Anorecsia Nerfosa

Logo Beat Eating Disorder
Darparwyd y wybodaeth isod gan Beat Eating Disorders 
 

Mae anorecsia (neu anorecsia nerfosa) yn salwch meddwl difrifol lle mae pobl o dan eu pwysau oherwydd nad ydynt yn bwyta na’n yfed digon. Maen nhw weithiau’n creu “rheolau” o gwmpas beth y maen nhw’n teimlo sy’n iawn i’w fwyta neu beidio, a hefyd o ran pryd a ble i fwyta. Gall anorecsia effeithio ar bobl o bob oed, rhywedd, tarddiad ethnig neu gefndir. Yn ogystal â bwyta llai, maen nhw hefyd weithiau’n gor-wneud ymarfer corff, yn gwneud i’w hunain chwydu neu’n camddefnyddio tabledi lacsatif i gael gwared ar fwyd a fwytawyd. Gall rhai pobl ag anorecsia hefyd ddioddef o’r cyflwr glwth-fwyta (bwyta gormod o fwyd ar y tro) cyn gwagio’r stumog wedyn. 

Gall pwysau a siâp fod yn ffactor mawr yn nheimladau hunanwerth y person sydd ag anorecsia. Gall hyn wneud iddynt wirio eu corff yn rheolaidd, neu fel arall, ceisio osgoi’r drych a’r glorian. Mae’r ffordd y mae pobl ag anorecsia’n gweld eu hunain yn aml yn groes i’r ffordd y mae eraill yn eu gweld - mae ganddynt ddelwedd wyrdroëdig (distorted) ohonynt eu hunain yn aml ac yn meddwl eu bod yn fwy nag y maen nhw. Mae arnynt ofn dwfn o fagu pwysau ac fel arfer yn herio’r syniad y dylent fagu mwy o bwysau. 

Weithiau nid yw’r symptomau efallai’n cyfateb yn union i bopeth y mae meddyg yn ei wirio i gadarnhau anorecsia – er enghraifft efallai bod eu pwysau’n “normal” i’w hoed, rhywedd a’u datblygiad disgwyliedig. Gan ddibynnu ar yr union symptomau, gallent gael diagnosis o anorecsia annodweddiadol neu anhwylder bwyta penodedig o fath arall

"Roeddwn yn meddwl am fwyd a chalorïau drwy’r amser. Ceisiais osgoi bwyd gyda llwyth o fraster neu garbohydradau a bwyta dim ond bwyd ‘diogel’ y teimlais oedd yn ocê i mi ei fwyta." 

Ydy anorecsia’n ddifrifol?

Gall anorecsia achosi problemau corfforol difrifol oherwydd effaith llwgu ar y corff. Gall arwain at golli cryfder cyhyrau a lleihau cryfder yr esgyrn. Gall stopio'r misglwyf mewn merched a ddechreuodd gael y misglwyf. Gallai eu hysfa i gael rhyw (libido) hefyd leihau. Gall y salwch effeithio ar berthynas y person â theulu a ffrindiau, gan wneud iddynt gilio; gall hefyd effeithio ar eu gwaith neu addysg. Fel gydag anhwylderau bwyta eraill, mae anorecsia’n gysylltiedig weithiau ag iselder, hunanwerth isel, goryfed alcohol a hunan-niwed. Yn aml iawn nid yw difrifoldeb canlyniadau corfforol ac emosiynol y cyflwr yn cael ei adnabod na’i gydnabod ac nid yw dioddefwyr yn gofyn am gymorth yn aml ychwaith - maen nhw’n ceisio cuddio eu hymddygiad oddi wrth deulu a ffrindiau ac weithiau ddim yn sylweddoli eu bod yn sâl. 

Mae anorecsia mewn plant a phobl ifanc yn debyg i’r cyflwr mewn oedolion o ran ei nodweddion seicolegol. Ond gallai plant a phobl ifanc, yn ogystal â phwyso’n isel, hefyd fod yn fyrrach nag eraill o’r un oed, ac yn fwy araf i ddatblygu’n gorfforol.  

Mae nifer o arwyddion anorecsia ond nid oes raid i rywun ddangos pob un i fod yn dioddef ohono. Nid yw’n amlwg bob tro bod gan rywun anhwylder bwyta – rhaid cofio mai salwch meddwl ydyw.  Os ydych yn poeni o gwbl amdanoch eich hun neu rywun arall, hyd yn oed os dangosir ond rhai o’r arwyddion ar y dudalen hon, y peth gorau bob tro yw gofyn am gymorth cyn gynted â phosib i gael y siawns orau o wella’n llwyr. Y cam cyntaf fel arfer yw gwneud apwyntiad gyda’r meddyg teulu. 

"Wrth i mi golli pwysau, roeddwn yn dechrau teimlo’n flinedig ac roedd hyn yn gwneud i mi deimlo’n fwy isel. Ni allwn feddwl yn iawn na chanolbwyntio yn yr ysgol. Y cwbl y gallwn feddwl amdano oedd bwyd oherwydd bod fy ymennydd a 'nghorff yn crefu amdano. Dwi’n deall bellach fy mod yn dioddef o effeithiau llwgu."

