Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD)

Women talking

                   Beth yw awtistiaeth? 

 

Sbectrwm yw awtistiaeth. Mae hyn yn golygu bod pawb sydd ag awtistiaeth yn wahanol.

Ychydig iawn o gymorth sydd ei angen ar rai pobl awtistig, os o gwbl. Gall eraill fod angen cymorth gan riant neu ofalwr bob dydd.

Nid salwch yw awtistiaeth, a nid yw bod yn awtistig yn golygu bod gennych chi salwch neu afiechyd. Mae'n golygu bod eich ymennydd yn gweithio mewn ffordd wahanol i ymennydd pobl eraill.

Rhywbeth rydych chi'n cael eich geni gydag ag ef neu sy'n ymddangos pan rydych chi'n ifanc iawn, ond mae'n gyflwr gydol oes.

Nid cyflwr meddygol yw awtistiaeth gyda thriniaethau nac "iachâd". Ond mae rhai pobl angen cymorth gyda rhai pethau.

Defnyddir enwau eraill am awtistiaeth gan rai pobl, fel:

  • anhwylder sbectrwm awtistig (ASD) – yr enw meddygol ar awtistiaeth
  • cyflwr sbectrwm awtistiaeth (ASC) – a ddefnyddir yn lle ASD gan rai pobl
  • Asperger's (neu syndrom Asperger) – a ddefnyddir gan rai pobl i ddisgrifio pobl awtistig sydd â deallusrwydd canolig neu uwch

Yn aml mae gan bobl awtistig gyflyrau eraill, fel:

  • anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) neu ddyslecsia
  • gorbryder neu iselder
  • epilepsi

Symptomau   

Gall pobl awtistig:

  • ei chael yn anodd cyfathrebu a rhyngweithio â phobl eraill
  • ei chael yn anodd deall sut mae pobl eraill yn meddwl neu'n teimlo
  • deimlo bod pethau fel goleuadau llachar neu synau uchel, yn eu llethu, yn achosi straen neu'n anghyfforddus
  • fod yn bryderus neu'n ofidus am ddigwyddiadau cymdeithasol a sefyllfaoedd anghyfarwydd
  • cymryd mwy o amser i ddeall gwybodaeth
  • gwneud neu feddwl yr un pethau drosodd a throsodd

 

Awtistiaeth mewn menywod a dynion

Gall awtistiaeth weithiau fod yn wahanol mewn menywod a dynion.  Er enghraifft, gall menywod awtistig fod yn dawelach, gallant guddio eu teimladau ac ymddangos fel pe baent yn ymdopi'n well â sefyllfaoedd cymdeithasol.  Mae hyn yn golygu y gall fod yn anos dweud os yw menyw yn awtistig.

 

Pryd i gael help

Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn awtistig.  Os ydych eisoes yn gweld gweithiwr iechyd proffesiynol, fel meddyg neu therapydd arall, gallech godi'r mater gyda nhw.

Gall diagnosis eich helpu i gael unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch.  Os oes gennych chi neu'ch plentyn arwyddion o awtistiaeth, y cam nesaf yw siarad â rhywun am y peth.

 

Gallech siarad â

  • meddyg teulu
  • ymwelydd iechyd (i blant dan 5 oed)
  • unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol arall rydych chi neu'ch plentyn yn ei weld, fel meddyg neu therapydd arall

Gofynnwch iddynt a ydynt yn meddwl ei bod yn syniad da eich cyfeirio at arbenigwr i gael asesiad awtistiaeth.  Cynhelir asesiad gan arbenigwyr awtistiaeth. Dyma'r unig ffordd i gael gwybod a ydych chi neu'ch plentyn yn awtistig.

 

Cysylltiadau Defnyddiol

https://Awtistiaethcymru.org   

Fideos llawn gwybodaeth yn disgrifio beth yw ASD a sut mae'n wahanol i bob person. Tystiolaeth o brofiadau wedi eu byw.

Isadrannau gyda chanllawiau ar sut i fyw gydag ASD. Yn ogystal ag adnoddau ar gyfer teulu/ffrindiau/gofalwyr pobl ag ASD. Yn fras mae'n edrych ar y rhan fwyaf o'r pethau y byddai ar bobl angen eu gwybod. Mae'r wefan hon yn fwy penodol i Gymru.

https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/a/article/autism/?locale=en

Gwybodaeth am beth yw ASD, a chyfeirio hefyd at fannau lle gall pobl sy'n meddwl eu bod yn awtistig fynd i gael gwybod sut i gael diagnosis.

https://www.autism.org.uk/  

Adnodd eang arall sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ag ASD.