Teimladau pan fydd rhywun yn marw

feelings

Mae galaru yn naturiol ac yn normal. Nid yw’n salwch, er y gall wneud i chi deimlo’n sâl. Ni fydd yn para am byth, er y gall fod adegau pan fydd yn ymddangos na fydd y boen byth yn dod i ben. Does dim ffordd ‘gywir’ i alaru ac rydyn ni i gyd yn ymateb yn ein ffordd ein hunain. Ond mae rhai o  gleientiaid Cruse Bereavement Support wedi dweud eu bod yn teimlo'r emosiynau canlynol.
 

Mi allwch deimlo nifer o bethau yn union ar ôl marwolaeth

 

Sioc

Mi all gymryd amser hir i amgyffred yr hyn sydd wedi digwydd. Gall y sioc eich gwneud yn ddiffrwyth, a bydd rhai pobl ar y dechrau’n dal i fynd fel pe bai dim wedi digwydd. Mae’n anodd credu na fydd rhywun sy’n bwysig yn dod yn ôl. Bydd llawer o bobl yn teimlo ar goll – fel eu bod wedi colli eu lle a phwrpas mewn bywyd neu eu bod yn byw mewn byd gwahanol.

 

Poen

Gall y teimladau o boen a thrallod yn dilyn profedigaeth fod yn llethol ac yn frawychus iawn.

 

Dicter

Weithiau gall pobl mewn profedigaeth deimlo’n ddig. Mae’r dicter hwn yn emosiwn cwbl naturiol, sy’n nodweddiadol o’r broses o alaru. Gall marwolaeth ymddangos yn greulon ac annheg, yn enwedig pan fyddwch yn teimlo bod rhywun wedi marw cyn eu hamser neu pan oedd gennych gynlluniau ar gyfer y dyfodol gyda’ch gilydd. Gallwch deimlo’n ddig hefyd tuag at y sawl sydd wedi marw, neu’n ddig tuag at ein hunain oherwydd pethau roeddem wedi neu heb eu gwneud neu eu dweud wrth y person cyn eu marwolaeth.

 

Euogrwydd

Mae euogrwydd yn adwaith cyffredin arall. Mae pobl sydd wedi colli rhywun agos yn aml yn dweud eu bod yn teimlo eu bod i’w beio’n uniongyrchol neu anuniongyrchol am eu marwolaeth. Mi allwch deimlo’n euog hefyd os oedd gennych berthynas anodd neu ddryslyd â’r sawl sydd wedi marw, neu os ydych chi’n teimlo na wnaethoch ddigon i’w helpu pan oeddent yn fyw.

 

Iselder 

Mae llawer o bobl mewn profedigaeth yn profi teimladau o iselder yn dilyn marwolaeth rhywun annwyl. Gallant deimlo nad oes ystyr i fywyd bellach ac mae rhai pobl yn dweud eu bod hwythau hefyd eisiau marw.

 

Hiraeth

Mae meddwl eich bod yn clywed neu’n gweld rhywun sydd wedi marw yn brofiad cyffredin a gall ddigwydd ar yr adegau mwyaf annisgwyl. Mi allwch deimlo na allwch beidio â meddwl am y digwyddiadau a arweiniodd at y farwolaeth. Gall “gweld” y sawl sydd wedi marw a chlywed eu llais ddigwydd am fod yr ymennydd yn ceisio prosesu’r farwolaeth a chydnabod ei bod yn derfynol.

 

Adweithiau pobl eraill

Un o’r pethau mwyaf anodd i’w hwynebu pan fyddwn mewn profedigaeth yw sut mae pobl yn ymateb inni. Yn aml nid ydynt yn gwybod beth i’w ddweud na sut i ymateb i’n colled. Ac am na wyddant beth i’w ddweud neu am eu bod yn poeni y byddant yn dweud rhywbeth na ddylent, gall pobl osgoi’r sawl sydd wedi colli rhywun. Mae hyn yn anodd inni gan ein bod yn aml eisiau siarad am y sawl sydd wedi marw. Gall fod yn arbennig o anodd wrth i amser fynd yn ei flaen ac wrth i atgofion pobl eraill o’r sawl sydd wedi marw ddechrau pylu.

 

Darparwyd y wybodaeth uchod gan Cruse Bereavement Support:  https://www.cruse.org.uk/get-help/about-grief/feelings-when-someone-dies