Un o'r pethau sy'n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf yw bod yng nghwmni pobl sy'n deall ADHD, a bod mewn amgylcheddau sy'n dod â'r gorau allan ynoch chi. Gallai hyn olygu cael cynnig addasiadau rhesymol yn y gwaith, neu Therapydd Galwedigaethol yn eich helpu i ddatblygu trefn lwyddiannus yn y cartref.
Caiff y pethau hyn eu trafod yn fanylach isod, ond cofiwch y gall addasu amgylcheddol fod yn un o'r rhannau pwysicaf o'r gefnogaeth a gewch chi ar gyfer ADHD.
Mae'n bwysig cofio nad oes un ateb a fydd yn gwneud i holl symptomau ADHD ddiflannu. Wrth i chi ddarllen drwy'r wybodaeth hon, efallai y byddai'n ddefnyddiol meddwl am sut mae'ch symptomau'n effeithio ar wahanol agweddau o'ch bywyd.
“Er bod ADHD yn gallu bod yn anodd iawn i’w reoli, gyda chymorth rydw i wedi gallu dysgu am fy nhuedd i ymgolli’n llwyr mewn gweithgareddau rydw i’n eu hoffi'n fawr ac i ddefnyddio hyn mewn ffordd adeiladol.” James
Mae grwpiau cymorth cymheiriaid yn darparu gwasanaethau rhad ac am ddim neu gost isel lle gall pobl ag ADHD wrando a rhannu profiadau, cyngor, strategaethau ac awgrymiadau. Maen nhw hefyd yn gyfle i gymdeithasu. Gall cyfarfodydd grŵp fod ar-lein neu wyneb yn wyneb. Bydd argaeledd ac ansawdd grwpiau cymorth cymheiriaid yn amrywio, yn dibynnu ar le rydych chi'n byw.
Gall dysgu mwy am gyflwr iechyd fod yn ddefnyddiol, ac mae llawer o wybodaeth am ADHD ar gael ar-lein. Mae'n bwysig cofio bod ansawdd gwybodaeth ar-lein yn amrywio. Yn anffodus, gall gwybodaeth ar-lein fod yn anghywir, yn gamarweiniol neu hyd yn oed yn ffug. Rydym wedi cynnwys rhai gwefannau defnyddiol ar ddiwedd yr adnodd hwn.
Gall Therapyddion Galwedigaethol weithio gyda phobl ag ADHD i'w helpu i wneud y canlynol:
· trefnu eu hamgylchedd corfforol a chymdeithasol
· datblygu sgiliau rheoli amser effeithiol
· datblygu amserlenni cynllunio effeithiol i helpu i fodloni gofynion swyddi
· datblygu'r ddisgyblaeth i gadw at weithgareddau sydd wedi'u cynllunio er gwaethaf pethau sy'n tynnu eu sylw, tra hefyd yn parhau i fedru ymateb yn hyblyg i newidiadau
Nod therapi galwedigaethol yw helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon.
Efallai y gallwch gael eich cyfeirio am therapi galwedigaethol rhad ac am ddim gan y GIG neu'r gwasanaethau cymdeithasol. Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Efallai y byddwch hefyd yn dewis talu am therapydd galwedigaethol annibynnol. Mae gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol restr o therapyddion galwedigaethol cymwys a chofrestredig.
"Pe bawn i'n gwybod bod pobl ag ADHD yn dechrau llawer o bethau a ddim yn eu gorffen nhw... fi oedd hynny'n bendant. A phe bawn i'n gwybod mai oherwydd ADHD oedd hynny mi faswn i wedi bod yn fwy gofalus am wneud pethau'n fyrbwyll heb feddwl.” Hameed
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i gyflogwyr, colegau a phrifysgolion wneud ‘addasiadau rhesymol’ fel nad yw pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu rhoi dan anfantais sylweddol. Mae'r nodweddion gwarchodedig hyn yn cynnwys anabledd, sy'n cynnwys ADHD. Mae rhagor o wybodaeth am anabledd a'r gyfraith ar gael ar wefan y llywodraeth.
