Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)

 

Logo Royal College Psychology

 

Darparwyd y wybodaeth yn yr adran hon o'r wefan am anhwylder straen wedi trawma (PTSD) gan yr Royal College of Psychiatrists:   https://www.rcpsych.ac.uk/mental-health/problems-disorders/post-traumatic-stress-disorder 

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pawb sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD), neu sy’n adnabod rhywun a all fod yn dioddef ohono.


Beth yw PTSD?  

Cyflwr iechyd meddwl yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Gall ddigwydd ar ôl i rywun ddod i gysylltiad â digwyddiad trawmatig.  Bydd nifer o bobl sy’n mynd trwy ddigwyddiad trawmatig yn teimlo emosiynau, meddyliau ac atgofion negyddol.

Ond daw’r rhan fwyaf o bobl i deimlo’n well dros amser. Pan fo’r ymatebion negyddol hyn yn gyndyn o ddiflannu, a phan fôn nhw’n ymyrryd â bywyd beunyddiol, yna efallai fod yr unigolyn hwnnw’n dioddef o PTSD.  

 

Beth sy’n achosi PTSD?  

Gall PTSD effeithio ar unrhyw un. Mae’n digwydd pan ddaw rhywun i gysylltiad gwirioneddol neu bosibl â’r canlynol:  

  • marwolaeth  
  • anaf difrifol  
  • trais rhywiol  

Gall pobl ddod i gysylltiad â’r elfennau hyn yn un o’r ffyrdd a ganlyn:  

  • Yn uniongyrchol – fe ddigwyddodd iddyn nhw 
  • Bod yn dyst i’r digwyddiad – fe wnaethon nhw ei weld yn digwydd i rywun arall  
  • Trwy ddysgu amdano – fe wnaethon nhw ddarganfod ei fod wedi digwydd i rywun sy’n agos iawn atyn nhw  
  • Trwy ddod i gysylltiad ag ef dro ar ôl tro – maen nhw wedi dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig eu hunain dro ar ôl tro neu maen nhw wedi dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig mynych sy’n effeithio ar bobl eraill. Gwyddom hefyd y gall rhai pobl a ddaw i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig trwy gyfryngau electronig, y teledu, ffilmiau neu luniau yn y gwaith, ddioddef anawsterau iechyd meddwl.   

Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig yn cynnwys:  

  • gweld marwolaeth dreisgar  
  • damweiniau difrifol, e.e. damwain car  
  • ymosodiad corfforol neu rywiol  
  • problemau iechyd difrifol neu brofiad o fod mewn gofal dwys  
  • profiadau cymhleth wrth roi genedigaeth  
  • cael gwybod eich bod yn dioddef o salwch a all beryglu eich bywyd 
  • rhyfel a gwrthdaro  
  • ymosodiadau gan derfysgwyr
  • trychinebau naturiol neu drychinebau o waith dyn, e.e. tswnami neu dân   

Mae hi’n bwysig cofio y gall llu o ddigwyddiadau eraill na sonnir amdanyn nhw yn y fan hon arwain at PTSD. Os na sonnir am eich profiad yn y fan hon, nid yw hynny’n golygu na ddylech geisio help a chymorth.    

 

Pam mae digwyddiadau trawmatig yn peri cymaint o sioc?  

Mae digwyddiadau trawmatig yn peri sioc inni gan na allwn wneud synnwyr ohonyn nhw. Dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â’n syniad o’r hyn y dylid ei ddisgwyl yn y byd.  Yn aml, gall digwyddiadau trawmatig ymddangos fel pe baen nhw wedi digwydd ‘ar hap’, heb unrhyw achos clir.

Dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â’n barn ynglŷn â’r hyn y dylid ei ddisgwyl yn y byd, ac o’r herwydd gall fod yn anodd inni ddeall yr ystyr sydd wrth eu gwraidd.  Hefyd, mae profiadau trawmatig yn dangos inni y gall pethau drwg ddigwydd i ni a’r bobl a garwn, unrhyw adeg.

Gall hyn beri inni deimlo’n anniogel a than fygythiad, ac yn naturiol mae hyn yn frawychus. Weithiau, gall digwyddiadau trawmatig beri inni gwestiynu pwy ydym ni, a gall hyn hefyd achosi trallod.   

 

Beth sy’n digwydd pan mae rhywun yn dioddef o PTSD?  

Bydd nifer o bobl yn mynd trwy ddigwyddiadau trawmatig drwy gydol eu bywydau. Mae oddeutu traean o oedolion yn Lloegr yn dweud eu bod wedi mynd trwy un digwyddiad trawmatig fan leiaf. Ond nid yw pawb sy’n mynd trwy ddigwyddiad trawmatig yn datblygu PTSD. 

Gall nifer o bobl ddioddef galar, tristwch, gorbryder, euogrwydd a dicter ar ôl profiad trawmatig. Nid yw hyn o angenrheidrwydd yn golygu bod rhywun yn dioddef o PTSD. Mae pobl sy’n dioddef o PTSD yn aml yn arddangos nifer o’r symptomau canlynol. Gall y symptomau hyn ddechrau’n syth, neu efallai y byddan nhw’n dod i’r amlwg ymhen rhai wythnosau, neu fisoedd hyd yn oed. 

