Sut alla i ddweud a oes gen i ADHD?

 

Girl questioning

Mae rhestr isod o symptomau craidd ADHD. Er mwyn i rywun gael diagnosis o ADHD, mae’n rhaid i’r symptomau hyn achosi anawsterau sylweddol mewn o leiaf ddwy agwedd o fywyd bob dydd. Er enghraifft, cartref, addysg neu gyflogaeth, perthnasoedd a llety.

Mae nifer o brofiadau eraill a adroddir gan bobl ag ADHD sydd ddim wedi’u rhestru yma. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau sy’n trin ystod eang o oedrannau, o bobl ifanc sy’n dal mewn addysg, i bobl sydd yn gweithio.

 

Diffyg Sylw

  • Diffyg sylw i fanylion
  • Gwneud camgymeriadau yn yr ysgol neu yn y gwaith, neu mewn gweithgareddau eraill
  • Cael trafferth canolbwyntio ar dasgau neu weithgareddau
  • Cael trafferth gwrando pan fydd rhywun yn siarad â nhw’n uniongyrchol
  • Ddim yn dilyn cyfarwyddiadau, a methu cwblhau gwaith, tasgau neu ddyletswyddau eraill
  • Cael trafferth trefnu tasgau a gweithgareddau
  • Osgoi neu beidio â hoffi tasgau sydd yn mynnu ymdrech feddyliol dros gyfnod hir (megis gwaith ysgol, gwaith cartref neu waith tŷ)
  • Colli pethau pwysig (e.e. deunyddiau ysgol, pensiliau, llyfrau, offer, waledau, allweddau, gwaith papur, sbectol, ffônau symudol)
  • Cael anhawster i gadw ffocws
  • Bod yn anghofus

 

Yn orfywiog ac yn fyrbwyll

  • Bod yn aflonydd neu dapio dwylo neu draed, gwingo ar gadair
  • Codi o’ch sedd mewn sefyllfaoedd lle y disgwylir i bobl aros ar eu heistedd
  • Teimlo’n aflonydd a bod yn llawn egni
  • Cael trafferth chwarae neu gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn dawel
  • Siarad gormod
  • Bloeddio ateb cyn i gwestiwn gael ei gwblhau
  • Cael trafferth aros eich tro
  • Torri ar draws neu darfu ar eraill

Nid fydd pob un o’r symptomau hyn yn amlwg i bobl eraill. Yn aml, bydd pobl ag ADHD yn datblygu ffyrdd i guddio eu symptomau, ac mae gwneud hyn yn gallu bod yn flinderus iawn ac effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl.

 

Cryfderau ADHD

Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am ADHD fel ‘gwahaniaeth’ ac nid fel diffyg neu anhwylder. Mae rhai pobl yn gweld agweddau ar eu ADHD fel cryfderau mewn rhai sefyllfaoedd neu amgylcheddau:

Ffocysu manwl 

Mae rhai pobl ag ADHD yn ffeindio eu bod nhw’n gallu ffocysu’n fanwl ar eu diddordebau. Gall hyn olygu eu bod yn wybodus iawn am rai pynciau, neu'n gynhyrchiol iawn pan fyddant yn teimlo'n frwdfrydig ac yn angerddol dros rywbeth.

Ymateb i argyfwng 

Mae pobl eraill ag ADHD yn canfod eu bod yn perfformio'n well mewn argyfwng pan fo'r sefyllfa'n mynnu eu sylw llawn.

Creadigrwydd 

Mae tuedd i golli ffocws yn gallu golygu fod rhywun ag ADHD yn chwilio am ddulliau amgen a chreadigol i ddatrys problemau.

Mae rhai pobl ag ADHD yn gallu defnyddio’r nodweddion hyn er mantais iddynt. Efallai y bydd angen strwythurau cefnogol ar bobl eraill er mwyn adeiladu ar y cryfderau hyn.

