Symptomau annisgwyl ond arferol pwl o banig

Mae gan bawb ddarlun yn eu meddwl pan maent yn clywed y term pwl o banig neu ‘panic attack’, ond y cwestiwn pwysig yw, ydi’r darlun yma yn un cyflawn a chynrychiolaethol?

Mae nifer fawr o bobl yn profi pyliau o banig yn ystod eu hoes, gall fod yn rhan rheolaidd o gyflwr meddyliol megis gorbryder neu ffobia, neu gall fod yn achos ar ei ben ei hun. Mae pobl sydd ddim wedi cael profiad eu hunain o bwl o banig am ganfod eu dehongliad o beth maent yn ei weld a’i glywed mewn rhaglenni teledu a ffilm, ond gall hwn fod yn ddarlun gorddramatig ac anghywir o bwl o banig. Rhai symptomau cyffredin o bwl o banig yw anawsterau anadlu, curiad y galon yn cyflymu a meddyliau negyddol ymwthiol, fodd bynnag mae yna rai symptomau ffisegol o banig a all fod yn fwy anghyffredin. Mae’n bwysig dysgu am y rhain er mwyn gwybod beth sydd yn mynd ymlaen yn ystod bwl o banig rhag bod y symptomau mwy anghyffredin yma yn achosi mwy o bryder.

 

  1. Pinnau bach neu golli teimlad: pinnau bach yw’r teimlad tingly yn y corff, i rai gall achosi cosi ac i eraill gall fod yn deimlad anghyfforddus iawn, poenus hyd yn oed. Y rhan amlaf y mae yn y dwylo, traed a’r wyneb o’n gall hefyd fod drwy’r breichiau a’r coesau a hyd yn oed gweddill y corff. Mi all rhannau o’r corff hefyd fod yn ddideimlad. Mae hyn yn digwydd oherwydd newid mewn pwysedd yn y corff a all fod yn gysylltiedig â thensiwn, llif ein gwaed a hyperventilation (anadlu gormod o aer), sydd i gyd yn symptomau cyffredin o bwl o banig. Gallir lleddfu’r effaith yma drwy anadlu’n araf ac ymlacio neu drwy ysgwyd y rhannau o’r corff sydd yn ddideimlad neu gyda phinnau bach.

  2. Teimlo’n benysgafn: gellir yn aml iawn deimlo’n benysgafn oherwydd straen a phwl o banig. Mae’n bosib fod hyn yn cael ei achosi gan ‘hyperventilation’, os anadlwn i mewn gormod o ocsigen gan anadlu allan ormod o garbon deuocsid, mae’n nghorff yn delio gyda hyn drwy gyfyngu llif y gwaed i’n hymennydd. Rheswm arall yw bod nifer o bobl yn profi teimlad o fod yn benysgafn pan maent o dan straen, tebyg i bwl o banig. Y ffordd orau i oresgyn hyn yw drwy geisio dod a’r anadl yn ôl i’r amser arferol, ac eistedd neu hyd yn oed orwedd i lawr ac os yn bosib codi eich traed ar glustog i annog llif y gwaed yn ôl i rannau uchaf y corff.

  3. Ceg sych: gall ceg sych fod yn deimlad anghyfforddus iawn, gan ei gwneud yn anodd siarad weithiau. Rydym yn cael ceg sych yn ystod bwl o banig oherwydd bod ein chwarennau poer yn rhan o’r system dreulio a bod y system dreulio yn cael ei chau i lawr dros dro yn ystod bwl o banig. Mae hyn oherwydd bod ein system ymladd neu hedfan yn newid ffocws ac egni ein corff megis o’r system dreulio i’n cyhyrau er enghraifft. Gallir lleddfu'r symptom yma gyda chegaid o ddŵr ac mi fydd yn diflannu yn gyflym wedi’r pwl o banig basio.

  4. Anawsterau gweledol: mae yna gysylltiad rhwng gorbryder neu straen a gweld sbotiau neu sgwigls bach, gweld statig a tunnel vision. Nid yw'r gwaith ymchwil yn glir beth yw achos hyn ond tybir ei fod yn gysylltiedig â’r chwistrelliad o adrenalin y mae unigolyn yn ei gael pan mae'r system ymladd neu hedfan yn cael ie hactifadu.

  5. Cryndod: mae’n gyffredin iawn i gal ysgwyd neu gryndod na ellir ei reoli yn ystod bwl o banig. Dyma ein corff yn paratoi ei hun ar gyfer rhedeg neu hedfan pan mae’r system barasympathetig yn cael ei actifadu. Mae’r sgil effaith o waed yn mynd i’n cyhyrau ac adrenalin yn mynd o amgylch y corff yn arwain at y tensiwn sydd yn arwain at y cryndod. Mae ymdrechu i ymlacio yn helpu gyda chryndod gellir gwneud hyn drwy dynhau rhannau o’r corff gan gychwyn o’r traed i fyny am ddeg eiliad wrth anadlu’n araf ac yna eu hymlacio.

