Pam mae PTSD yn digwydd?

Mae’r wybodaeth isod a ddarperir gan y Royal College of Psychiatrists ar gyfer pawb sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD), neu sy’n adnabod rhywun a all fod yn dioddef ohono. 

 

Mae yna sawl esboniad posibl ar gyfer yr hyn sy’n achosi PTSD. 


Seicolegol   

Mae symptomau seicolegol PTSD yn hynod annymunol ac yn peri llawer o drallod. Fodd bynnag, gall y symptomau hyn wneud synnwyr pan feddyliwn am y modd y mae ein meddyliau’n gweithio i’n hamddiffyn ar ôl digwyddiad trawmatig.  
 

Atgofion

Ar ôl mynd trwy ddigwyddiad trawmatig efallai na allwn, neu nad ydym yn dymuno, ei gofio. Er y gall cofio’r hyn a ddigwyddodd fod yn brofiad trallodus, gall ein helpu i wneud synnwyr ohono. Gall hyn fod o fudd i’n hiechyd meddwl.  

Meddyliau ymwthiol neu ôl-fflachiau

Gall y rhain ymddangos fel pe bai’r digwyddiad yn ailddigwydd dro ar ôl tro. Fe allan nhw ein gorfodi i feddwl am yr hyn a ddigwyddodd er mwyn inni allu paratoi’n well ar ei gyfer pe bai’n digwydd eto. Ond os ydych yn dioddef o PTSD, yr unig beth y mae’r meddyliau hyn yn ei achosi yw trallod.  

Osgoi a phylu teimladau 

Mae cofio trawma yn brofiad blinedig a thrallodus. Gall osgoi a phylu teimladau eich helpu i roi’r gorau i feddwl am yr hyn a ddigwyddodd. Ond mae hyn yn eich rhwystro hefyd rhag gwneud synnwyr o’ch profiadau.  
 
Bod ar eich gwyliadwriaeth

Os ydym ‘ar ein gwyliadwriaeth’, mae’n bosibl y byddwn yn teimlo’n barod i ymateb yn ddi-oed pe bai trychineb arall yn digwydd. Hefyd, gall roi egni inni i wneud y pethau angenrheidiol ar ôl damwain neu argyfwng. Ond gall fod yn flinedig dros ben hefyd, a’n hatal rhag gwneud pethau sy’n dod â phleser inni.  

 

Corfforol  

Efallai fod rhai o’r symptomau corfforol a welir ymhlith pobl sy’n dioddef o PTSD yn digwydd gan fod ein cyrff yn ceisio prosesu trawma yn y ffordd anghywir.
 

Adrenalin

Dyma hormon y mae ein corff yn ei gynhyrchu pan fyddwn dan straen. Mae’n helpu i baratoi ein cyrff ar gyfer gweithgareddau sydd angen llawer o egni – er enghraifft, rhedeg neu ymladd â rhywun. Ar ôl i’r straen ddiflannu, dylai’r adrenalin ddychwelyd i’w lefel arferol. Mewn pobl sy’n dioddef o PTSD, mae modd i atgofion byw am y digwyddiad ingol gadw lefel yr adrenalin yn uchel. Gall lefelau uchel o adrenalin beri ichi fod ar bigau’r drain, eich gwneud yn biwis a'i gwneud hi’n anodd ichi ymlacio neu gysgu’n dda.  

Yr hipocampws

Dyma ran o’r ymennydd sy’n prosesu atgofion. Gall lefelau uchel o hormonau straen, fel adrenalin, atal yr hipocampws rhag gweithio’n iawn. O’r herwydd, ni chaiff atgofion am y digwyddiad trawmatig eu prosesu. Gall hyn beri ichi gofio’r digwyddiad fel pe bai’r risg yn dal i fodoli, yn hytrach na’i weld fel rhywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol.  

 

A oes yna yrfaoedd lle mae rhywun yn fwy tebygol o ddioddef o PTSD? 

Gall unrhyw un sydd wedi mynd trwy ddigwyddiad trawmatig ddioddef o PTSD. Ond mae gan rai pobl swyddi sy’n golygu eu bod yn fwy tebygol o fynd trwy ddigwyddiadau trawmatig. Golyga hyn fod eu risg o ddioddef o PTDS yn uwch nag mewn gyrfaoedd eraill. Mae’r swyddi hyn yn cynnwys:     

  • Gweithwyr yn y gwasanaethau brys (e.e. yr heddlu, staff y frigâd dân neu staff ambiwlans)  
  • Gweithwyr cymdeithasol  
  • Staff gofal dwys  
  • Personél milwrol a phobl eraill sy’n gweithio mewn ardaloedd rhyfel 

 


Pryd mae PTSD yn dechrau?  

Gall symptomau PTSD ddechrau dod i’r amlwg yn syth ar ôl y digwyddiad trawmatig, neu ymhen rhai wythnosau neu fisoedd yn ddiweddarach. Fel arfer, bydd y symptomau’n dechrau o fewn 6 mis o’r digwyddiad. Weithiau, bydd y symptomau’n dechrau ar ôl 6 mis, ond mae hyn yn llai cyffredin. Yn anffodus, ni fydd llawer o bobl yn gofyn am help yn syth ar ôl i’w symptomau ddechrau. 

Nid oes modd diagnosio PTSD yn ystod y mis cyntaf ar ôl y digwyddiad trawmatig. Os byddwch yn dioddef symptomau trawma yn syth, ac os bydd y symptomau hyn yn ddifrifol ac yn eich rhwystro rhag cario ymlaen, efallai eich bod yn dioddef o ‘anhwylder straen acíwt’


Pam nad yw pawb yn dioddef o PTSD ar ôl profid trawmatig?  