Behavioural Signs

Dyma rai o arwyddion mwyaf cyffredin anorecsia nerfosa:

Arwyddion Ymddygiad

Os yw rhywun yn dechrau cael anorecsia, mae rhywun yn aml yn sylwi ar newidiadau ymddygiad cyn y newidiadau corfforol. Mae’r arwyddion yn cynnwys: 

  • Dweud eu bod wedi bwyta’n barod neu eu bod am fwyta nes ymlaen, neu wedi bwyta mwy nag y maen nhw 
  • Peidio â dweud y gwir am faint o bwysau y maen nhw wedi’i golli 
  • Mynd ar ddiet llym iawn ac osgoi bwyd a allai yn eu barn nhw eu gwneud yn dew 
  • Cyfri’r calorïau mewn bwyd yn ormodol 
  • Bwyta bwyd gyda chalorïau isel yn unig, neu gyfyngu ar y mathau o fwydydd 
  • Colli prydau bwyd (ymprydio) 
  • Osgoi bwyta gyda phobl eraill 
  • Cuddio bwyd 
  • Torri eu bwyd yn ddarnau bach iawn i’w gwneud yn llai amlwg eu bod ond wedi bwyta ychydig, neu i wneud y bwyd yn haws ei lyncu 
  • Bwyta’n araf deg iawn 
  • Cymryd tabledi atal chwant bwyd, fel pils diet neu golli pwysau 
  • Ymddygiad obsesio a / neu ddiwyro, yn enwedig o ran bwyd 
  • Yn biwis / pigog 
  • Gor-ymarfer y corff – gallai gynnwys ymarfer a hwythau efallai ddim yn ddigon da i wneud, neu deimlo’n euog neu’n ofidus am beidio 
  • Chwydu neu gamddefnyddio tabledi lacsatif 
  • Ynysu a chilio’n gymdeithasol 
  • Gwisgo dillad llac i guddio eu corff oherwydd eu bod yn gorfforol ddihyder, neu fel bo’r pwysau a gollwyd yn llai amlwg 
  • Rhoi eu cynlluniau addysg a chyflogaeth yn y fantol. 

 

Arwyddion Seicolegol

Salwch meddwl yw anorecsia a byddwch efallai’n sylwi ar newid mewn teimladau, ynoch chi neu’r person yr ydych yn eu hadnabod, cyn i’r symptomau corfforol ddod yn amlwg. Gall arwyddion seicolegol gynnwys: 

  • Ofn bod yn dew neu ysu i fod yn denau 
  • Gormod o ffocws ar bwysau corfforol 
  • Argraff wyrdroëdig o bwysau neu siâp y corff - er enghraifft, meddwl eu bod yn llawer mwy nag y maen nhw 
  • Diystyru neu wadu pa mor ddifrifol yw’r broblem neu gredu nad oes problem o gwbl, hyd yn oed ar ôl diagnosis 
  • Treulio llawer neu’r rhan fwyaf o’u hamser yn meddwl am fwyd 
  • Gorbryderu, yn enwedig am fwyta o flaen pobl eraill 
  • Hunan-hyder a hunanwerth isel 
  • Trafferth canolbwyntio 
  • Nod o berffeithrwydd a gosod safonau uchel iawn iddyn nhw eu hunain
  • Mathau eraill o salwch meddwl fel iselder, gorbryderu neu anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD). 

 

Arwyddion Corfforol

Mae llwgu’n effeithio ar holl organau’r corff, gan gynnwys yr ymennydd a meinwe’r cyhyrau. Mae pobl ag anorecsia nerfosa’n aml yn dangos arwyddion corfforol o lwgu, gan gynnwys: 

  • Colli pwysau  
  • Misglwyf anghyson, neu’r misglwyf yn stopio’n llwyr 
  • Diffyg diddordeb mewn rhyw 
  • Trafferth cysgu 
  • Wedi blino o hyd 
  • Teimlo’n benysgafn 
  • Poen bol 
  • Yn rhwym 
  • Stumog wedi chwyddo   
  • Teimlo’n oer neu dymheredd corff isel  
  • Blew mân, meddal yn tyfu dros y corff (“lanugo”) 
  • Colli gwallt 
  • Gwendid corfforol
  • Colli cryfder y cyhyrau 
  • Effaith ar lefel hormonau  
  • Traed, dwylo neu wyneb yn chwyddo (“oedema”) 
  • Pwysedd gwaed isel 
  • Cylchrediad gwaed gwael 

 

Effeithiau Hirdymor

Fel unrhyw anhwylder bwyta, gall anorecsia achosi effeithiau corfforol hirdymor sy’n gallu bod yn barhaol, gan gynnwys: 

  • Colli dwysedd esgyrn (osteoporosis) 
  • Enamel y dannedd yn erydu 
  • Trafferth cael plant, anffrwythlondeb 
  • Problemau’r galon 
  • Difrod i organau eraill fel yr iau, arennau a’r coluddyn 
  • System imiwnedd wannach 
  • Oedi cyn i’r glasoed ddechrau, neu effaith ar daldra plant a rhai yn eu harddegau cynnar 
  • Y peth gwaethaf yw bod anorecsia’n gallu bod yn farwol os nad yw’n cael ei drin mewn pryd. Fodd bynnag mae’n bosib gwrthdroi llawer o effeithiau corfforol anorecsia neu eu hatal rhag gwaethygu, a gellir trin anhwylderau bwyta a gwella’n llwyr ohonynt. 

 

behaviour

Triniaeth ar gyfer Anorecsia

Gwybodaeth bellach am driniaeth ar gyfer anorecsia

Dysgu mwy