Gweler isod i ddarganfod pa deimladau, meddyliau, problemau corfforol ac ymddygiad sy'n gyffredin pan fyddwch chi'n isel eich ysbryd.
Ymddygiad
- Crio, gorwedd yn y gwely yn ystod y dydd, methu codi yn y bore.
- Cilio oddi wrth ffrindiau ac eraill a'u hosgoi.
- Cwymp mewn gweithgareddau hamdden.
- Cwymp mewn presenoldeb yn y gwaith neu'r ysgol.
- Esgeuluso cyfrifoldebau ac ymddangosiad personol.
- Dod yn aflonydd ac wedi cynhyrfu.
Meddyliau
- Hunanfeirniadaeth ('Dwi wir yn anobeithiol).
- Hunan-feio (Fy mai i yw e i gyd, dylwn i fod wedi gwneud yn well).
- Meddwl am farwolaeth a hunanladdiad.
- Meddwl yn feirniadol am eraill (Nid yw'n llawer o ffrind).
- Problemau canolbwyntio a chof yn ogystal a phroblemau gwneud penderfyniadau.
Teimladau
- Tristwch.
- Dim pleser.
- Anniddigrwydd.
- Euogrwydd.
- Gorbryder.
- Dideimlad y tu mewn.
Corfforol
- Blinder a diffyg egni.
- Cysgu gormod neu ddeffro yn y nos.
- Ddim yn bwyta digon neu fwyta gormod.
- Colli pwysau neu fagu pwysau.
- Dim diddordeb mewn rhyw.
- Doluriau a phoenau.
Darperir y wybodaeth uchod gan Blue Pages Depression Information:
https://bluepages.anu.edu.au/index.php?id=symptoms-of-depression