Trais yn y cartref ac ymdopi yn y brifysgol

*RHYBUDD CYNNWYS* 

 

Dyma flog gonest a dewr o brofiad personol myfyrwraig o drais yn y cartref fel person ifanc cyn dechrau yn y brifysgol. Mae'n mynd i fanylder am ei brwydr fewnol o deimlo'n euog ac ar fai a'i phrofiad hi o drio goresgyn y meddyliau negatif yma. Mae hi'n son am y cymorth y derbyniodd gan arbenigwyr a ffrindiau i arwain hi i fod mewn sefyllfa well yn feddyliol. 

 

Wythnos yn union cyn i mi ddechrau yn y brifysgol nes i a mam adael adre, dianc o rywle oedd fod llawn cariad ond am flynyddoedd, oedd yn llawn peryg, tristwch a thrais. Erbyn heddiw ma’ da ni dŷ newydd a dwi ddim yn gallu cofio adeg lle ro’n i’n hapusach gyda fy mywyd. Mae ‘di bod ychydig dros 9 mis ers i ni adael, sydd hefyd yn golygu mae wedi bod yn 9 mis ers i rywun wneud niwed meddyliol a chorfforol i mi. 

 Ro’n i’n ferch hapus, hyderus a llawn sbri ac yn manteisio ar unrhyw gyfle i gymdeithasu gyda ffrindiau, teulu neu gwsmeriaid yn y siop lle o’n i’n gweithio. Ond dros amser fel asid wan, gwnaeth y dyn ‘ma oedd i fod i fy ngharu fy nhroi i mewn i berson oedd yn gysgod o’r ferch yr oeddwn i’n arfer bod. Ro’n i’n poeni am y pethau lleiaf mewn bywyd, doedd gen i braidd dim rheolaeth dros fy emosiwn ac yn aml mi fyswn i’n beichio llefain sawl gwaith y dydd yn yr ysgol am bron i ddim rheswm. Dros amser dechreuais gasáu pob agwedd o’m mywyd ac bues yn agos iawn at adael astudio Lefel A yn y chweched, roedd popeth yn edrych mor ddu a ddim ffordd mas. Dechreuais hefyd neud niwed i fy hun, dechreuodd pethau’n fach fel crafu neu ddyrnu’n hun ac wedyn yn y dyddiau tywyllaf defnyddiais siswrn neu unrhyw beth o’n i’n gwybod byddai’n gwneud loes. Ro’n i’n credu gan fod fy nhad yn fy nghosbi’n gorfforol pe bawn i’n gwneud camgymeriad, y dylwn i wneud yr un peth. Ac yn aml mi fyddaf wedi gwneud y niwed yma i fi fy hun cyn iddo fe gael cyfle i wneud achos mi ro’n i’n gwybod beth oedd i ddod, ac felly dechreuodd cylch erchyll o niwed a thristwch.

Heblaw am y trais, roedd mwy neu lai bob agwedd o’m mywyd yn cael ei reoli.

Trwy gydol fy amser yn yr ysgol uwchradd, doedd gen i ddim rhyngrwyd adre rhywbeth a oedd yn angenrheidiol gyda’r mwyafrif o waith ysgol. O ganlyniad i hynny roedd hi’n amhosib i mi fod ar unrhyw gyfryngau cymdeithasol, ac felly dechreuais i golli allan ar gysylltu gyda ffrindiau a chwrdd lan. Ro’n i’n ffodus, roedd fy ffrindiau yn cadw mewn cysylltiad ond rhan fwyaf o’r amser roedd hi’n amhosib i mi gwrdd lan gyda nhw, ac yn y blynyddoedd diweddaraf doedd dim pwynt gofyn iddo a oedd hawl da fi i gwrdd lan da’r merched. Yn ogystal â hyn wrth i mi fynd y hŷn roedd yn amlwg y bydde fe’n colli fwy o reolaeth drosaf, a dyna pryd dechreuodd pethau fynd yn fwy difrifol. 

 Dechreuodd pethau fynd yn waeth pan nes i droi’n 16 a mynd i astudio yn y chweched, ac wrth edrych yn ôl nawr digwyddodd hynny achos roedd o’n dechrau colli rheolaeth ar fy mywyd. Cyn hir, mi fuaswn i’n medru gyrru, yfed, mynd allan yn y nos a dianc milltiroedd i ffwrdd i’r brifysgol. Roedd popeth oedd o’n rheoli er mwyn i mi aros yn agos i adref, a doedd dim ots ganddo fy mod i’n teimlo’n isel, yn unig nac yn orbryderus.

