Symptomau iselder

 

Gweler isod i ddarganfod pa deimladau, meddyliau, problemau corfforol ac ymddygiad sy'n gyffredin pan fyddwch chi'n isel eich ysbryd. 

 

Ymddygiad 

 

  • Crio, gorwedd yn y gwely yn ystod y dydd, methu codi yn y bore. 
  • Cilio oddi wrth ffrindiau ac eraill a'u hosgoi. 
  • Cwymp mewn gweithgareddau hamdden. 
  • Cwymp mewn presenoldeb yn y gwaith neu'r ysgol. 
  • Esgeuluso cyfrifoldebau ac ymddangosiad personol. 
  • Dod yn aflonydd ac wedi cynhyrfu. 

 

Meddyliau 

 

  • Hunanfeirniadaeth ('Dwi wir yn anobeithiol). 
  • Hunan-feio (Fy mai i yw e i gyd, dylwn i fod wedi gwneud yn well). 
  • Meddwl am farwolaeth a hunanladdiad. 
  • Meddwl yn feirniadol am eraill (Nid yw'n llawer o ffrind). 
  • Problemau canolbwyntio a chof yn ogystal a phroblemau gwneud penderfyniadau. 

 

Teimladau 

 

  • Tristwch. 
  • Dim pleser. 
  • Anniddigrwydd. 
  • Euogrwydd. 
  • Gorbryder. 
  • Dideimlad y tu mewn. 

 

Corfforol 

 

  • Blinder a diffyg egni. 
  • Cysgu gormod neu ddeffro yn y nos. 
  • Ddim yn bwyta digon neu fwyta gormod. 
  • Colli pwysau neu fagu pwysau. 
  • Dim diddordeb mewn rhyw. 
  • Doluriau a phoenau. 

 

Darperir y wybodaeth uchod gan Blue Pages Depression Information:  

 

https://bluepages.anu.edu.au/index.php?id=symptoms-of-depression