Ar ôl profiad trawmatig, bydd nifer o bobl yn arddangos symptomau trawma am ryw fis neu ddau. Mae nifer o’r symptomau hyn yn ymatebion naturiol i’r perygl gwirioneddol neu ymddangosiadol. Meddyliwch amdanyn nhw fel ffordd eich ymennydd o’ch amddiffyn rhag niwed.  Ond fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn prosesu’r hyn a ddigwyddodd ar ôl ychydig wythnosau, neu weithiau ar ôl cyfnod dipyn yn hwy, ac fe fydd eu symptomau straen yn dechrau diflannu.  Dengys gwaith ymchwil fod rhai grwpiau arbennig o bobl yn wynebu risg uwch o ddioddef o PTSD.

Bydd y risg o ddatblygu PTSD yn lleihau os oes modd ichi wneud y canlynol:  

  • cael gafael ar gymorth cymdeithasol a
  • dod atoch eich hun ar ôl y digwyddiad trawmatig mewn ‘amgylchedd isel ei straen’ 


Pa ddigwyddiadau sy’n fwy tebygol o achosi PTSD?  

Gall unrhyw ddigwyddiad trawmatig achosi PTSD; ond po fwyaf cythryblus yw’r profiad, po fwyaf tebygol ydych o ddatblygu PTSD. Er enghraifft, efallai y byddwch yn fwy tebygol o ddatblygu PTSD pe bai’r digwyddiad:  

  • yn ddisymwth ac yn annisgwyl  
  • yn para’n hir 
  • yn digwydd pan fyddwch yn gaeth ac yn methu dianc 
  • wedi deillio o waith dyn  
  • yn achosi nifer o farwolaethau 
  • yn arwain at anffurfio’r corff  
  • yn ymwneud â phlant.

Os byddwch yn parhau i ddod i gysylltiad â straen ac ansicrwydd, bydd hyn yn ei gwneud hi’n anos i’ch symptomau PTSD wella. 


Sut ydw i’n gwybod fy mod wedi dod ataf fy hun ar ôl profiad trawmatig?  

Mae’n bosibl y byddwch wedi dod atoch eich hun ar ôl profiad trawmatig os oes modd ichi wneud y canlynol: 

  • meddwl am y digwyddiad heb deimlo gormod o drallod  
  • peidio â theimlo dan fygythiad yn barhaus  
  • peidio â meddwl am y digwyddiad ar adegau amhriodol. 



Pam nad yw PTSD yn cael ei ddiagnosio bob amser?  


Mae yna nifer o resymau pam nad yw pobl sy’n dioddef o PTSD yn cael diagnosis pendant.  
 

Stigma a chamddealltwriaeth 

Yn aml, bydd pobl sy’n dioddef o PTSD yn osgoi siarad am eu teimladau, fel na fydd yn rhaid iddyn nhw feddwl am y digwyddiad trawmatig.  Mae rhai pobl yn credu bod eu symptomau (er enghraifft, osgoi a phylu teimladau) yn eu helpu i ymdopi, a dydyn nhw ddim yn sylweddoli mai PTSD sy’n achosi’r symptomau hyn.   Pan fo pobl yn wael iawn, efallai y byddan nhw’n cael trafferth credu y bydd y teimladau a oedd ganddyn nhw o’r blaen, cyn y digwyddiad trawmatig, yn dychwelyd. Gall hyn eu gwneud yn gyndyn o geisio help.  Hefyd, camddealltwriaeth cyffredin yw meddwl mai pobl yn y lluoedd arfog yn unig sy’n datblygu PTSD. Mewn gwirionedd, gall PTSD ddigwydd i unrhyw un ohonom, ac mae pob profiad o PTSD yn ddilys.  

Diagnosis anghywir  

Efallai y bydd rhai pobl sy’n dioddef o PTSD yn cael diagnosis anghywir – efallai y cân nhw eu diagnosio â chyflyrau fel gorbryderneu iselder, er enghraifft. Fe fydd gan rai pobl broblemau iechyd seicolegol neu gorfforol eraill, ac o’r herwydd efallai y bydd eu PTSD yn cael ei anwybyddu.  Efallai hefyd y bydd ganddyn nhw ‘symptomau corfforol na ellir eu hesbonio’n feddygol’, fel:  

  • anawsterau gastroberfeddol  
  • syndromau poen 
  • cur pen  

Gall y symptomau hyn olygu y bydd eu PTSD yn cael ei ddiagnosio fel rhywbeth arall.

 

Heriau eraill  

Efallai y bydd rhai pobl sy’n dioddef o PTSD yn wynebu heriau eraill hefyd, fel anawsterau perthynas neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Efallai mai’r PTSD a fydd yn achosi’r heriau hyn, ond fe allan nhw fod yn fwy amlwg na’r PTSD ei hun. 


A all plant ddioddef o PTSD?  

Gall PTSD ddatblygu ni waeth be fo’ch oed. Yn ogystal â’r symptomau PTSD a welir mewn oedolion, gall plant ddioddef o’r symptomau canlynol hefyd:  

Breuddwydion brawychus

Mewn plant, efallai y bydd/na fydd y breuddwydion yn adlewyrchu’r digwyddiad trawmatig go iawn.


Chwarae ailadroddus 

Fe fydd rhai plant yn ail-greu’r digwyddiad trawmatig wrth chwarae. Er enghraifft, efallai y bydd plentyn a fu mewn damwain ffordd ddifrifol yn ail-greu’r ddamwain gyda cheir tegan. 


Symptomau corfforol 

Efallai y bydd ganddyn nhw boen yn eu bol a chur pen.


Ofni y bydd eu bywyd yn dod i ben yn fuan

Efallai y cân nhw drafferth credu y byddan nhw’n byw’n ddigon hir i ddod i oed.