Bydd y math o addasiadau rhesymol y bydd rhywun ag ADHD yn eu cael yn dibynnu ar:
· sut mae eu cyflwr yn effeithio arnynt
· ymarferoldeb
· maint y sefydliad
· yr arian a'r adnoddau sydd ar gael
· a fyddai'r addasiad yn goresgyn yr anfantais yr ydych chi'n ei hwynebu.
Mae enghreifftiau o addasiadau rhesymol yn cynnwys:
· darparu desg mewn man tawel yn y swyddfa
· rhoi cyfarwyddiadau ysgrifenedig yn ogystal â llafar
· dirprwyo gwaith pan fo hynny'n briodol
· helpu gyda strwythuro tasgau.
Mae Cymdeithas y Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion (AGCAS) yn cynnig rhagor o enghreifftiau (PDF).
Mae Mynediad at Waith yn wasanaeth a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gall gynnig cymorth ymarferol ac ariannol i bobl ag anableddau. Mae ar gael i bobl sy'n gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu'n chwilio am waith.
Dim ond i bobl sydd angen cymorth neu addasiadau y tu hwnt i’r ‘addasiadau rhesymol’ y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyflogwyr eu darparu y mae hwn ar gael. Er enghraifft, gall Mynediad at Waith helpu i dalu am hyfforddwr swydd neu ddarparu hyfforddiant ychwanegol.
Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a’r broses ymgeisio ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.
Gall rhai therapïau seicolegol eich helpu i reoli symptomau ADHD. Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae rhagor o wybodaeth am therapïau a all fod o gymorth gydag ADHD ar wefan y GIG.
Pan fyddwch chi'n chwilio am therapydd, holwch a ydyn nhw'n gwybod am ADHD, neu'n barod i ddysgu. Bydd hyn yn eich helpu i gael gofal cefnogol, cadarnhaol. Mae hefyd yn bwysig oherwydd gallai rhai o'r heriau sy'n dod gydag ADHD effeithio ar eich therapi. Er enghraifft, gallai bod yn anghofus olygu eich bod chi'n methu apwyntiad neu'n hwyr i apwyntiad, neu efallai y byddwch chi'n cael trafferth gweithio ar dasgau sy’n cael eu gosod y tu allan i apwyntiadau.
Dewch o hyd i wasanaeth therapi siarad yn eich ardal chi ar wefan y GIG.
Mae CBT yn rhaglen strwythuredig o therapi sy'n helpu pobl i adnabod patrymau meddwl di-fudd a datblygu technegau i'w goresgyn.
Os oes gennych chi ADHD, gall CBT eich helpu gyda:
Mewn ADHD, mae CBT yn dueddol o fod yn fwyaf effeithiol pan gaiff ei gyfuno â meddyginiaeth.
Gall hyfforddwyr neu fentoriaid helpu i feithrin sgiliau bywyd bob dydd fel rheoli amser, a gwneud addasiadau amgylcheddol. Mae yna hyfforddwyr sy'n arbenigo mewn helpu pobl ag ADHD.
Mae'n bwysig cofio, fodd bynnag, bod hyfforddi a mentora yn broffesiynau hunanreoledig heb safonau cyfreithiol rheoledig. Mae gwasanaethau hyfforddi a mentora yn amrywio o ran ansawdd ac arbenigedd. Mae gan ADHD Europe restr o gwestiynau a all helpu i ddewis hyfforddwr priodol.
Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar addasiadau amgylcheddol ac yn dal i gael trafferth, efallai y bydd meddyginiaeth yn ddefnyddiol i chi.
Cyn dechrau meddyginiaeth, dylai'r person sy'n eich trin wirio eich iechyd meddwl a chorfforol. Dylai roi gwybod i chi am y risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd meddyginiaethau adfywiol os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd eraill, a dylai eich cefnogi wrth i chi fonitro'ch hun am unrhyw sgil-effeithiau. Unwaith y byddwch chi'n cymryd meddyginiaeth sy'n gweithio i chi, dylid ei hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn.
