gydag eraill.  Gall treulio amser gyda’r bobl a garwch beri ichi deimlo bod rhywun wrth law i fod yn gefn ichi. 

  7. Sylweddoli y daw eto haul ar fryn.  Bydd canolbwyntio ar y syniad y byddwch yn gwella yn y pen draw o fudd i’ch adferiad. Cofiwch beidio â rhoi pwysau arnoch eich hun i wella’n gyflym. 

  8. Dychwelyd i’r lle y digwyddodd y profiad trawmatig.  Pan fyddwch yn teimlo’n ddigon da, efallai y byddwch yn dymuno mynd yn ôl i’r fan y digwyddodd y profiad trawmatig. Os bwriadwch wneud hyn, siaradwch â’ch therapydd neu eich meddyg er mwyn iddyn nhw allu eich cynorthwyo gyda’r cam hwn. Tra byddwch yn dod atoch eich hun, efallai fod yna rai pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonyn nhw neu’n ofalus wrth eu gwneud. Ond gall gwneud ‘y peth iawn’ fod yn anodd dros ben, ac ni ddylech deimlo’n euog pe baech yn gwneud unrhyw un o’r pethau canlynol:  

  9. Hunanfeirniadu.  Nid yw symptomau PTSD yn arwydd o wendid. Ymateb normal i brofiadau brawychus ydyn nhw. 

  10.  Cadw eich teimladau i chi eich hun.  Os ydych yn dioddef o PTSD, peidiwch â theimlo’n euog ynglŷn â rhannu eich meddyliau a’ch teimladau gydag eraill. Gall siarad am eich teimladau fod o fudd i’ch adferiad. 

  11.  Disgwyl i bethau ddychwelyd i’r drefn arferol yn syth.  Mae trin PTSD yn gallu cymryd amser. Ceisiwch beidio â disgwyl gormod yn rhy fuan. 

  12.  Cadw’n glir o bobl eraill.  Gall treulio llawer o amser ar eich pen eich hun ddwysáu teimladau ynysig a gwneud ichi deimlo’n waeth. 

  13.  Yfed a smygu.  Er y gall alcohol eich helpu i ymlacio, dros amser efallai y bydd yn gwneud ichi deimlo’n waeth. Mae coffi a nicotin yn ysgogyddion, ac efallai y byddan nhw’n gwneud ichi deimlo’n waeth os ydych yn dioddef symptomau sy’n gysylltiedig â PTSD. 

  14.  Gorflino.  Os ydych yn dioddef o PTSD, mae’n bosibl eich bod yn cael trafferth cysgu. Ond ceisiwch gadw at eich patrwm cysgu arferol cyn belled ag y bo modd, gan osgoi aros ar eich traed yn hwyr – gall hyn wneud ichi deimlo’n waeth. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadnodd cysgu’n dda. Yn olaf, efallai y dylech fod yn ofalus wrth yrru; a phe baech yn teimlo’n anniogel wrth yrru, dylech roi gwybod i’r DVLA. Gall pobl fod yn fwy tueddol i gael damweiniau ar ôl i rywbeth trawmatig ddigwydd.