“Roeddwn wedi cael llond bol o bobl yn dweud wrtha i fy mod i’n aflonyddgar, yn anghwrtais a fy mod i’n torri a’r draws bobl o hyd. Ond nid fy mod i’n awyddus. Fy mod i’n frwdfrydig. Fy mod i wedi cynhyrfu. Rydw i’n cofio un athrawes wych yn fy ysgol uwchradd, byddai’n dweud wrtha i ‘rydw i wrth fy modd gyda dy eiddgarwch di, ond dal arni am bum munud'. Roedd hynny'n gwneud i mi deimlo’n dda.” Hameed

 

Sut alla i ddweud bod ADHD ar rywun rydw i'n ei adnabod?

  • Cael trafferth cynllunio. Er enghraifft, rheoli amser yn wael, colli apwyntiadau, prosiectau yn aml yn hwyr a heb eu gorffen
  • Gwaith neu berfformiad academaidd anghyson
  • Problemau rheoli dicter
  • Problemau teuluol neu briodasol
  • Diffyg trefn arferol. Er enghraifft, patrwm cysgu gwael
  • Cael trafferth rheoli arian
  • Ymddygiadau caethiwus megis camddefnyddio sylweddau, siopa neu gamblo’n gymhellol
  • Damweiniau cyson naill ai oherwydd byrbwylltra neu ddiffyg sylw
  • Problemau gyrru, megis cael tocynnau goryrru, damweiniau difrifol, neu golli trwydded yrru
  • Gorfod lleihau baich gwaith, neu gael trafferth cwblhau traethodau mewn addysg
  • Hunan-barch isel neu dangyflawni cronig.

“Rydw i’n dathlu fy ymennydd cymaint ag yr ydw i'n cael trafferth ag o. I mi, mae’r cydbwysedd yma’n bwysig. Mae hynny wedi cymryd blynyddoedd, ond bellach gallaf adnabod cryfderau sydd gen i oherwydd fy nodweddion niwrolegol i. Rydw i’n gwrthod cael fy niffinio yn ôl ‘diffygion’. Mae fy ngwahaniaeth i yn brofiad personol i mi.” Clare

 

 

A yw ADHD yn dod yn fwy cyffredin?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwasanaethau ADHD ar draws y DG wedi gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau. Mae llawer o resymau posibl am hyn, gan gynnwys:

  • ymwybyddiaeth ehangach o ADHD ymysg y cyhoedd ac arbenigwyr gofal iechyd
  • y pandemig Cofid-19, sydd wedi arwain at newidiadau mewn amgylcheddau addysg a gwaith. Efallai bod hyn wedi gwneud ymddygiadau ADHD yn fwy amlwg.

Mae’r ffaith bod mwy o bobl yn cael eu cyfeirio ar gyfer asesiadau ADHD yn beth cadarnhaol, oherwydd mae'n golygu y gall y rhai sydd ag ADHD gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae’r rhai sy’n darganfod nad oes ganddynt ADHD, ond sydd ag anghenion cymorth cysylltiedig, hefyd yn gallu cael cymorth.

Mae rhai pobl yn dweud yn anghywir fod ADHD yn ‘ffasiynol’ neu’n ‘ffug’. Mewn gwirionedd, mae’r disgrifiad cyntaf gan feddyg o gyflwr tebyg i ADHD yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif. Mae enw’r cyflwr wedi newid dros amser ond disgrifir yr un heriau ag yr ydym yn eu hadnabod fel ADHD heddiw.

Mae cytundeb ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwyddonwyr ledled y byd bod ADHD yn ddiagnosis dilys. Mae canllawiau clir yn disgrifio sut mae diagnosis ADHD yn cael ei wneud, a sut y dylai gael ei asesu, ei gefnogi a’i drin.

 

Pryd mae ADHD yn dechrau a sut mae’n newid dros amser?

Mewn plant

Mae ADHD yn gallu ymddangos pan fo plentyn yn ifanc, ac yn aml caiff ei sylwi gyntaf pan fydd y plentyn yn yr ysgol. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai pobl yn wynebu heriau nes eu bod yn oedolion, neu efallai na fydd yr heriau hyn yn cael eu sylwi nes eu bod yn llawer hŷn.