Mae yna nifer o wahanol feddyginiaethau ar gael ar gyfer trin ADHD. Rhennir y rhain yn ddau grŵp:
Meddyginiaethau adfywiol:
Mae meddyginiaethau adfywiol yn cynyddu argaeledd y niwrodrosglwyddyddion dopamin a noradrenalin mewn rhannau o'r ymennydd sy'n helpu i reoli sylw ac ymddygiad. Mae tystiolaeth dda ar gyfer defnyddio symbylyddion i drin ADHD, ac i'r rhan fwyaf o bobl maent yn effeithiol, yn ddiogel ac yn cael eu goddef yn dda. Fel arfer byddwch yn gallu dweud yn fuan a ydynt yn effeithiol ai peidio.
Mae angen cynyddu'r feddyginiaeth yn raddol i leihau unrhyw sgil-effeithiau ac i ddarganfod y dos cywir i chi. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael buddion amlwg o'r feddyginiaeth gyntaf y maent yn rhoi cynnig arni. Efallai y bydd yn rhaid i bobl eraill roi cynnig ar feddyginiaeth wahanol i gael y canlyniadau gorau.
Mae llawer o bobl yn meddwl tybed pam mae meddyginiaethau adfywiol yn cael eu defnyddio i drin cyflwr sy'n achosi gorfywiogrwydd. Mae'r meddyginiaethau hyn yn cryfhau rhan o'r ymennydd sy'n gallu helpu i reoli'r rhannau o'r ymennydd sy'n ymwneud â gorfywiogrwydd.
Meddyginiaethau nad ydynt yn adfywiol:
Mae meddyginiaethau nad ydynt yn adfywiol yn cynyddu argaeledd noradrenalin neu'n dynwared ei effeithiau. Maent yn tueddu i gymryd mwy o amser i ddechrau cael effaith na meddyginiaethau adfywiol. Fel arfer, cânt eu defnyddio os nad yw meddyginiaethau adfywiol wedi gweithio i chi neu os yw'n anodd i chi eu cymryd.
Profiad llawer o bobl ag ADHD yw bod cymryd meddyginiaeth yn ddefnyddiol iawn, ond mae yna bobl hefyd sy'n dewis peidio â chymryd meddyginiaeth neu'n methu â gwneud hynny. Mae pob meddyginiaeth yn achosi sgil-effeithiau, ac mae’r rhain yn fwy amlwg i rai pobl nag eraill.
Bydd rhai pobl yn prynu meddyginiaethau ADHD heb bresgripsiwn. Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn amau bod ganddyn nhw ADHD ond nid ydyn nhw eisiau neu'n gallu cael asesiad. Mae rhesymau eraill dros gymryd meddyginiaethau ADHD heb bresgripsiwn yn cynnwys:
Gall prynu meddyginiaeth ADHD ar-lein neu ei chael heb bresgripsiwn fod yn beryglus, oherwydd:
Nid oes tystiolaeth bendant bod cymryd meddyginiaeth ADHD yn gwella perfformiad pobl sydd heb ADHD.
“Mae ‘na wefannau marchnad ddu sy'n gwerthu pethau, ond dydyn nhw ddim yn cael eu rheoleiddio a dydych chi ddim o reidrwydd yn gwybod beth rydych chi'n ei gael, ac mae'n beryglus iawn.” James
Mae nifer o bethau y gall pobl ag ADHD eu gwneud i hybu eu hiechyd a'u lles cyffredinol.
1) Dweud wrth y bobl o'ch cwmpas sut y gallan nhw helpu. Fel gydag unrhyw gyflwr iechyd, mae pobl yn aml eisiau helpu ond nid ydynt yn gwybod sut, ac yn y pen draw gallant roi cyngor nad yw'n helpu. Dywedwch wrth y bobl yn eich bywyd beth sydd, a beth sydd ddim, yn ddefnyddiol i chi.