  6. Brech: gellir datblygu brech sydd yn edrych fel sbloges coch neu lympiau cosi mewn cyfnod o orbryder neu bwl o banig a gall fod wedi ei leoli yn rhywle ar y corff. Mae’n fwy cyffredin i ddatblygu brech gyda straen hir dymor ond gall godi yn sgil pwl o banig. Mae’r frech yn codi oherwydd bod ein corff yn rhyddhau cortison ac adrenalin yn ystod bwl o banig ac mae’r ddau hormon yma yn gallu adweithio gyda’n croen. Mi ddylai'r frech ddiflannu ar ei ben ei hun, ond mae’n bwysig i beidio crafu neu gosi unrhyw beth a all lidio’r croen. Mae’n bosib cael cawod oer neu roi cywasgiad oer ar y frech i leddfu’r teimlad annifyr.

  7. Chwysu’n oer ac yn boeth: gellir chwysu o unman o’r corff ac mi all ddod ynghyd a phyliau poeth neu byliau oer. Mae chwysu yn un o’n hymatebion pennaf i straen ac mae’n gallu bod yn anodd ei reoli. Y ffordd orau i oresgyn chwysu yw i oresgyn y pwl o banig, ond yn y cyfamser gallai cadach gwlyb oer ar eich talcen helpu pyliau poeth neu gael potel ddŵr poeth helpu pyliau oer.

  8. Dadreoleiddio a Dadbersonoli: dadbersonoli yw pan ydych yn datgysylltu ohonoch chi’ch hunan, yn teimlo fel eich bod chi tu allan i’ch corff. Dadreoleiddio yw datgysylltu rhag y byd, ddim yn teimlo’n rhan o’ch amgylchedd. Dyma ddau symptom meddyliol. Wrth brofi dadreoleiddio neu ddadbersonoli gall y byd o’ch cwmpas edrych yn ddieithr, niwlog neu anghyfarwydd, ac mae'r rhain i gyd yn brofiadau a all gynyddu straen a gorbryder. Y peth gorau i'w wneud ydi sylweddoli mai hyn sydd yn digwydd a cheisio dod yn ôl at realiti, gellir gwneud hyn drwy gyffwrdd rhywbeth oer neu efallai binsio eich llaw yn ysgafn.

  9. Gwichian yn eich clustiau: gall unigolyn glywed sŵn gwichian yn eu clustiau yn ystod pwl o banig ac mi all gyd-fynd a theimlad o bwysau ar y clust. Does yna ddim sicrwydd mewn ymchwil o achos y sŵn ond tybir ei fod yn ymwneud a’r newid mewn llif y gwaed yn ystod pwl o banig a’i effaith ar y blew bach sydd yn ein clustiau. Does dim llawer y gellir ei wneud i leddfu’r teimlad yma ond mi fydd yn diflannu yn fuan wrth i’r pwl o banig basio.

  10. Blinder: ar ôl i bwl o banig basio gall adael yr unigolyn yn teimlo’n flinedig ofnadwy, gan ei fod o yn brofiad hynod o ddwys ac yn defnyddio llawer o egni. Meddyliwch, profi'r naw symptom blaenorol ac anawsterau anadlu i gyd ar yr un pryd am gyfnod o ugain munud neu hyd yn oed oriau weithiau. Mae’r meddwl am fod wedi blino oherwydd y meddyliau ymwthiol ac mae’r corff am fod wedi blino oherwydd y sgil effeithiau ffisegol. Mae’n bwysig rhoi digon o amser i chi eich hun i ddod yn ôl atoch eich hun wedi i’r panig basio.

Faint o’r symptomau yma yr oeddech chi’n ymwybodol ohonynt? Efallai y byddai yn ddefnyddiol i chi anfon y rhestr yma i addysgu rhywun arall am sut y mae pwl o banig a’r symptomau yn edrych. Mae’n bwysig addysgu’n hunain ac eraill fel ein bod yn osgoi unrhyw straen ychwanegol y gall y profiadau ffisegol yma achosi yn ystod pwl o banig. Wrth gwrs, mae pwl o banig yn gallu bod yn wahanol i bawb, fydd profiadau pawb ddim yr un fath. Yn olaf, petai’r symptomau yma yn mynd anodd ei dioddef neu nad ydynt yn diflannu ar ôl y pwl o banig basio dylech fynd i weld meddyg i gael cymorth a chyngor ychwanegol.