Cynorthwyo eraill a chefnogaeth bellach - PTSD

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pawb sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD), neu sy’n adnabod rhywun a all fod yn dioddef ohono. 

 

Sut alla’ i gynorthwyo rhywun sydd wedi bod trwy ddigwyddiad trawmatig? 


Efallai y bydd y pethau a ganlyn o fudd wrth gynorthwyo pobl sydd wedi bod trwy ddigwyddiad trawmatig: 

Siarad
Neilltuwch amser er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw siarad am eu profiadau. 

Gwrando
Rhowch gyfle iddyn nhw siarad a cheisiwch beidio â thorri ar draws y llif na rhannu eich profiadau eich hun. 

Gofyn cwestiynau cyffredinol
Os byddwch yn gofyn cwestiynau, ceisiwch ofyn cwestiynau cyffredinol, anfeirniadol. Er enghraifft, efallai yr hoffech ofyn ‘a wyt ti wedi siarad efo rhywun arall am hyn?’ neu ‘a oes modd imi dy helpu i chwilio am gymorth ychwanegol?’ 


Dylech osgoi’r canlynol: 


Dweud wrthyn nhw eich bod yn gwybod sut y maen nhw’n teimlo

Hyd yn oed os ydych wedi mynd trwy rywbeth tebyg, mae profiadau pobl yn gallu bod yn wahanol iawn. Ni fydd cymharu profiadau yn helpu.  


Dweud wrthyn nhw eu bod yn lwcus eu bod yn fyw

Yn aml, ni fydd pobl sydd wedi bod trwy ddigwyddiadau trawmatig yn teimlo’n lwcus. Os collodd pobl eraill eu bywydau, yn aml fe allan nhw deimlo’n euog ynglŷn â’r ffaith eu bod yn fyw. 


Gwneud yn fach o’u profiad

Peidiwch ag awgrymu y gallai pethau fod wedi bod yn waeth, hyd yn oed os ydych yn ceisio gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Efallai y bydd pobl yn teimlo nad yw eu teimladau’n cael eu cyfiawnhau. 

 

Awgrymu pethau di-fudd 

Peidiwch ag awgrymu pethau, hyd yn oed os gweithiodd y pethau hynny i chi yn y gorffennol. Mae pobl yn wahanol iawn i’w gilydd, ac mae’n bosibl eu bod eisoes wedi rhoi cynnig ar yr hyn a awgrymwch. 


Rhagor o gymorth


Gwybodaeth am PTSD:

UK Psychological Trauma Society – Yma, gellir dod o hyd i ddetholiad o ddeunyddiau sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am Ymatebion Straen Wedi Trawma. Mae’r wybodaeth yn addas i’r cyhoedd ac i weithwyr iechyd proffesiynol. 

Trosolwg o PTSD, Y GIG – Mae’r wybodaeth hon gan y GIG yn ymdrin â PTSD.

Trosolwg o PTSD cymhleth, Y GIG – Mae’r wybodaeth hon gan y GIG yn ymdrin â PTSD cymhleth. 

PTSD, Mind – Gwybodaeth gan yr elusen Mind yn ymwneud â PTSD a PTSD cymhleth. 

Sut y gall cyfeillion a theulu helpu? Mind – Mae’r wybodaeth hon yn cynnig syniadau ar gyfer sut y gallwch helpu rhywun sy’n dioddef o PTSD. 

Cysylltiadau defnyddiol – Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni ar gyfer elusennau a sefydliadau eraill sy’n cynnig cymorth i bobl â PTSD. 


Elusennau sy’n cynorthwyo pobl â PTSD  

Dyma rai elusennau sy’n cynnig cymorth i bobl â PTSD neu sydd wedi mynd trwy ddigwyddiadau trawmatig: 

PTSD UK – Elusen o fewn y DU sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o PTSD. 

Combat Stress – Elusen o fewn y DU sy’n delio ag iechyd meddwl cyn-filwyr. 

Cymorth Galar Cruse – Elusen sy’n cynnig cymorth i bobl mewn galar yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Cruse Bereavement Care Scotland – Elusen sy’n hyrwyddo llesiant pobl mewn galar yn yr Alban. 

- Argyfwng Trais (Rape Crisis) – Ceir tair o elusennau Argyfwng Trais sy’n cynnig cymorth i bobl ledled  y DU: 

    Rape Crisis – Cymru a Lloegr 

    Rape Crisis – Yr Alban 

    Rape Crisis – Gogledd Iwerddon 

- Cymorth i Ddioddefwyr (Victim Support) – Ceir tair o elusennau Cymorth i Ddioddefwyr sy’n cynnig cymorth i bobl a ddioddefodd droseddau a digwyddiadau trawmatig ledled y DU:

    Cymorth i Ddioddefwyr – Cymru a Lloegr 

    Victim Support – Yr Alban 

    Victim Support – Gogledd Iwerddon