2) Ceisio gwneud rhywfaint o ymarfer corff yn rheolaidd. Mae ymarfer corff rheolaidd yn dda i bawb. Mewn pobl ag ADHD, dangoswyd ei fod yn lleihau yn sylweddol symptomau sy'n gysylltiedig â phryder ac iselder, sy'n gallu gwneud symptomau ADHD yn waeth. Ni ddangoswyd bod ymarfer corff yn cael effaith gadarnhaol ar symptomau gorfywiogrwydd, byrbwylltra neu ddiffyg sylw.
3) Cael digon o gwsg o ansawdd da. All cysgu’n wael wneud symptomau ADHD yn waeth. Mae datblygu arferion cysgu da yn gallu bod yn heriol, ond mae yna bethau y gallwch chi roi cynnig arnynt:
· Datblygu a chynnal trefn ymlaciol ar gyfer amser gwely, e.e. cael bath, gwrando ar gerddoriaeth
· Mynd i'r gwely a chodi'r un amser bob dydd, gan gynnwys ar benwythnosau
· Osgoi bod o flaen sgrin am o leiaf awr cyn amser gwely
· Peidio â bwyta neu yfed siwgr, caffein nag alcohol o fewn awr neu ddwy i amser gwely
· Gwneud digon o ymarfer corff yn ystod y dydd
· Cadw eich ystafell wely yn dywyll ac yn dawel. Os yn bosibl, cadw ffenestr ar agor i gael awyr iach.
4) Anelu at gael deiet cyson a chytbwys. Mae astudiaeth fawr wedi dangos bod perthynas rhwng symptomau diffyg sylw ac arferion bwyta nad ydynt yn iach, gan gynnwys bwyta bwydydd sydd â llawer o siwgr ychwanegol ynddynt. Mae deiet nad yw'n iach yn cael effaith negyddol ar iechyd corfforol ac o bosibl ar hwyliau, a gallai hyn wneud symptomau ADHD yn fwy anodd eu rheoli.
5) Gyrru. Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflwr a allai effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel.
Os nad ydych chi'n siŵr a yw eich ADHD, neu'ch meddyginiaeth ADHD, yn effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel, siaradwch â'ch meddyg. Os yw ADHD yn effeithio ar eich gyrru ac nad ydych chi'n dweud wrth y DVLA, gallwch gael dirwy o hyd at £1,000. Os byddwch chi mewn damwain efallai y cewch eich erlyn.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y DVLA.
Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd ag ADHD, mae yna nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud bywyd yn haws iddyn nhw, ac i chi'ch hun.
Nid yw'r ffaith eich bod wedi cyfarfod un person sydd ag ADHD yn golygu eich bod wedi eu cyfarfod nhw i gyd. Gall dysgu mwy am y cyflwr eich helpu i ddeall ADHD yn well. Bydd hefyd yn dangos i'r person eich bod yn meddwl amdano neu amdani.
“Mae'n flinedig, yn newidiol ac yn ddigon i'ch gwylltio chi sawl gwaith y dydd. Gall effeithio ar bob agwedd ar eich bywyd ac mae llawer o hynny wedi'i guddio, yn enwedig gyda phopeth sydd ar feddyliau merched sy'n jyglo cartref, gwaith, teulu. Does gan bobl ddim syniad.” Margaret
Mae rhai grwpiau cymorth cymheiriaid ar gyfer oedolion ag ADHD yn rhedeg grwpiau ar wahân ar gyfer partneriaid a gwŷr a gwragedd, neu'n caniatáu iddynt gymryd rhan yn y grwpiau ADHD. Holwch y grŵp am hyn cyn mynd i un o'r cyfarfodydd. Fel arfer byddwch yn gallu dysgu mwy ar-lein am grŵp cymorth cymheiriaid.
Gofynnwch i'r person rydych chi'n ei adnabod a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i helpu. Os nad yw'n gallu meddwl am unrhyw beth ar hyn o bryd, gallwch egluro y byddwch chi yno os bydd angen rhywun i siarad ag ef yn y dyfodol.
