Fy mhrofiad personol i gyda ymarfer corff a lles meddyliol
Dwi ddim wedi bod yn berson sydd wedi cael llawer o ddiddordeb mewn chwaraeon ers gadael ysgol. Dwi yn hoffi chwarae chwaraeon, ymunais a’r tîm pêl-rwyd gyda’r brifysgol ond ddim byd rhy ‘extreme’. Doeddwn i ddim chwaith yn gwybod pwysigrwydd gwneud ymarfer corff nag hefyd y lles sydd ganddo i iechyd meddwl unigolion tan y cyfnod clo. Gan nad oedd dim byd i wneud yn ystod y cyfnod hwnna a hefyd rydw i yn ffodus o gael byw yn y cefn gwlad fe ddechreuais i gerdded llawer, bob dydd. Rhywbeth hamddenol ond yn dod a digon o fwynhad allan ohono hefyd.
Roeddwn i yn ffodus bod fy mrawd yn cerdded lot gyda fi hefyd, mae fy mrawd fewn i chwaraeon ac ymarfer corff lot mwy na fi ac felly fe wthiodd i mi ddechrau rhedeg hefyd. Dwi di trio rhedeg o’r blaen a doedd o ddim yn beth i fi o gwbl ond pan driais am y tro cyntaf roeddwn i wedi synnu pa mor dda roeddwn i yn gallu rhedeg. Siŵr o fod achos yr holl gerdded roeddwn i yn ei wneud hefyd yn gamau bach yn arwain at y rhedeg!
Fe wnes i synnu fy hun efo pa mor dda yr oeddwn i yn sticio at wneud ymarfer corff bob dydd yn ystod y cyfnod clo, er rhaid cyfaddef fe ges i ambell i ddiwrnod lle doeddwn i ddim eisiau symud a gwneud dim y diwrnod hynny. Un peth wnaeth helpu i fi gadw a sticio at wneud ymarfer corff oedd yr app Strava. Mae Strava wedi dod yn fwy poblogaidd erbyn hyn yn enwedig yn ystod y cyfnod clo. Mae’n gadael i chi gofnodi eich teithiau cerdded neu redeg ac yna yn ei lanlwytho ar eich proffil. Yn ogystal â hynny mae yna sialensiau bob mis fel 5K rhedeg neu orfod cerdded pedair gwaith bob wythnos am fis cyfan i gael tarian ar eich proffil! Mae’n ffordd wych o gadw rhywun i wneud ymarfer corff ac mi wnaeth weithio i fi yn sicr!
Yn ogystal, wrth gerdded bob dydd wrth gwrs fe wnes i golli pwysau sydd yn fonws! Yn enwedig achos dwi wedi ei chael hi'n anodd gyda sut dwi’n edrych dros y blynyddoedd ond yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf ers dechrau yn y brifysgol. Yn flwyddyn gyntaf yn y brifysgol nes i roi llwyth o bwysau ymlaen oherwydd y ffordd o fyw newydd gyda’r swm anferthol o alcohol a’r takeaways. Mae pawb yn rhoi pwysau ymlaen yn y brifysgol, mae’n hollol naturiol ond wnes i ddim sylwi faint yr oeddwn i wedi rhoi ymlaen tan i fi ei golli ac edrych yn ôl ar hen luniau nawr! Gwnaeth hynny les i fy iechyd meddwl i hefyd wrth godi fy hyder a theimlo yn iachach gyda bwyta’n well ac wrth gwrs ymarfer corff.
Mi fyswn i yn argymell i bawb wneud ymarfer corff yn enwedig os ydech chi fel fi, ddim rhywun sydd â llawer o ddiddordeb mewn chwaraeon mae gwneud ychydig bach bob dydd yn gwneud gymaint o les mewn pob agwedd o fywyd. Dwi wedi cael buddiant enfawr wrth ddechrau gwneud mwy o ymarfer corff ac mae’n bwysig i mi barhau wrth fynd nôl i’r brifysgol, mae wedi newid fy agwedd a fy lles meddyliol gymaint!
Mae gwneud ymarfer corff yn lleihau straen, gwneud i chi gysgu’n well ac yn codi eich egni yn anferthol. Does dim rhaid i chi wneud oriau o ymarfer corff chwaith, mae astudiaeth yn dangos gallwch chi elwa yn feddyliol gydag ymarfer corff 30 munud pum gwaith yr wythnos. Mae’n bwysig hefyd i chi ffeindio rhywbeth sydd â diddordeb i chi fel cerdded, chwarae pêl-droed, mynd i ddosbarth spin, un rhywbeth sydd yn denu eich diddordeb, mae yna rywbeth yna i bawb gael ymuno a mwynhau!