Gyda PTSD, bydd y symptomau hyn yn amharu ar eich gweithgareddau beunyddiol a/neu’n gwneud ichi deimlo’n llawn trallod. Os byddwch yn dioddef o unrhyw un o’r symptomau hyn yn syth ar ôl digwyddiad trawmatig, ni fydd hynny o angenrheidrwydd yn golygu y byddwch yn datblygu PTSD. 

 

Ailddioddef symptomau  

  • Atgofion – Cael atgofion annifyr, a elwir yn feddyliau ymwthiol, yn ymwneud â’r digwyddiad – atgofion sy’n eich llethu ac yn peri trallod ichi.  
  • Breuddwydion – Cael breuddwydion neu hunllefau llawn trallod yn ymwneud â’r digwyddiad.  
  • Ymatebion datgysylltiol – Teimlo neu ymddwyn fel pe bai’r digwyddiad trawmatig yn digwydd eto (ôl-fflachiau). Mewn sefyllfaoedd eithafol, efallai na fyddwch yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas.  
  • Anawsterau corfforol neu seicolegol – Teimlo’n llawn trallod ac yn gorfforol effro (e.e. anadlu’n gyflym, curiad calon cyflym) ar ôl dod i gysylltiad â phethau sy’n eich atgoffa o’r digwyddiad mewn rhyw ffordd.

  

Symptomau osgoi   

  • Amnesia datgysylltiol – Methu cofio rhannau o’r digwyddiad trawmatig.  
  • Diffyg cyswllt – Teimlo ar wahân neu deimlo nad ydych yn agos mwyach at y bobl a arferai fod yn agos atoch.  
  • Osgoi siarad a meddwl – Dim awydd siarad neu feddwl am y digwyddiad(au) trawmatig.  
  • Osgoi cysylltiadau – Osgoi atgofion, meddyliau, teimladau, pethau, pobl a lleoedd sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad trawmatig. Gall hyn gynnwys osgoi gwylio’r teledu neu gyfryngau eraill sy’n sôn am y digwyddiad, yn enwedig os yw hynny’n peri trallod ichi.  

 

Symptomau’n ymwneud â’ch hwyliau   

  • Credoau a disgwyliadau negyddol – Meddwl mewn ffordd negyddol amdanoch eich hun, am bobl eraill neu am y byd. 
  • Beio – Eich beio eich hun neu bobl eraill ynglŷn â’r digwyddiad trawmatig neu’r canlyniadau a ddeilliodd ohono. 
  • Emosiynau negyddol – Teimlo ofn, arswyd, dicter, euogrwydd neu gywilydd yn barhaus.  
  • Colli diddordeb mewn gweithgareddau – Peidio â chymryd rhan/ymddiddori mewn gweithgareddau a arferai roi pleser ichi neu weithgareddau yr oeddech yn arfer eu gwneud yn rheolaidd.  
  • Methu teimlo emosiynau cadarnhaol – Methu teimlo hapusrwydd, boddhad neu deimladau cariadus.    

 

Effrogarwch a symptomau adweithedd 

  • Bod ar eich gwyliadwriaeth – Bod yn rhy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas, methu ymlacio. 
  • Dychryn yn hawdd – Gorymateb i synau neu symudiadau sy’n eich atgoffa o’r digwyddiad trawmatig.  
  • Anhawster canolbwyntio – Cael trafferth canolbwyntio ar dasgau yr oeddech yn gallu canolbwyntio arnyn nhw o’r blaen.
  • Anhawster cysgu – Cael trafferth syrthio i gysgu ac aros ynghwsg. Ar ôl syrthio i gysgu, efallai y byddwch yn cysgu’n wael neu’n cael hunllefau.     
  • Piwisrwydd – Mynd trwy hyrddiau pan fyddwch yn ymddwyn mewn modd ymosodol tuag at bobl neu bethau, naill ai ar lafar neu’n gorfforol. Efallai y bydd yr hyrddiau hyn yn digwydd ar ôl i rywbeth eich atgoffa o’r digwyddiad trawmatig.  
  • Dihidrwydd – Gwneud pethau peryglus neu hunanddinistriol. 

 

PTSD

Pam mae anhwylder straen wedi trawma yn digwydd?

Mae yna sawl esboniad posibl ar gyfer yr hyn sy’n achosi anhwylder straen wedi trawma.. ​Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg pam mae o'n digwydd.

Dysgu Mwy
what you can do

Pa driniaethau sydd ar gael?

Yma ceir wybodaeth ddefnyddiol am driniaethau ar gyfer anhwylder straen wedi trawma.

Dysgu Mwy
complex

PTSD Cymhleth

Cyflwyniad i anhwylder straen wedi trawma cymhleth, triniaethau a strategaethau hunan gymorth.

Dysgu Mwy
help others

Cefnogi rhywun sydd gydag anhwylder straen wedi trawma

Yma cewch wybodaeth ar sut i gefnogi rhywun sydd wedi bod trwy ddigwyddiad trawmatig a lle i gael cefnogaeth bellach.

Dysgu Mwy