Ymlaciwch a gwrandewch

Cerddoriaeth myf

 

Darllenwch am brofiad un myfyriwr ar sut mae cerddoriaeth yn helpu un myfyriwr i ymdopi gyda bywyd o ddydd i ddydd: 

 

"O brofiad fy hun, mae gwahanol artistiaid wedi cael effaith gadarnhaol ar fy ffordd o feddwl ac wedi fy helpu i edrych ar yr ochr arall o’r geiniog ac i wybod fod amser gwell i ddod, er ei fod yn anodd sylweddoli hynny ar brydiau.'

'Dwi’n mwynhau gwrando ar amryw o gerddoriaeth gan fod pob un ohonynt yn rhoi effaith wahanol i mi. Rhai o’r artistiaid dwi’n mwynhau gwrando arnynt ydi 'AS IT IS', 'Gwilym' neu hyd yn oed 'Joji'. Er bod cerddoriaeth yr artistiaid yma yn gwbl wahanol i’w gilydd, yr hyn syn gyffredin amdanynt ydi fod pob un ohonynt yn llwyddo gwella fy hwyliau ac yn fy helpu i weld ochr orau bywyd.

Mae gwrando ar gerddoriaeth roc yn dueddol o wella fy hwyliau yn yr un modd a gwrando ar gerddoriaeth pop a RnB tra bod cerddoriaeth acwstig fwy personol yn fy helpu i fabwysiadu ffordd wahanol o weld bywyd a’i heriau.

Mae cerddoriaeth yn rym cadarnhaol ac felly ble bynnag ydachi’n mynd, cerwch a chlustffonau efo chi i allu cau allan y byd am gyfnod."

 

Felly, dyma awgrymiadau o ganeuon gan fyfyrwyr ar draws Cymru i ychwanegu i'ch rhestr chwarae sydd yn bownd o wella'ch diwrnod.  Cymrwch egwyl, ymlaciwch a gwrandewch.

Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn gan Cowbois Rhos Botwnnog: i fod yn onest mae unrhyw gân gan Cowbois yn anhygoel ac mi oedd hi’n anodd dewis un gân yn benodol ond y rheswm dewisais y gân yma yw wrth wrando arni mae’r geiriau yn hunanesboniadol wrth roi’r atgof cyson yna bod pawb am gael diwrnodau gwaeth nag eraill ac i gymryd y dyddiau du yna fel mae a fyddi di’n iawn!

Sai’n becso gan Mellt: mae’r gân yma’n benodol yn rhoi agwedd bo fi ddim yn poeni fel teitl y gân sydd yn codi fy hwyliau i yn syth. Mae’r gitâr drwy’r gân jest yn anhygoel hefyd.

Twti Ffrwti gan Kim Hon: bob tro mae’r gân yma’n dod ymlaen dwi jyst yn dychmygu Iwan Fôn (prif leisiydd y band) ar lwyfan yn ei berfformio - un gair, rhyfeddol! Os da chi heb weld Kim Hon yn fyw o’r blaen, mi ydych chi’n colli allan…

Catulyna gan Gwilym: mae’r gân yma wedi cael ei chwarae llawer ond ddim yn un does neb wedi cael digon o’i chlywed eto (gobeithio ddim beth bynnag). Rheswm bod y gân yma’n gwneud fi’n hapus yw atgofion o Tafwyl sydd tu ôl iddi pan o ni ar ysgwyddau un o fy ffrindiau yn bloeddio canu- good times!

Yma gan Blodau Papur: mae llais Alys Williams mor drysorus a'r gân yma’n rhoi ‘feel good’ a theimladau hapus gan ei fod mor addfwyn. Gân yma gyda thempo rili araf sydd yn gwneud hi’n hawdd gwrando arni sut bynnag dwi’n ei deimlo ar y pryd.

Aros o Gwmpas gan Omaloma: ‘dwi aml yn gwrando ar y gân yma pan dwi yn neud gwaith neu jyst ishe ymlacio. Mae’r gân yma hefyd yn atgoffa fi o fod ar draeth gyda fy ffrindiau yn gwylio’r haul yn machlud. 

Womanby gan Hyll: wrth fy mod gyda’r gân yma ac ma jest yn rhoi egni i fi bob tro mae yn dod ymlaen ac yn dod ag atgofion da.

Busy Bee gan Malan: cân Saesneg gan Malan sy’n artist o Gaernarfon. Mae sŵn jazzy ac alaw'r gân yma’n un hamddenol a phwyllog. Wrth wrando ar y gân mae fel boch chi’n mynd mewn i fyd gwahanol a hollol heddychlon.

 

Gellir cael mynediad i'n rhestr chwarae llawn yma.