Cefnogi teulu a ffrindiau sydd efo ffobia

Myf friends

Gall fod yn anodd gwybod sut i roi cymorth i rywun gydag anhwylder ffobia, dyma naw bwynt pwysig i helpu eich ffrind neu aelod teulu gyda’u ffobia.

Mae byw gyda ffobia yn gallu bod yn anodd iawn i’r unigolyn, yn eu rhwystro rhag gwneud pethau maent eisiau ei wneud, achosi cyfnodau o banig dwys a gwneud iddynt deimlo’n unig iawn. Yn ogystal â hyn, gall hefyd fod yn gyfnod anodd i deulu a ffrindiau rhywun sydd gyda ffobia, yn anodd ei gweld yn dioddef, yn ansicr o sut i’w cefnogi ac ar adegau yn rhwystredig i geisio rhesymoli gyda nhw.

Mae ffobiâu yn anhwylder gorbryder, ffobia yw ofn gormodol ac afresymol o rywbeth sydd yn arwain at bryder a straen wrth ymgysylltu a’r peth hwnnw ac yn amharu ar fywyd dyddiol. Gall fod yn ofn o unrywbeth, rhai cyffredin yw pryfed cop, nadroedd, uchder, a rhai mwy anghyffredin yw balŵns, coed a dwylo. Mae gan ffobia symptomau emosiynol megis teimladau o banig, meddyliau afresymol, colli rheolaeth, dadbersonoli, a symptomau ffisegol megis anhawster anadlu, pinnau bach, chwysu a theimlo’n benysgafn. Mae cael system gefnogol yn gallu lleddfu’r anhwylder pryder, rhestrir naw pwynt i’ch helpu i gefnogi eich ffrind neu aelod o deulu mewn ffordd lwyddiannus:

  1. Mae ffobiâu yn wahanol i ofnau cyffredin, ac mae’n bwysig iawn adnabod y gwahaniaeth yma er mwyn gallu delio gyda’r sefyllfa yn briodol. Enghraifft o hyn fuasai lifftiau, mi all rhywun fod ofn mewn llefydd bychan a chyfwng ond parhau i ddefnyddio lifft, lle byddai rhywun gyda claustrophobia (ffobia o lefydd caeedig) yn methu defnyddio lifft oherwydd y gall sbarduno panig. Mae’n hynod o bwysig i beidio rhoi pwysau ar rywun gyda ffobiâu gan ei fod yn anhwylder rhwystredig iawn yn barod.

  2. Mae’n bwysig cymryd y ffobia o ddifri, mae hyn yn swnio fel synnwyr cyffredin, ond mae nifer o bobl yn methu yma. Mae rhai ffobiâu yn edrych yn od i rywun o’r tu allan, megis sidonglobophobia sef ffobia o wlân cotwm, ond mae pryder a straen yr unigolyn yr un mor ddilys ac unrhyw ffobia arall. Gall trin ffobia'r unigolyn fel lol wneud i’r unigolyn teimlo’n wirion, unig ac achosi fwy o straen ddiangen.

  3. Ceisiwch ddeall eu ffobia, fel unrhyw beth mewn bywyd, y mwyaf yr ydych yn gwybod am y pwnc yr hawsaf yw i’w ddeall. Mae yna nifer o adnoddau da ar-lein sydd yn trafod ffobiâu yn gyffredinol a rhai penodol er mwyn addysgu’ch hunain. Mi all fod yn ddefnyddiol i ddarllen am brofiadau eraill gyda’r un ffobia i gael mewnwelediad i'r anhwylder. Bydd hyn yn eich helpu i ddangos empathi a gwneud i'r unigolyn deimlo’n fwy diogel i fod yn agored gyda chi, bydd hyn yn dod a chi'n agosach.

  4. Peidiwch â bod ofn holi’r unigolyn er mwyn gallu deal eu ffobia yn well. Mae ffobiâu fel arfer yn fanwl iawn, yn gymhleth ac yn wahanol i bob unigolyn. Pe baent yn gyffyrddus i wneud, gall rhoi lle diogel anfeirniadol i'ch ffrind neu aelod o'r teulu rannu eu profiadau a thrafod eu ffobia wneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw'n cael eu derbyn a'u dilysu. Gall wneud hyn yn syml trwy ofyn iddyn nhw os maent yn fodlon i siarad am eu ffobia gan eich bod chi eisiau deall mwy am eu profiadau. Os maent yn gyfforddus gyda chi, gallwch hefyd ofyn cwestiynau penodol megis, "sut fath o bethau sy'n dy sbarduno i banig", "be fedra i wneud i helpu", "be sydd ddim yn help pan wyt ti mewn panig".

