Stereoteipio OCD

 

Mae pob salwch meddwl yn cael ei cham-gynrychioli yn y gymdeithas ond yn enwedig OCD. Mae defnyddio’r term ‘dwi mor OCD’ yn cael ei daflu o gwmpas gormod ac mor anhysbys gan bobl wrth iddynt beidio sylwi pa mor niweidiol mae’n gallu bob i bobl sydd yn dioddef a OCD. 

 

Mae defnyddio problemau iechyd meddwl fel ansoddeiriau cyffredin yn gwneud i'r peth go iawn ymddangos yn llai arwyddocaol yng ngolwg cymdeithas.

 

Gall stereoteipio pobl sydd a OCD, wrth gysylltu nhw a bod yn glanhau bob awr o’r dydd ac eisiau pethau fod mewn ffordd benodol fod yn wir, ond mae llawer mwy i’r salwch na hynny. Wrth stereoteipio fel hyn nid yw’n canolbwyntio ar y ffactorau eraill i’r salwch ac yn gwneud i bobl gwestiynu os ydyn nhw yn dioddef o OCD neu beidio gan ei bod wedi cael ei pherswadio i feddwl ffordd wahanol. Nid oes digon yn cael ei wneud i addysgu pobl amdano. 

 

OCD yw meddyliau obsesiynol sy’n cael ei sbarduno gan ofnau mwyaf yr unigolyn hynny. Enghraifft o hyn yw os nad ydw i am gyffwrdd y drws tair gwaith fydd rhywbeth drwg yn digwydd i aelod o fy nheulu. Y meddylfryd yw bod y canlyniad bob amser yn dibynnu ar y weithred. Mae hyn yn digwydd yn ddyddiol a phob eiliad o’r dydd i bobl sydd yn dioddef o OCD. 

 

Mae ystadegau yn dangos bod OCD yn effeithio 2% o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Mae’n drist i feddwl bod dioddefwyr OCD yn aros ar gyfartaledd 12 mlynedd cyn estyn allan am gymorth. Oherwydd y stereoteipio o beth yw’r cyflwr OCD nid yw pobl yn deall pa mor ddifrifol ydi’r cyflwr. Mae’n gyflwr blinedig iawn yn feddyliol ag emosiynol wrth orfod ailadrodd gweithredoedd neu wneud rhywbeth yn penodol. 

 

Felly, mae’n rhaid cwestiynu pam bod y salwch dal yn cael ei daflu o gwmpas a phobl dal i ddweud pethau fel ‘dwi mor OCD’ pan tydyn nhw ddim? Nid yw cyflyrau salwch meddwl eraill yn cael y driniaeth yma felly pam bod OCD yn?

 

Wrth atal y stereoteipio sydd yn dod gyda OCD mae’n gadael i ddioddefwyr siarad yn gyfforddus am y cyflwr. Mae’n bwysig i bobl addysgu am y cyflyrau ac i fod yn ofalus am beth maen nhw yn ei ddweud. Mae’r frawddeg ‘dwi mor OCD’ yn cael ei ddefnyddio lot gormod ac yn ddiangen hefyd, yn enwedig os nad ydych chi’n dioddef o’r cyflwr ac yn gallu bod yn niweidiol iawn i glywed wrth ddioddef o’r cyflwr OCD!