Mae yna lawer o gamsyniadau am ADHD a'r bobl sydd ag ADHD. Gallwch chi helpu trwy ddysgu'r ffeithiau am ADHD a rhannu'r wybodaeth honno â phobl eraill.
Os bydd ymddygiad y person rydych chi'n ei adnabod yn peri gofid neu rwystredigaeth i chi, siaradwch am eich teimladau â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Os oes problemau yr hoffech chi eu codi, ceisiwch egluro'n glir beth sy'n bod a beth rydych chi'n feddwl allai helpu. Efallai y bydd pethau y gall y ddau ohonoch chi eu gwneud i helpu i ddatrys y mater.
“Weithiau pan fyddwn ni’n siarad am anabledd, rydyn ni’n cymryd yn ganiataol mai rhywbeth gweladwy ydyw. Gydag ADHD nid yw mor weladwy, ac mae pobl yn meddwl mai eich personoliaeth yw'r achos.” Hameed
Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin ag adnabod, gwneud diagnosis a rheoli ADHD mewn plant, pobl ifanc ac oedolion. Eu nod yw gwella adnabod a diagnosis, yn ogystal ag ansawdd gofal a chymorth i bobl ag ADHD.
Information for the public | Attention deficit hyperactivity disorder: diagnosis and management | Guidance | NICE – Gwybodaeth a ysgrifennwyd ar gyfer y cyhoedd am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl os ydych wedi cael diagnosis o ADHD.
Overview | Attention deficit hyperactivity disorder: diagnosis and management | Guidance | NICE – Canllawiau clinigol llawn ar drin a gwneud diagnosis o ADHD.
Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) - GIG (111.wales.nhs.uk/) – Gwybodaeth gan y GIG ar ADHD, diagnosis a thriniaeth.
ADHD and mental health - Mind – Gwybodaeth gan yr elusen iechyd meddwl Mind ar ADHD ac iechyd meddwl.
Attention deficit hyperactivity disorder (ADHD) and driving - GOV.UK (www.gov.uk) – Gwybodaeth gan y Llywodraeth ar ADHD a gyrru.
An employer’s guide to ADHD in the workplace (PDF) – Mae’r Scottish ADHD Coalition wedi cynhyrchu gwybodaeth i helpu cyflogwyr i gefnogi pobl ag ADHD yn y gweithle.
Isod rydym wedi cynnwys manylion elusennau sy'n gweithio gyda phobl ag ADHD ac ar eu rhan:
ADHD Aware - Cefnogaeth i Oedolion ag ADD, ADHD - ADHD Aware – Elusen sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, rhai â phrofiad o ADHD eu hunain, sy'n cynnig gwybodaeth a chyfarfodydd cefnogi.
Home - ADHD Foundation : ADHD Foundation – Elusen sy'n eirioli ar ran bobl ag ADHD a chyflyrau iechyd corfforol a seicolegol eraill.
Scottish ADHD Coalition - The Scottish ADHD Coalition - Elusen sy'n darparu cymorth i oedolion a phlant ag ADHD yn yr Alban, a'u rhieni, eu gofalwyr a'u teuluoedd.
Grwpiau cymorth cymheiriaid
Support | ADHD UK – Mae ADHD UK yn cynnal grwpiau cymorth cymheiriaid, darlithoedd llawn gwybodaeth a sesiynau holi ac ateb.
Cyfarfodydd grwpiau cefnogi ADHD - ADHD Aware - Mae ADHD Aware yn cynnal cyfarfodydd grwpiau cymorth cymheiriaid i ddarparu mannau diogel. Mae'r grwpiau hyn ar gyfer pobl ag ADHD a'u ffrindiau a'u teuluoedd.
Byw a theimlo'n dda - GIG (111.wales.nhs.uk/) – Gwybodaeth gan y GIG ar fyw'n iach.
Ymwybyddiaeth Ofalgar - GIG (www.nhs.uk) – Gwybodaeth gan y GIG ar ymwybyddiaeth ofalgar.
Cwsg a blinder - GIG (111.wales.nhs.uk/) – Gwybodaeth gan y GIG ar gwsg a blinder.