Er bod pobl ag ADHD yn rhannu symptomau ‘nodweddiadol’ cyffredin, mae ADHD yn gallu ymddangos yn wahanol o berson i berson. Mae sut mae ADHD yn ymddangos mewn unigolyn yn dibynnu ar y canlynol:

  • cefndir
  • personoliaeth
  • sut mae’n ymdopi o fewn ei amgylchedd
  • lefel a strwythur cymorth
  • profiadau positif a negyddol bywyd
  • cyfnod mewn bywyd.

      Mae symptomau gorfywiogrwydd a byrbwylltra yn debygol o fod yn fwy cyffredin yn ystod plentyndod a dod yn llai o her i rai pobl dros amser. Mae symptomau diffyg sylw fel arfer yn dod yn fwy o her i bobl yn eu harddegau ac i oedolion.

Oedolion Ifanc

Fel arfer, wrth i bobl ifanc ddod i oed, maent yn wynebu mwy o heriau ac yn cael llai o gymorth. Er enghraifft, os bydd rhywun wedi byw gartref ac wedi cael llawer o gymorth, efallai na fydd yr ADHD yn achosi problemau nes iddo adael cartref.

Mae oedolion ifanc ag ADHD yn aml yn wynebu heriau newydd megis:

  • gwaith neu addysg
  • byw’n annibynnol
  • perthnasoedd
  • arian.

Mewn oedolion

Trwy gydol bywyd, gall heriau newydd megis dod yn rhiant gynyddu ymhellach lefelau straen cyffredinol yr unigolyn. Mae hyn yn golygu y gall ADHD achosi mwy o heriau wrth iddo fynd yn hŷn.

Wrth i lefel gyffredinol disgwyliadau a straen gynyddu, mae pobl ag ADHD yn fwy tebygol o gael trafferth cadw i fyny. Pan fydd hyn yn digwydd, gallant fynd i deimlo eu bod wedi'u llethu ac yn sâl. Mae’n bosibl osgoi hyn drwy gael cymorth priodol. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran sy’n ymwneud â chymorth yn ddiweddarach yn yr adnodd hwn.

“Dywedodd fy meddyg teulu wrtha i ddoe...ac mae hi wedi fy nghyfeirio i at rywun i gael cadarnhau hyn. Ar hyn o bryd, rydw i’n prosesu sut rydw i’n teimlo am hyn. Rydw i’n 38 - trwy gydol fy mywyd does neb wedi sylwi arno. Cyn hyn, doeddwn i byth yn gallu egluro sut roeddwn i’n teimlo.” Rachael

 

Beth sy'n achosi ADHD?

I'r rhan fwyaf o bobl ag ADHD, mae'r cyflwr yn cael ei achosi gan gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol:

Geneteg - Yn gyffredinol, mae'r ffactorau genetig sy'n arwain at ddatblygu ADHD yn cynnwys llawer o wahaniaethau genetig bach yn hytrach nag un genyn unigol.

Ffactorau amgylcheddol – gall ffactorau amgylcheddol gynnwys pethau fel:

o   anawsterau pan oeddech chi yn y groth

o   cymhlethdodau geni

o   dod i gysylltiad â thocsinau

o   diffygion maethol

o   anaf i'r ymennydd.

Mae astudiaethau wedi dangos bod y ffactorau genetig ac amgylcheddol sy'n arwain at ADHD hefyd i'w cael mewn cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol cyffredin eraill.

 

A yw pobl ag ADHD yn fwy tebygol o fod â chyflyrau eraill?

Mae ymchwil wedi dangos bod cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol eraill yn fwy cyffredin ymhlith pobl ag ADHD. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gorbryder
  • iselder
  • anhwylder deubegynol
  • anhwylderau defnyddio sylweddau
  • gordewdra
  • bwyta di-drefn
  • alergeddau
  • asthma
  • anhwylderau cysgu
  • diabetes
  • anhwylderau awto-imiwn, e.e. arthritis, soriasis
  • gorsymudedd y cymalau.