Portreadu salwch meddwl yn y cyfryngau

 

Nid yw’r cyfryngau yn rhoi unrhyw fantais tuag at ddeall a dysgu am salwch meddwl. Mae’r cyfryngau yn cyfrannu yn helaeth tuag at stigma salwch meddwl a gwneud hynny wrth bortreadu cyflyrau salwch meddwl mewn ffordd anghywir ac annheg. O ganlyniad, mae pob math o gyfryngau gan gynnwys teledu, ffilm, cylchgronau, papurau newydd, a chyfryngau cymdeithasol wedi cael eu beirniadu am ledaenu darluniau negyddol a disgrifiadau anghywir o gyflyrau salwch meddwl.

Un enghraifft o’r stigma mewn cyfryngau yw’r salwch meddwl sgitsoffrenia a'r portread o’r cyflwr mewn ffilmiau. Falle eich bod erioed wedi sylwi ar hyn, ond mae’r cymeriadau sydd yn dioddef o sgitsoffrenia mewn ffilmiau yn aml yn cael eu portreadu mewn ffilmiau genres megis arswyd, ac mae’r cymeriadau yn cael ei phortreadu ynddynt fel y llofrudd neu’r cymeriad gwallgof peryglus. Mae’r cyfryngau yn dueddol i ffocysu ar yr unigolyn sydd yn dioddef a’r cyflwr salwch meddwl, yn hytrach na chanolbwyntio ar y salwch meddwl fel problem gymdeithasol. Oherwydd hyn mae’r cyfryngau yn pwyntio bys ar yr unigolyn hwnnw a rhoi bai arnyn nhw ei hun am fod gyda salwch meddwl. Pa dda mae hynny yn ei gwneud i bobl gyffredin sydd yn dioddef o salwch meddwl? 

Mae bai mawr ar y cyfryngau wrth bortreadu cyflyrau salwch meddwl mor anghywir. Mae gwneud hyn yn hynod o niweidiol tuag at bobl sydd yn dioddef a salwch meddwl, ond hefyd yn argyhoeddi a phortreadu yn anghywir i bobl beth yw salwch meddwl. Maent yn portreadu symptomau cwbl wahanol i’r gwir symptomau mewn ffilmiau a rhaglenni ac felly yn bwydo gwybodaeth ffug i bawb. 

Wrth fynd nôl i ganolbwyntio ar bortread o gymeriadau sydd yn dioddef o sgitsoffrenia mewn ffilmiau, wrth eu portreadu fel pobl dreisgar mae’n rhoi dylanwad drwg i wylwyr, ac yn datblygu agwedd negyddol tuag at bobl sydd gyda’r cyflwr. Rhaglen teledu a dderbyniodd llawer o feirniadaeth dros wefannau cymdeithasol fel twitter wrth gael ei gyhuddo o stigmateiddio salwch meddwl, oedd ‘Life on the Psych Ward’ a chafodd ei ddarlledu ar Channel 4 gynharach yn y flwyddyn. Darluniodd a stereoteipio'r rhaglen i bobl a chyflyrau meddyliol i fod yn beryglus. Efallai roedd hyn hefyd oherwydd bod y rhaglen wedi canolbwyntio ar dri o gleifion a oedd hefyd yn droseddwyr yn hytrach na chynnwys pobl arferol oedd yn dioddef o salwch meddwl hefyd.

Yn ogystal â rhaglenni teledu mae adroddiadau newyddion hefyd yn wael am orliwio a disgrifio unrhyw ymosodiadau treisgar sydd wedi cael ei chyflawni gan unigolion â salwch meddwl. Mae ystadegau yn dangos bod cynydd mewn trais sydd wedi cael ei gyflawni gan blant ac ieuenctid sydd yn dioddef o salwch meddwl.  Mae’r newyddion yn neud i hyn ddod ar draws bod pobl a salwch meddwl yn cynnal mwy o droseddau na phobl sydd ddim, nid yw hynny yn wir o gwbl.  Mae mwy o bobl sydd ddim yn dioddef o salwch meddwl, yn cyflawni mwy o drais a throsedd nag y rhai sydd yn dioddef o salwch meddwl. Mae hyn yn pwysleisio pa mor anghywir ydi o i stereoteipio'r bobl sydd yn dioddef o salwch meddwl iddyn nhw fod yn ‘beryglus’.

Mae’n rhaid i bethau newid, yn enwedig yn y cyfryngau. Mae’r cyfryngau yn rhan fawr o fywydau pobl dyddiau yma ac yn dylanwadu yn fawr ar bobl hefyd. Rhaid i’r cyfryngau gael gwell dealltwriaeth tuag at salwch meddwl cyn eu portreadu yn gwbl anghywir mewn ffilmiau a rhaglenni. 

Yn hytrach na mynd ymlaen gyda phortreadu salwch meddwl yn anghywir dylai’r cyfryngau addysgu am yr arferion a symptomau'r cyflyrau meddyliol cyn eu portreadu yn afrealistig yn y cyfryngau. Dylai nhw hefyd gynnig a gweithredu cyrsiau cyflyrau salwch meddwl i newyddiadurwyr a chynhyrchwyr ffilmiau, canolbwyntio ar yr agweddau cymdeithasol o’r salwch meddwl yn hytrach na chanolbwyntio ar yr unigolyn a defnyddio terminoleg cyflyrau salwch meddwl yn gywir a manwl er mwyn addysgu gwylwyr. 

Rhaid i’r cyfryngau gofio na dim ond arbenigwr sydd yn gallu gwneud diagnosis o salwch meddwl. Wrth i’r cyfryngau eu hunan roi label a phortread o salwch meddwl mai’n creu niwed i’r bobl sydd yn delio gyda salwch meddwl. 

Fel dywedais i gynt, mae’r cyfryngau yn rhan fawr o'n bywydau, rydym yn credu popeth sydd yn cael ei dangos arno, a dyna pam mae’n rhaid i’r cyfryngau newid ei ffyrdd a bod yn ofalus ar sut a beth maent yn ei dangos. 

Mae’r cyfryngau yn siapio ein syniadau a hefyd ein dealltwriaeth o faterion a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â salwch meddwl. Mae’n drist pa mor gyffredin ydi’r portreadu negyddol yma o salwch meddwl sydd dim ond yn gwaethygu’r sefyllfa ac atgyfnerthu'r credoau anghywir tuag at salwch meddwl. Wrth gwrs mae hyn yn cael ei waethygu wrth orliwio a dangos ymddygiadau anarferol sydd gan salwch meddwl gwahanol. 

Oherwydd hyn mae’n gallu achosi i ddioddefwyr atal gofyn am gymorth gan nad ydynt eisiau cael ei adnabod yn ‘beryglus’ neu'r ffordd anghywir mae ei salwch meddwl wedi cael ei phortreadu yn y cyfryngau.