Mae iselder yn hwyliau isel sy'n para am amser hir, ac yn effeithio ar eich bywyd bob dydd.
Ar ei ffurf ysgafnaf, gall iselder olygu bod mewn hwyliau isel yn unig. Nid yw yn eich atal rhag byw bywyd normal ond mae'n gwneud i bopeth ymddangos yn llai gwerth chweil ac yn anoddach i'w wneud. Ar ei waethaf, gall iselder beryglu bywyd gan y gall wneud i chi deimlo fel lladd eich hun.
"Mae'n dechrau fel tristwch yma ryw'n teimlo fy hun yn cau i lawr, yn mynd yn llai abl i ymdopi. Yn y pen draw, rwy'n teimlo'n wag a dideimlad."
Rydyn ni i gyd yn cael cyfnodau pan fydd ein hwyliau'n isel, a phan fyddwn ni'n teimlo'n drist neu'n ddiflas ynghylch bywyd. Fel arfer, mae'r teimladau hyn yn mynd heibio maes o law.
Ond os yw'r teimladau'n ymyrryd â'ch bywyd, a ddim yn mynd heibio ar ôl ychydig wythnosau, neu os byddan nhw'n dod yn ôl drosodd a throsodd am ychydig ddyddiau ar y tro, fe allai hyn fod yn arwydd eich bod chi'n profi iselder. Edrychwch ar ein tudalen symptomau iselder i gael rhagor o wybodaeth.
Os byddwch chi'n cael diagnosis o iselder, efallai y dywedir fod gennych chi iselder ysgafn, cymedrol neu ddifrifol. Mae hyn yn disgrifio pa fath o effaith y mae eich symptomau yn ei chael arnoch ar hyn o bryd, a pha fath o driniaeth sy'n debygol o gael ei chynnig i chi. Efallai y byddwch yn symud rhwng iselder ysgafn, cymedrol a difrifol yn ystod un pwl o iselder neu ar draws gwahanol byliau.