Datrys problemau

solution

DARPARWYD GAN ANNA FREUD

NHS logo

 

Os ydych yn poeni am rywbeth, gall hollti’r broblem yn rhannau llai a haws eu trin wneud iddi ymddangos yn llai brawychus o lawer.  Un ffordd o wneud hyn yw trwy restru’r holl ganlyniadau posibl, hyd yn oed y rhai annifyr. Er enghraifft, os ydych yn teimlo’n bryderus gan nad ydych yn deall rhyw bwnc neu’n gwybod sut i baratoi ar gyfer arholiad, gallwch nodi’r canlyniadau posibl hyn ar ddu a gwyn: 

 

  • Peidio ag adolygu ar gyfer yr arholiad 
  • Ceisio deall y gwaith ar eich pen eich hun 
  • Gofyn i athro neu gyfaill am help

 

Yr ail gam yw rhestru’r manteision a’r anfanteision sy’n perthyn i bob ateb: 

 

Peidio ag adolygu: 

 

Manteision: does dim angen ichi wneud unrhyw beth 
Anfanteision: fe allech fethu’r arholiad 

 

Deall y gwaith ar eich pen eich hun:

 

Manteision: gallwch ddechrau ar eich union 
Anfanteision: efallai y bydd yn rhy anodd neu’n gwaethygu pethau 

 

Gofyn i athro neu gyfaill am help: 

 

Manteision: bydd rhywun yn esbonio’r gwaith, felly bydd gennych well siawns o basio’r arholiad 
Anfanteision: gorfod aros hyd nes y gallan nhw helpu 



Y trydydd cam yw dewis yr ateb mwyaf ymarferol. Yn yr enghraifft hon, mae’n ymddangos mai’r opsiwn olaf sydd fwyaf tebygol o lwyddo.  

Ar ôl ichi benderfynu ar ateb neu gyfuniad o atebion, y pedwerydd cam yw creu cynllun ar gyfer mynd i’r afael â’r ateb. Beth am decstio neu ffonio eich cyfaill yn awr? Beth am ofyn i’ch athro am help pan welwch ef yn yr ysgol y tro nesaf? Efallai y byddai ysgrifennu ‘nodyn atgoffa’ i chi eich hun yn helpu yn hyn o beth. 

Y pumed cam yw cofnodi eich cynnydd, adolygu eich cynlluniau a theimlo’n dda ynglŷn â’ch ymdrechion. Os ydych wedi rhoi cynllun ar waith, fel gofyn i athro eich helpu i astudio, efallai y bydd hyn yn lleihau eich pryderon ynglŷn â’r arholiad gan eich bod yn gwybod y bydd rhagor o gymorth ac adnoddau ar gael yn fuan. 

 

Mae’r camau hyn wedi’u seilio ar daflen waith ‘datrys problemau’ BBC Health. Gallwch ddefnyddio’r daflen hon fel templed.