Sgitsoffrenia

 

NHS logo
Darparwyd y wybodaeth isod gan NHS.UK
 

 

Mae sgitsoffrenia yn gyflwr iechyd meddwl hirdymor difrifol. Mae'n achosi ystod o wahanol symptomau seicolegol.


Mae meddygon yn aml yn disgrifio sgitsoffrenia fel math o seicosis. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y person bob amser yn gallu gwahaniaethu rhwng ei feddyliau a'i syniadau ei hun a realiti. 

Mae symptomau sgitsoffrenia yn cynnwys:

  • rhithweledigaethau – clywed neu weld pethau nad ydynt yn bodoli y tu allan i'r meddwl
  • hithdybiau – credoau anarferol heb eu seilio ar realiti
  • meddyliau dryslyd yn seiliedig ar rithweledigaethau neu rithdybiau
  • colli diddordeb mewn gweithgareddau bob dydd
  • ddim yn poeni am eich hylendid personol
  • eisiau osgoi pobl, gan gynnwys ffrindiau

Nid yw sgitsoffrenia yn achosi i rywun fod yn dreisgar ac nid oes gan bobl â sgitsoffrenia bersonoliaeth hollt.
 

Pryd i gael cyngor meddygol

Os ydych chi'n profi symptomau sgitsoffrenia, ewch i weld meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Gorau po gyntaf y caiff sgitsoffrenia ei drin. 

Nid oes un prawf ar gyfer sgitsoffrenia. Fel arfer daw'r diagnosis ar ôl asesiad gan weithiwr gofal iechyd meddwl proffesiynol, fel seiciatrydd.


Achosion sgitsoffrenia

Nid yw union achos sgitsoffrenia yn hysbys. Ond mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn credu bod y cyflwr yn cael ei achosi gan gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol. 

Credir bod rhai pobl yn fwy agored i ddatblygu sgitsoffrenia, a gall rhai sefyllfaoedd achosi'r cyflwr fel digwyddiad bywyd llawn straen neu gamddefnyddio cyffuriau.


Trin sgitsoffrenia

Mae sgitsoffrenia fel arfer yn cael ei drin gyda chyfuniad o feddyginiaeth a therapi wedi'u teilwra i bob unigolyn. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, meddyginiaethau gwrthseicotig a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) fydd hyn. 

Mae pobl â sgitsoffrenia fel arfer yn cael cymorth gan dîm iechyd meddwl cymunedol, sy'n cynnig cymorth a thriniaeth o ddydd i ddydd.

Mae llawer o bobl yn gwella o sgitsoffrenia, er y gallant gael cyfnodau pan fydd y symptomau'n dychwelyd (ail bwl o salwch).

Gall cymorth a thriniaeth helpu i leihau'r effaith y mae'r cyflwr yn ei gael ar fywyd bob dydd.

 

Byw gyda sgitsoffrenia

Os caiff sgitsoffrenia ei reoli'n dda, mae'n bosibl lleihau'r siawns o ail byliau difrifol. 

Gall hyn gynnwys:

  • adnabod arwyddion pwl acíwt
  • cymryd meddyginiaeth fel y rhagnodir
  • siarad ag eraill am y cyflwr 

Mae llawer o elusennau a grwpiau cymorth yn cynnig cymorth a chyngor ar fyw gyda sgitsoffrenia. 

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael cysur o siarad ag eraill sydd â chyflwr tebyg.

Ffynhonnell:  NHS UK 
Yn cynnwys gwybodaeth y sector cyhoeddus a drwyddedwyd o dan y Drwydded Llywodraeth Agored v.3.0 
https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/  

 

 

symptoms

Symptomau

Mae sgitsoffrenia yn newid sut mae person yn meddwl ac yn ymddwyn. Gall y cyflwr ddatblygu'n araf. Gall fod yn anodd adnabod yr arwyddion cyntaf gan eu bod yn aml yn datblygu yn ystod yr arddegau.

Dysgu mwy
help

Sut gall ffrindiau a theulu helpu?

Os oes gan rywun yn agos atoch sgitsoffrenia, gall fod yn anodd gwybod sut i helpu, ond mae llawer o bethau y gallwch roi cynnig arnynt.

Dysgu mwy
mind logo

Cysylltiadau defnyddiol

Gwybodaeth am wasanaethau gan Mind a sefydliadau eraill.

Dysgu mwy