Sut i helpu rhywun sy’n galaru

help

Os yw eich ffrind neu berthynas yn galaru

Os yw eich ffrind neu berthynas yn galaru, gall fod yn anodd gwybod sut i’w helpu. Mae’n naturiol i deimlo ychydig yn anghyfforddus, neu boeni y gallech wneud pethau’n waeth.

 

Sut i helpu rhywun mewn profedigaeth

Peidiwch â gadael i’ch pryderon a’ch ofnau eich rhwystro rhag bod yno ar adeg pan fydd eich angen yn fwy nag erioed. Mae rhai pethau bach syml y gallwch eu gwneud i’w helpu a’u cefnogi.

 

Gwrando

Un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud i rywun sydd mewn profedigaeth yw gwrando.

Gall fod yn sgwrs anodd i ddechrau, ond mae’n bwysig dros ben eich bod yn cysylltu â’ch ffrind neu berthynas a gadael iddynt wybod eich bod yn meddwl amdanynt.

Mae’n bwysig deall na allwch ‘wella’ eu galar. Ond mi allwch eu helpu drwyddo. Rhowch ofod iddynt i ddygymod â’r hyn sydd wedi digwydd. Gallwch hefyd geisio gofyn iddynt sut un oedd yr unigolyn pan oedd yn fyw.

Darllenwch ein hawgrymiadau ar sut i siarad â rhywun sy'n galaru

 

Cynnig help ymarferol

Gall help gyda phethau ymarferol fod yn fuddiol iawn pan fyddwch yn galaru. Mae pobl mewn galar yn aml yn cael anhawster gwneud penderfyniadau. Os dywedwch chi ‘Gadewch imi wybod os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud’ bydd angen iddynt gysylltu a meddwl am beth i ofyn amdano. Gall yn fod yn anodd. 

Yn hytrach, ceisiwch wneud awgrymiadau penodol. Er enghraifft:

 

 “Beth am imi gasglu’r plant o’r ysgol ddydd Iau?”

 

yn well na …

 

“Gadewch imi wybod os hoffech imi warchod y plant rywbryd.”

 

Os oedd y sawl sydd wedi marw yn darparu help neu ofal i’ch ffrind neu berthynas, efallai y bydd angen help ychwanegol arnynt o gwmpas y tŷ yn awr. Gallai fod yn fuddiol i weld pa help sydd ar gael a gadael yr wybodaeth gyda hwy. Peidiwch â rhoi pwysau arnynt gan y bydd adegau pan fyddant yn teimlo bod yr holl bethau sydd angen eu gwneud yn ormod, a bydd angen iddynt wneud pethau’n raddol.

 

Ystyriwch eu sefyllfa unigol

Mae galar yn gyffredin i bawb, ond mae gan ddiwylliannau gwahanol eu traddodiadau a’u harferion eu hunain, felly ceisiwch wybod beth sydd ei angen ar eich ffrind neu berthynas. Efallai bod rhai pethau sy’n bwysig iddynt hwy nad ydych chi wedi meddwl amdanynt neu na fyddai’n flaenoriaeth i chi. Daliwch ati a cheisiwch ddeall beth yw eu hanghenion.

Meddyliwch am bethau a all effeithio ar eu profiadau fel iechyd, anabledd, rhywedd a rhywioldeb. Os oedd eu perthynas â’r sawl sydd wedi marw yn un anodd, gallai hyn wneud eu teimladau’n fwy dryslyd ac anodd i ddelio â hwy.
 

Deall nad yw galar byth yn eich gadael

Peidiwch â disgwyl y daw’r person dros farwolaeth rhywun agos – mewn amser mi fydd y boen yn llai annioddefol ond mi fydd adegau a fydd yn anodd o hyd flynyddoedd neu ddegawdau’n ddiweddarach. Mae ffrindiau a pherthnasau gwirioneddol werthfawr yn sylweddoli bod hyn yn rhywbeth tymor hir.

 

Cofiwch ddyddiadau pwysig

Gall pen blwyddi priodas, pen blwyddi, gwyliau a dyddiau arbennig fel Sul y Mamau neu Ddydd Santes Dwynwen neu Ffolant fod yn arbennig o boenus i lawer o bobl. Gall cofio a chynnig cefnogaeth ar yr adegau hyn fod yn gysur mawr.

 

Byddwch yn barod i wneud rhywbeth yn anghywir

Pa mor galed bynnag y byddwch yn ymdrechu i fod yn ffrind da, mae adegau pan fyddwch yn dweud y peth ‘anghywir’, neu’n achosi gofid. Mae’n bosibl na fyddwch wedi dweud dim o’i le droeon lawer, ond nid dyna oeddent eisiau ei glywed. Ceisiwch gadw meddwl agored ond cofiwch hefyd efallai mai eu galar sy’n achosi gofid iddynt, ac nad yw’n ddim i’w wneud â chi.

 

Byddwch yn ymwybodol o’u hanghenion

Bydd anghenion rhywun mewn galar yn newid o ddydd i ddydd, ac mae bron yn amhosibl gwneud y peth iawn bob tro. Gall pobl mewn profedigaeth ei chael yn anodd rheoli eu tymer pan fydd pethau’n mynd o chwith.

Os ydych yn agos iawn atynt efallai y byddwch yn sylwi eu bod yn edrych arnoch fel person diogel y gallant fod yn ddig ag ef. Gall fod yn anodd delio â hyn a bydd angen bod yn sensitif wrth geisio diwallu eu hanghenion. Weithiau mi fyddant eisiau llonydd ar eu pen eu hunain am ychydig. Mae’n bwysig parchu eu hangen am lonydd, ond daliwch ati i holi rhag ofn bydd eu hanghenion yn newid.

 

Awgrymwch wasanaethau defnyddiol

Nid oes amserlen na chamau pendant mewn galar. Fodd bynnag, os bydd rhywun yn dal i’w chael yn anodd ymdopi â bywyd pob dydd ar ôl rhai misoedd, neu nad ydynt yn cael dim pleser yn y pethau roeddent yn arfer eu mwynhau, efallai bod angen help ychwanegol arnynt. Ceisiwch eu perswadio i ffonio Llinell Gymorth Cruse, neu ddefnyddio ein gwasanaeth sgwrsio neu chwilio am eu cangen leol.

Mi fydd yn gyffredin i bobl deimlo nad ydynt eisiau parhau i fyw ar ôl i rywun sy’n annwyl iddynt farw. Mae tystiolaeth yn dangos bod holi rhywun am eu teimladau o hunanladdiad yn debygol o’u hamddiffyn. Gallwch ddarllen mwy am helpu rhywun a all deimlo fel lladd eu hunain ar wefan y Samariaid

 

Edrychwch ar ôl eich hun

Gall helpu rhywun ar adeg mor anodd fod yn brofiad emosiynol iawn. Cofiwch y gallwch helpu mwy os ydych chi eich hun yn cadw’n gryf. Rydym yma i’ch helpu chi hefyd os ydych yn teimlo’r angen i siarad â rhywun. 

 

Darparwyd y wybodaeth uchod gan Cruse Bereavement Support:  How to support someone who is grieving - Cruse Bereavement Support