Mae meddygon yn aml yn disgrifio sgitsoffrenia fel math o seicosis. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y person bob amser yn gallu gwahaniaethu rhwng ei feddyliau a'i syniadau ei hun a realiti.
Mae symptomau sgitsoffrenia yn cynnwys:
Nid yw sgitsoffrenia yn achosi i rywun fod yn dreisgar ac nid oes gan bobl â sgitsoffrenia bersonoliaeth hollt.
Os ydych chi'n profi symptomau sgitsoffrenia, ewch i weld meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Gorau po gyntaf y caiff sgitsoffrenia ei drin.
Nid oes un prawf ar gyfer sgitsoffrenia. Fel arfer daw'r diagnosis ar ôl asesiad gan weithiwr gofal iechyd meddwl proffesiynol, fel seiciatrydd.
Nid yw union achos sgitsoffrenia yn hysbys. Ond mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn credu bod y cyflwr yn cael ei achosi gan gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol.
Credir bod rhai pobl yn fwy agored i ddatblygu sgitsoffrenia, a gall rhai sefyllfaoedd achosi'r cyflwr fel digwyddiad bywyd llawn straen neu gamddefnyddio cyffuriau.
Mae sgitsoffrenia fel arfer yn cael ei drin gyda chyfuniad o feddyginiaeth a therapi wedi'u teilwra i bob unigolyn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, meddyginiaethau gwrthseicotig a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) fydd hyn.
Mae pobl â sgitsoffrenia fel arfer yn cael cymorth gan dîm iechyd meddwl cymunedol, sy'n cynnig cymorth a thriniaeth o ddydd i ddydd.
Mae llawer o bobl yn gwella o sgitsoffrenia, er y gallant gael cyfnodau pan fydd y symptomau'n dychwelyd (ail bwl o salwch).
Gall cymorth a thriniaeth helpu i leihau'r effaith y mae'r cyflwr yn ei gael ar fywyd bob dydd.
Os caiff sgitsoffrenia ei reoli'n dda, mae'n bosibl lleihau'r siawns o ail byliau difrifol.
Gall hyn gynnwys:
Mae llawer o elusennau a grwpiau cymorth yn cynnig cymorth a chyngor ar fyw gyda sgitsoffrenia.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael cysur o siarad ag eraill sydd â chyflwr tebyg.
Ffynhonnell: NHS UK
Yn cynnwys gwybodaeth y sector cyhoeddus a drwyddedwyd o dan y Drwydded Llywodraeth Agored v.3.0
https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/