Ymdopi a straen disgwyl canlyniadau

Darllenwch gyngor Lewis ar beth i wneud i dawelu eich meddwl wrth aros am ddiwrnod canlyniadau.  Os ydych yn orbryderus am eich canlyniadau, cofiwch dydych chi ddim ar ben eich hun ac mae cyngor a chymorth ar gael.  Ceir wybodaeth bellach o fewn adran cysylltiadau defnyddiol y wefan.   

 

Sut i ddelio â straen wrth ddisgwyl am ddiwrnod canlyniadau:

- Mae eich teimladau yn ddilys - gyda bob dim sy'n mynd ymlaen yn y byd mae'n naturiol teimlo 'fatha bod eich pryderon a'ch teimladau yn amherthnasol a niwsans i bawb arall, ond y gwir amdani ydi ei bod nhw yn ddilys. Cofiwch fod miloedd ar filoedd o fyfyrwyr yn yr un cwch, a bod eich athrawon/tiwtoriaid yn barod i wrando arnoch. Os 'dachi ddim yn teimlo yn hollol gyffyrddus trafod eich pryderon ag athro/tiwtor, trafodwch gydag aelod o'ch teulu, neu ffrind. Cofiwch fod digon o wefannau a gwasanaethau gallech chi hefyd gysylltu.

- Nid ydych ar eich pen eich hun - fel dywedais uchod, mae miloedd ar filoedd o fyfyrwyr yn yr un cwch, mewn cyfnod o ansicrwydd a dryswch. Estyn allan i ffrindiau a chyd-fyfyrwyr ar gyfryngau cymdeithasol, trwy neges destun neu dros y ffôn. Efallai y byddwch hyd yn oed yn gallu siarad ag athrawon, darlithwyr a goruchwylwyr. Gwefan dda i drafod pryderon bywyd fel myfyriwr yw The Student Room.

- Cychwyn hobi newydd - y prif reswm am ddechrau cael hobi newydd yw tynnu sylw'r meddwl oddi wrth eich pryderon ac mae hobïau yn gallu rhyddhau straen. I mi rydw i yn darllen, gwylio ffilm, cerdded, rydw i hefyd wedi bod yn chwarae ar yr Xbox ond mae'n ffordd grêt o gymdeithasu, cael hwyl a chadw cyswllt efo fy ffrindiau, ac yn ddiweddar mae dychwelyd tymhorau chwaraeon fel pêl-droed yn fendith i mi. Os ydych chi'n cael trafferth meddwl am hobïau newydd dyma restr ddefnyddiol i gasglu syniadau: https://www.futurelearn.com/info/blog/find-a-new-hobby-lockdown

- CYSGWCH! - heb swnio 'fatha rhiant 'dydi pwysigrwydd cwsg yn sicr heb ddirywio. Mae cysylltiad agos rhwng straen a chwsg. Gall straen effeithio ar ansawdd a hyd cwsg, tra na all digon o gwsg gynyddu lefelau straen. Gall straen a diffyg cwsg arwain at broblemau iechyd corfforol a meddyliol parhaol, felly plîs gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg os oes gennych bryderon neu ddim. Os yw cwsg yn broblem dyma linc i dudalen ddefnyddiol: https://www.healthline.com/nutrition/ways-to-fall-asleep#section2

 

Diolch am ddarllen a pob lwc!