  5. Gall pwl o banig unigolyn gyda ffobia achosi i eraill o'u cwmpas deimlo’n rhwystredig oherwydd natur afresymol a pharhaus yr anhwylder. Tydi colli eich tymer ddim am helpu mewn unrhyw achos, er y teimlwch weithiau fel dweud “snap out of it!” Fodd bynnag mae’n hanfodol eich bod chi’n cadw'n dawel. Gall bod yn gefnogol, cadarn a chryf fod yn ddigon i roi’r nerth angenrheidiol i rywun oresgyn eu panig.

  6. Pan mae’r unigolyn yn cael pwl o banig mae’n bwysig gofyn iddyn nhw beth sydd am helpu a bod yn barod i wrando yn hytrach na chymryd drosodd. Mi all hyn fod yn ymarferion anadlau, siarad er mwyn atgyfeirio eu sylw, gadael yr ystafell neu unrhyw beth arall. Mae hyn yn eich galluogi chi i helpu yn y ffordd fwyaf effeithiol ac yn eich galluogi i gynorthwyo’r unigolyn i oresgyn y pwl o banig. Mae hyn yn help i roi rheolaeth yn ôl i’r unigolyn, gan fod y teimlad o golli rheolaeth yn un o brif achosion panig.

  7. Elfen fawr o ffobia yw’r afresymoldeb. Gall hyn fod yn rhwystredig i bobl o’r tu allan, ond yn fwy byth i’r unigolyn gan eu bod nhw rhan amlaf yn llwyr ymwybodol bod eu meddyliau negyddol yn afresymol a di-sail. Mae’n bwysig i herio'r meddyliau yma er mwyn ceisio eu hatgyweirio, gellir gwneud hyn drwy eu hannog i edrych o bersbectif gwahanol, eu hatgoffa o'u cynydd a'u cryfder a dangos eu bod nhw yn dal i lwyddo er eu bod yn gallu teimlo’n fregus.

  8. Mae’r llinell rhwng cefnogi a helpu unigolyn gyda ffobia ac yna bod yn fagl neu alluogwr yn un denau iawn, ac mae’n bwysig i beidio ei chroesi. Mae gosod ffiniau yn osgoi datblygiad y ffobia ac yn eich arbed chi eich hun, gall fod yn straenus teimlo cyfrifoldeb dros iechyd meddwl rhywun arall. Os ydych yn meddwl eich bod yn hwyluso ffobia eich ffrind neu aelod o deulu, neu eu bod yn dibynnu arnoch chi yn ormodol, rhaid atgyweirio eich rôl. Gellir gwneud hyn drwy gydnabod terfyn eich gallu, rhannu'r cyfrifoldeb gofal gydag eraill a siarad am eich teimladau gydag eraill.

  9. Mae nifer o bobl yn gallu ymdopi a byw bywyd llawn gyda ffobia, ond os mae ffobia eich ffrind neu aelod deulu yn mynd allan o’u rheolaeth ac yn dirywio ansawdd eu bywyd mae’n hanfodol bwysig eu hannog nhw i gael help proffesiynol. Gall hyn fod yn frawychus, ond mae yno amrywiaeth eang o therapiau sy’n trin ffobiau megis therapi siarad, therapi grwp, hypnotherapy, meddyginiaeth a mwy, gallwch ymchwilio’r holl opsiynau gyda’ch gilydd.

Tydi ffobia ddim yn diffinio’r unigolyn, ond mae’n gallu bod yn rhan fawr o’u bywyd ac felly mae’n bwysig dod i’w adnabod fel unrhyw peth arall yn eu bywyd. Gellir ei gymharu i gyfarfod teulu eich cariad neu ddysgu am swydd eich ffrind. Gydag iechyd meddwl mae profiadau pawb yn unigryw, ond mae’r naw pwynt yma yn sail gadarn i unrhyw un sy’n ceisio cefnogi eu ffrind neu aelod teulu sy’n ymdrin ag ffobia.