S​ut ydw i’n gwybod os yw rhywun am gyflawni hunanladdiad?

 

Papyrus logo
                          Darparwyd y wybodaeth isod gan Papyrus:  

 

Gall siarad am hunanladdiad fod yn beth brawychus i’w wneud – ar gyfer yr unigolyn sy’n teimlo ei fod am gyflawni hunanladdiad ac i unrhyw un arall sy’n poeni amdano.  Os ydych yn gofyn i anwylyd, aelod o’r teulu neu ffrind os ydynt yn teimlo eu bod am gyflawni hunanladdiad, gall fod yn boenus i wybod eu bod yn teimlo felly a gall fod yn anodd ei ddeall.  

Mae llawer o bobl yn poeni y gall gofyn a siarad am hunanladdiad wneud hunanladdiad yn fwy tebygol – ond nid dyna’r achos. Gall gofyn cwestiwn uniongyrchol y gellir ei ateb â ie neu na sicrhau nad oes dryswch a gwneud i’r unigolyn ddeall eich bod yn gofyn iddynt am hunanladdiad a dim arall. Gall rhannu’r teimladau hyn â rhywun am y tro cyntaf fod yn rhyddhad i’r person ifanc. Ers nifer o flynyddoedd, mae pobl wedi credu y gallai gofyn ynghylch hunanladdiad roi’r syniad ym mhen rhywun. Nid dyna’r achos. Os yw rhywun yn meddwl am gyflawni hunanladdiad maent eisoes yn meddwl  am wneud hynny.  

Nid yw bob amser yn hawdd gwybod a yw rhywun yn meddwl am gyflawni hunanladdiad. Wedi’r cwbl, ni allwn ddarllen meddyliau pobl eraill er mwy deall yr hyn y maent wir yn ei deimlo ar unrhyw adeg.    Weithiau, gall fod yna arwyddion fod y person ifanc yn teimlo ei fod am gyflawni hunanladdiad. 

Mae rhai arwyddion yn fwy amlwg nac eraill a gall rhai fod yn gynnil iawn. Wedi’r cwbl, nid yw rhai pobl yn meddu ar y sgiliau, yr hyder na’r iaith i ddisgrifio’r modd y maent yn teimlo. Felly, bydd angen i ni dalu rhagor o sylw na’r hyn y byddem yn ei wneud yn arferol.    Neu gall rhai pobl ifanc deimlo’n fwy cyfforddus yn mynegi eu teimladau o hunanladdiad yn fwy uniongyrchol  a fydd yn ein caniatáu i’w harchwilio’n bellach.  

Beth allai’r arwyddion fod? Mae pobl sy’n meddwl am hunanladdiad yn aml yn ein gwahodd i ofyn iddynt yn uniongyrchol a yw hunanladdiad yn opsiwn iddynt.Nid oes rhestr gynhwysfawr o ‘wahoddiadau’ ond gallai newid mewn ymddygiad:

  • dangosyddion corfforol (colli pwysau, dim ddiddordeb mewn ymddangosiad,)
  • mynegi meddyliau neu deimladau (anobaith, tristwch, euogrwydd, teimlo’n ddiwerth)
  • a’r geiriau/iaith sy’n cael eu defnyddio (“Gallai ddim â gwneud hyn rhagor,” “Byddai bywyd pawb yn well hebdda i”)


Mae ymchwil diweddar yn dangos y gall gofyn i berson ifanc os yw’n meddwl am hunanladdiad leihau’r risg ohono’n terfynu ei fywyd. Mae gofyn a phennu a yw unigolyn yn meddwl am hunanladdiad yn rhoi cyfle i chi archwilio’r teimladau hyn ymhellach a’i gynorthwyo i fod yn ddiogel.    
Y peth pwysicaf i’w wneud er mwyn pennu os yw unigolyn yn brwydro â theimladau ynghylch cyflawni hunanladdiad yw GOFYN!