Amdanom Ni

Mae Myf.Cymru yn adnodd sydd wedi ei ddatblygu dan arweiniad Prifysgol Bangor mewn partneriaeth a Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant. Ariannwyd yr adnoddau gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.   

Adnabuwyd bod prinder adnoddau iechyd meddwl a lles ar gyfer myfyrwyr yn benodol trwy gyfrwng y Gymraeg.  Ers cychwyn y cynllun, roedd cael mewnbwn a mewnwelediad gan fyfyrwyr ag Undebau Myfyrwyr yn holl bwysig, er mwyn sicrhau adnoddau sy’n ddefnyddiol a perthnasol.  

Mae myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ar draws Cymru a thu hwnt wedi cael mewnbwn yn natblygiad yr adnoddau - o ddarparu adborth ar y ddelwedd, ar strwythur y wefan i ddarparu cynnwys gwreiddiol.  

Eleni byddem yn datblygu adnoddau penodol ar gyfer myfyrwyr 16 -18 oed sydd yn ystyried mynd ymlaen i Addysg Uwch yn y dyfodol.  Rydym ar hyn o bryd yn adolygu cynnwys y wefan er mwyn sicrhau perthnasedd yn ogystal ag unrhyw linciau i wefannau allanol a ffynonellau cefnogaeth ar gyfer y garfan oed yma.         

Os oes gennych unrhyw adborth ar yr adnoddau, neu hoffech gymryd ran, cysylltwch â ni.  Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.