Yn y misoedd cyn i ni adael aeth pethau’n waeth, ym mis Ionawr llynedd fe wnaeth e dreial gymryd ei fywyd ei hun a fi wnaeth ei ddarganfod a gofalu amdano. Achos y stigma ynglŷn ag iechyd meddwl yn enwedig yng nghefn gwlad, roedd hi’n amhosib i mi ddweud wrth unrhyw un ac ar ôl gadael teimlais yn gyfrifol os byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd eto heb imi fod adre i’w stopio. Ar ôl hynny dechreuodd e fod yn fwy treisgar ataf, roedd o’n fy nharo mewn llefydd cyhoeddus ar fy nghorff lle byddai pobl yn gweld y cleisiau. Ac wrth i mi ddechrau prifysgol, ro’n i’n edrych fel person ifanc normal, ond o dan fy nillad ro’n i’n cuddio nifer o gleisiau a oedd dal i ddangos ers i ni adael. I nifer o bobl gan gynnwys y ffrindiau newydd cwrddais â fy nhiwtor dwi’n edrych fel myfyriwr arferol, a dwi’n hynod o falch am hynny. Bydd hyn wastad yn rhan o fy mywyd ond trwy’r cymorth dwi’n dal i dderbyn, dwi ddim yn gadael iddo effeithio fy nyfodol ac mewn ffordd dwi’n fwy penderfynol nag erioed i gyrraedd fy mreuddwydion.

Dwi mor ffodus o gael pobl mor anhygoel o hael o’m hamgylch, ffrindiau a theulu a wnaeth deithio milltiroedd i’m helpu. Dangosodd yr wythnosau a’r misoedd ar ôl gadael wir deimladau pobl tuag ataf i. Mi benderfynais ddweud wrth y bobl yn y fflat ac wrth fy ffrindiau ar fy nghwrs gradd, mae’r cymorth cefais o ffrindiau nes i gwrdd braidd diwrnodau ar ôl gadael yn anhygoel ac yn pwysleisio mai nid fi oedd a’r fai. Hebddynt dwi’n siŵr bydden i wedi mynd nôl adre, lle ar ôl gadael byddai’n le mwy peryglus nag erioed. Cefais gymorth a chefnogaeth gan ffrindiau a theulu, rhai ohonynt o’n i ‘di colli cysylltiad am sawl blwyddyn oherwydd y sefyllfa. Ar ôl gadael, mi wnes i gysylltu efo West Wales Domestic Abuse Service, roedd hyd yn oed siarad gyda phobl dros y ffôn yn hynod o ddefnyddiol. Ers hynny dwi’n cael cymorth yn wythnosol ganddynt hyd yn oed pan dwi ddim yn y brifysgol. Ma’ nhw di helpu fi i ddeall bod y sefyllfa adre ddim yn iawn, a bod yr euogrwydd o’n i’n cario am adael yn naturiol ond hefyd yn ddibwys gan mai nid fi ddylai deimlo’n euog. Dwi’n ymwybodol mod i dal mewn peryg mewn ffordd ond mae digonedd o bobl o’m hamgylch i helpu os oedd angen a dwi di cael cyngor gan West Wales Domestic Abuse Service am beth i wneud os mi faswn byth mewn peryg. Os ydych mewn sefyllfa debyg neu angen cymorth o ryw fath, allai ddim canmol faint mae’r sefydliad yma wedi gwneud trosaf er mwyn delio gyda fy amseroedd o banig a thristwch.

Cefais lawer o gefnogaeth gan y brifysgol, cefais sesiwn cymorth myfyrwyr cyn hyd yn oed cofrestru fel myfyriwr. Roedd gen i’r opsiwn o ddechrau astudio blwyddyn yn hwyrach os oedd angen, ac fe wnaeth hynny groesi fy meddwl. Ond mewn realiti, roedd cadw’n brysur a dechrau bywyd hollol newydd y peth gorau i wneud. Heblaw i mi ddechrau’r brifysgol, mi fyswn i wedi gorfod aros yn y tŷ newydd am fisoedd yn meddylu am bopeth, a dwi’n siŵr ar ôl rhyw wythnos neu ddau mi fyswn i wedi mynd nôl adre. Ond yn hytrach na hynny, dwi wedi mynd trwy fisoedd o deimlo’n euog a phoeni beth fyddai pobol adre’n dweud, ond mewn gwirionedd does dim bai arna i o gwbl. Dwi ‘di gallu creu bywyd hollol newydd ar gyfer fi fy hun, a dwi wedi cwblhau blwyddyn o waith yn y brifysgol yn ogystal â chael swydd i fy nghadw i’n brysur.

Er bod fy mywyd yn gan waith gwell erbyn heddiw, dwi’n dal i gael dyddiau gwael gan gynnwys hunllefau ond y peth pwysicaf allai annog wrth unrhyw un i wneud yw siarad gyda rhywun. Nai llai’n gyfaill neu ddieithryn proffesiynol, mae pobl allan i’ch helpu beth bynnag eich sefyllfa a beth bynnag mae’r troseddwr yn ei ddweud, nid eich bai chi yw hyn.