Os ydych chi'n meddwl bod gennych ADHD a'i fod yn cael effaith negyddol ar eich bywyd, siaradwch â'ch meddyg teulu, a fydd yn gallu eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol i chi. Yn aml, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol neu Wasanaeth Niwroddatblygiadol arbenigol yw hwn.
Yn anffodus, rydym yn gwybod bod rhai pobl yn cael trafferth cael eu hatgyfeirio am asesiad ADHD. Gallai hyn fod oherwydd diffyg gwybodaeth am ADHD mewn oedolion, neu oherwydd credir mai rhywbeth arall sy'n achosi eu heriau. Er enghraifft, mae rhai pobl yn cael diagnosis o broblem iechyd meddwl fel gorbryder, iselder neu anhwylder defnyddio sylweddau, pan fydd hyn ond yn egluro rhan o'u hanawsterau. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n bosibl methu â sylwi ar ADHD isorweddol.
Gwyddom hefyd y gall rhestrau aros am asesiadau fod yn hir iawn, sy’n golygu bod yn rhaid i rai pobl aros am amser hir i gael diagnosis. Gall pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros ddibynnu ar ble rydych chi'n byw.
Efallai eich bod chi wedi defnyddio holiadur neu gwis i ganfod a oes gennych ADHD. Gall holiaduron helpu gyda’r broses asesu ond dim ond â’r canlynol y gellir gwneud diagnosis cywir o ADHD:
· cyfweliad cynhwysfawr
· asesiad wedi'i seilio ar ymgynghoriad
Mae NICE (y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gwneud diagnosis o ADHD. Lle bynnag rydych chi yn y wlad, dylai eich asesiad ddilyn y canllawiau hyn.
Byddai adroddiad asesu trylwyr yn cynnwys, o leiaf, bob un o’r canlynol:
· rôl, cymwysterau, a phrofiad y person sy'n eich asesu
· trafodaeth am eich symptomau ADHD ac a yw'r rhain yn bodloni'r meini prawf ar gyfer diagnosis. Fel arfer, cefnogir hyn gan offer asesu strwythuredig a holiaduron
· adolygiad llawn o'ch iechyd meddwl
· gwybodaeth am eich plentyndod, datblygiad, addysg, a'ch gallu i weithredu mewn sefyllfaoedd bywyd bob dydd
· adolygu unrhyw broblemau iechyd corfforol
· gwybodaeth amdanoch chi gan bobl eraill sy'n eich adnabod, yn enwedig sut oeddech chi fel plentyn, os yw hynny ar gael.
Yn ogystal â gwasanaethau'r GIG, mae llawer o ddarparwyr sy'n cynnig asesiadau ADHD yn breifat.
Os byddwch chi'n cael asesiad yn rhywle arall, bydd gwasanaethau arbenigol y GIG ar gyfer ADHD Oedolion yn gwirio bod eich adroddiad yn cynnwys yr holl fanylion uchod cyn eich derbyn i wasanaeth y GIG. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i staff sy'n rhagnodi meddyginiaeth ADHD sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen i ragnodi'n ddiogel, ac ar gyfer y cyflwr cywir.
Am y rheswm hwn, cyn cael asesiad gan ddarparwr arall, dylech sicrhau y bydd eich gwasanaeth GIG lleol chi yn ei dderbyn.
Ar ôl cael diagnosis o ADHD, efallai y byddwch chi'n mynd trwy gyfnod addasu. Efallai y byddwch chi'n profi emosiynau gwahanol, gan gynnwys:
Rhyddhad o gael eglurhad am rai o'ch anawsterau, a darganfod nad ydych chi ddim ar eich pen eich hun. Efallai y byddwch chi hefyd yn teimlo rhyddhad o wybod nad ydych chi ddim yn ‘ddiog’, ‘yn anfodlon’, yn ‘ddi-drefn’ nac yn unrhyw labeli eraill a allai fod wedi cael eu defnyddio i'ch disgrifio chi yn y gorffennol.
Rhwystredigaeth ynghylch y ffaith nad oedd diagnosis o'r cyflwr wedi'i wneud yn gynt ac nad oedd wedi cael ei drin. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn teimlo dicter tuag at eich rhieni, neu ddarparwyr addysg ac iechyd am beidio â sylwi ar y cyflwr ynghynt.
Tristwch dros gyfleoedd a gollwyd a'r effaith y mae ADHD heb ei drin wedi'i gael ar eich bywyd, a bywydau'r bobl rydych chi'n eu hadnabod.
Os ydych chi wedi cael diagnosis o ADHD, gallai'r diagnosis hwn ddod yn rhan bwysig o'r ffordd rydych chi'n gweld eich hun. Gall fod yn anodd dod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng:
· gweld eich hun fel rhywun y mae ADHD yn effeithio ar ei fywyd mewn nifer o ffyrdd
· peidio â gweld ADHD fel y peth pwysicaf amdanoch chi.
Gall ymagwedd sy'n canolbwyntio ar atebion, sy'n edrych ar beth sy'n anodd yn eich bywyd, a beth y gellir ei wneud i wneud pethau'n llai anodd, helpu gyda'r cydbwysedd hwn.
“Rydw i'n teimlo'n emosiynol iawn ar hyn o bryd. Mae'n drueni na sylwodd neb arno'n gynt. Dim ond ar ôl gwrando ar brofiad byw yn hytrach na stereoteipio negyddol wnes i ei ystyried.” - Rachael
Os ydych chi wedi cael diagnosis o ADHD, dylai'r person a wnaeth yr asesiad siarad â chi am:
· sut mae ADHD yn effeithio arnoch chi
· eich nodau
· pethau sydd wedi bod o gymorth i chi yn y gorffennol
· unrhyw gyflyrau eraill sydd gennych chi, ac a allent effeithio ar eich ADHD.
· Dylai hefyd eich cyfeirio at unrhyw wasanaethau neu wybodaeth a allai fod o gymorth.
Cyn dechrau triniaeth, dylai’r person a wnaeth yr asesiad siarad â chi am:
· addasiadau amgylcheddol yn y cartref, yn y gwaith ac mewn addysg
· newidiadau defnyddiol o ran ffordd o fyw
· manteision a sgil-effeithiau triniaeth
· eich dewisiadau ar gyfer triniaeth
· unrhyw bryderon sydd gennych.