Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

https://www.rcpsych.ac.uk/

Darparwyd y wybodaeth isod gan Royal College of Psychiatrists:  
www.rcpsych.ac.uk

 

Pa fath o gyflwr yw ADHD?

Mae ADHD yn ‘anhwylder niwroddatblygiadol’. Mae'r rhain yn anhwylderau sydd yn gallu effeithio ar lawer o wahanol swyddogaethau'r ymennydd, gan gynnwys dysgu, cyfathrebu, symudiad, emosiynau a sylw.

Mae anhwylderau niwroddatblygiadol yn dechrau yn ystod plentyndod ac i nifer o bobl maent yn gyflyrau gydol oes. Mae hyn yn golygu nad yw’n bosibl iddynt ‘wella’. Yn hytrach, gall bobl ag anhwylderau niwroddatblygiadol elwa ar gefnogaeth a newidiadau i’w hamgylchedd.

Mae pobl ag un anhwylder niwroddatblygiadol yn fwy tebygol o fod ag un arall, megis:

·        anhwylder sbectrwm awtistiaeth

·        trafferthion cydsymud

·        anhwylderau lleferydd, iaith a chyfathrebu

·        Syndrom Tourette

·        dyslecsia

·        dyscalcwlia.

Os nad yw ADHD yn cael ei adnabod neu ei drin yn iawn, gall hyn effeithio'n negyddol ar les meddyliol a chorfforol yr unigolyn.

Mae pobl ag ADHD yn aml yn cael diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl a chorfforol eraill. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd adnabod ADHD isorweddol.

 

Pa mor gyffredin yw ADHD?

Mae ADHD yn effeithio ar tua 3 neu 4 o bob 100 oedolyn. Gall bobl ag ADHD fod o unrhyw gefndir, ond mae ADHD yn fwy cyffredin mewn pobl sydd:

·        â brawd neu chwaer neu aelod agos o’r teulu ag ADHD

·        ag epilepsi

·        â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill, anableddau dysgu neu anawsterau dysgu

·        â salwch meddwl

·        â hanes o gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau

·        wedi dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol

·        ag anaf caffaeledig i'r ymennydd

·        wedi bod mewn gofal

Neu bobl:

·        a aned yn gynamserol

·        sydd wedi cael diagnosis o ‘anhwylder herio gwrthryfelgar’ neu ‘anhwylder ymddygiad’ yn ystod plentyndod

·        y credir eu bod wedi cael salwch meddwl fel gorbryder neu iselder yn ystod plentyndod.

 

A oes yna wahaniaeth rhyw mewn ADHD?

Mae diagnosis o ADHD yn fwy tebygol mewn bechgyn na merched. Fodd bynnag, mewn oedolion mae diagnosis o ADHD yn fwy cyfartal rhwng dynion a merched. Gallai hyn fod oherwydd, fel plant, mae bechgyn yn fwy tebygol o ddangos symptomau gorfywiogrwydd a byrbwylltra, sydd yn fwy amlwg.

O ran diagnosis, mae merched o bob oed yn fwy tebygol o:

·        fod ag ADHD sydd heb ei ddiagnosio

·        beidio â chael eu cyfeirio ar gyfer asesiad ADHD

·        gael diagnosis anghywir o gyflwr iechyd meddwl neu niwroddatblygiadol arall.

 

Friends

Beth yw symptomau ADHD?

Yma ceir gwybodaeth bellach am symptomau cyffredin ADHD a sut mae'r cyflwr yn gallu newid dros amser.

Dysgu mwy
Further help

Diagnosis : Y camau nesaf

Gwybodaeth bellach am y broses asesu ar gyfer ADHD a'r camau nesaf

Dysgu mwy
Friends talking

Gwybodaeth defnyddiol a chefnogaeth bellach

Yn yr adran yma ceir gynghorion a gwybodaeth ddefnyddiol os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi cael diagnosis o ADHD.

Dysgu mwy