Dibyniaeth

Logo Young Minds
Darparwyd y wybodaeth isod gan Young Minds 
 

Mae bod yn ddibynnol ar rywbeth (neu'n gaeth i rywbeth) yn golygu nad oes gennych chi reolaeth dros wneud, cymryd neu ddefnyddio rhywbeth niweidiol. 

Gall dibyniaeth ddigwydd pan fydd rhywun yn defnyddio neu'n camddefnyddio sylweddau penodol (sy'n gallu cynnwys alcohol, cyffuriau stryd neu feddyginiaeth ar bresgripsiwn) dro ar ôl tro am gyfnod hir. Gallwch chi hefyd fynd yn gaeth i weithred, megis gamblo, siopa neu gael rhyw. 
 

Os ydych chi wedi mynd yn ddibynnol ar gyffur, efallai y byddwch chi'n: 

  • teimlo bod gennych chi awydd neu ysfa na allwch chi ei reoli i gymryd y cyffur pan fydd y dos olaf wedi colli ei effaith 
  • teimlo bod cymryd y sylwedd neu ailadrodd y weithred yn rhoi gwobr ichi (e.e. teimlad llesol, neu deimlo'n 'chwil' - fel y dywedir yn aml) 
  • teimlo ei bod hi'n anodd rhoi'r gorau i gymryd y cyffur, hyd yn oed os ydych chi'n gwybod ei fod yn effeithio ar eich iechyd, sefyllfa ariannol neu berthnasoedd 
  • teimlo bod arnoch chi angen mwy a mwy o'r cyffur i gael yr un effeithiau wrth i amser fynd heibio (rydych chi'n datblygu goddefiad o'r cyffur) 
  • rhoi blaenoriaeth i gymryd y cyffur dros bethau eraill yn eich bywyd, megis ffrindiau a theulu, ysgol ac arholiadau, cymdeithasu neu ddiddordebau yr oeddech chi'n arfer eu mwynhau. 
  • cael symptomau diddyfnu os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd y cyffur (p'un a ydych chi'n cymryd llai o'r cyffur neu'n rhoi'r gorau i'w gymryd yn gyfan gwbl). 

 

 

Cyffuriau a meddyginiaethau cyffredin y bydd pobl yn mynd yn ddibynnol arnyn nhw: 

 

Nicotin

Mae hwn i'w gael mewn cynhyrchion tybaco ac mae'n cynyddu'r dopamin mewn rhannau o system wobrwyo'r ymennydd hyd at wyth gwaith y lefel arferol.


Alcohol 

Mae hwn yn effeithio ar sawl system yn yr ymennydd ac yn cynyddu'r GABA a dopamin sy'n cael eu cynhyrchu. 

 

Bensodiasepinau 

Mae'r rhain yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn i'ch helpu chi i gysgu neu i drin gorbryder, ac maen nhw'n cynyddu actifedd GABA yn yr ymennydd. Mae diasepam, lorasepam ac alprasolam yn rhai o'r bensodiasepinau mwyaf cyffredin.

 

Ni chredir bod gwrth-iselyddion na meddyginiaethau gwrthseicotig yn gaethiwus. Dydych chi ddim yn cael awydd cryf i'w cymryd. Y rheswm pam na ddylech chi roi'r gorau i'w cymryd yn sydyn ydy oherwydd y gallech chi gael effeithiau diddyfnu annymunol. 

 

Fydda i'n mynd yn ddibynnol ar feddyginiaeth iechyd meddwl? 

Yn aml, bydd pobl yn pryderu y byddan nhw'n mynd yn ddibynnol ar eu meddyginiaeth iechyd meddwl, yn enwedig os bydd rhywun yn dweud wrthyn nhw na ddylen nhw roi'r gorau i'w chymryd yn sydyn. 

Ni chredir bod gwrth-iselyddion na meddyginiaethau gwrthseicotig yn gaethiwus. Dydych chi ddim yn cael awydd cryf i'w cymryd. Y rheswm pam na ddylech chi roi'r gorau i'w cymryd yn sydyn ydy oherwydd y gallech chi gael effeithiau diddyfnu annymunol - yr enw ar hyn ydy adwaith terfynu ('discontinuation reaction'). Os byddwch chi'n dod â'r driniaeth i ben yn rhy fuan, gall hefyd achosi i'r symptom gwreiddiol ddychwelyd. 

Y ffordd orau o roi'r gorau i gymryd meddyginiaeth iechyd meddwl fel arfer ydy gwneud hynny'n raddol, gan roi amser i'r ymennydd addasu i fod heb y feddyginiaeth. Gall wneud hyn yn naturiol ac yn ddiogel dros amser (yr amser sy'n cael ei argymell ar hyn o bryd ar gyfer rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth ydy chwe wythnos neu fwy). Gofynnwch am help a chyngor gan eich meddyg neu fferyllydd, fel y gallwch chi roi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth yn y ffordd fwyaf diogel.