Mae niwroamrywiaeth (neurodiversity) yn derm eithaf cyfarwydd bellach, a’i defnyddir i egluro gwahaniaethau mewn swyddogaeth wybyddol (‘cognitive function’) hynny yw sut mae’r ymennydd yn gweithio a dehongli gwybodaeth. Yn syml dydy pawb ddim run fath a dydy ymennydd pawb ddim yn gweithio run peth chwaith.
Nid yw cyflyrau niwroamrywiol yn gyflyrau iechyd meddwl ac nid yw’n golygu fod gan unigolion niwrowahanol iechyd meddwl gwael. Ond oherwydd disgwyliadau cymdeithasol a diffyg cefnogaeth a dealltwriaeth, gall unigolion niwrowahanol fod yn arbennig o agored i broblemau iechyd meddwl.
Ceir amryw o gyflyrau niwroamrywiol fel y nodir yn y llun uchod. Gweler isod gwybodaeth bellach am rai ohonynt.