Dibyniaeth ar wefannau cyfryngau cymdeithasol

Mae gwefannau cymdeithasol yn rhan fawr o fywydau pawb. Mae yn rhan bwysig i fywydau pawb ond eto gall y ddibyniaeth yna ar y gwefannau cymdeithasol fod yn broblem. Mae gwefannau cymdeithasol yn cael effaith dibyniaeth seicolegol fawr ar yr ymennydd ac yn gallu rhoi effaith negyddol ar ein bywydau. Wrth siarad o brofiad mae cymharu popeth o edrychiad, i’r ffordd o fyw yn hynod o flinedig ac yn effeithio yn fawr ar fy hwyliau yn enwedig amdanaf i fy hun. Dwi’n cwestiynu fy hun ambell waith, pam bo fi ddim yn edrych fel hanner y merched sydd yn ymddangos ar fy ‘feed’ ac yn cymharu fy hun iddyn nhw bob tro.

 

Mae’r ymdeimlad o orfod postio lluniau yn seiliedig ar be mae fy nilynwyr eisiau ei weld yn hytrach na beth ydw i eisiau ei rannu yn feddylfryd hynod o wenwynig. Mae gwefannau cymdeithasol fod yn le hapus i rannu pethau sy’n gwneud i fi fy hun deimlo’n hapus ond dyddiau yma mae popeth am y ‘likes’ ar boblogrwydd ac mae wedi newid i fod yn le lle dwi a niferoedd o bobl eraill dim ond eisiau bodloni ein dilynwyr. Y prif amcan yw parhau postio lluniau rydyn ni'n meddwl bod eraill eisiau eu gweld yn hytrach na’r lluniau rydym ni eisiau eu postio. Mae’r pwysau hefyd o feddwl bod pobl am eich barnu yn llwyr ar sail faint o ‘likes’ neu sylwadau da chi wedi ei dderbyn ar lun neu faint o ddilynwyr da chi hefo yn warthus - ond dyna beth yw’r ymdeimlad gan wefannau cymdeithasol dyddiau yma. Mi fyswn i wedi bod o gywilydd cyfaddef y teimladau yma sydd gennai tuag at wefannau cymdeithasol misoedd yn ôl ond dwi wedi bod yn meddwl lot am y peth yn ddiweddar ar ôl i un o fy ffrindiau postio post yn esbonio yn union beth dwi newydd ei ddweud ac mi o ni yn teimlo yn union fel hi, y pwysau cyson i blesio fy nilynwyr bob tro o ni yn meddwl postio ar wefannau cymdeithasol. Mi oedd hi yn rhyddhad gweld bod rhywun yn teimlo yn debyg i sut o ni oherwydd dydi o ddim yn bwnc sydd yn cael ei drafod allan yn uchel ond dwi’n credu yn gryf ei fod yn hen bryd ei fod o. Wrth gwrs dwi ddim yn beirniadu unrhyw un a'r pethau maent yn ei phostio o gwbl! Dwi’n sôn am sut ydw i yn ei deimlo yn bersonol ac unigolion eraill fel fi.

 

Ella rheswm dwi’n teimlo fel hyn oherwydd bo fi yn dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol i wneud i fi deimlo’n well amdanaf i fy hun. Pan mae’r ‘likes’ yn dod mae yn gwneud i fi deimlo fel bo fi wedi gwneud rhywbeth da oherwydd bod pobl yn licio’r llun sydd yn hollol wirion ond mae yn dangos y dylanwad a’r rheolaeth sydd gan wefannau cymdeithasol ar fywydau unigolion a sut mae wedi troi allan i fod dyddiau yma. Mae mwy a mwy o bobl yn cychwyn mynd yn ansicr o nhw ei hunan yn seiliedig ar wefannau cymdeithasol a beth maen nhw yn ei gweld o ddydd i ddydd. Mae pawb yn postio'r fersiwn gore ohonyn nhw’i hunan ar wefannau cymdeithasol sydd yn hollol naturiol, dyna be da ni eisiau i bobl ei weld ond eto dyna beth ydi’r broblem! Fel dwedes i o’r blaen,  dwi’n gwybod yn iawn na nid jest fi sy’n teimlo fel hyn a dydi o ddim yn deimlad grêt gorfod meddwl yn ddwfn am be dwi am bostio ar instagram jyst i neud yn siŵr bod fi cal hyn a hyn o ‘likes’, dio ddim yn iach o gwbl a ddim y meddylfryd gore i fod ynddo o gwbl!

Mae ystadegau yn dangos bod plant yn eu harddegau yn treulio 5 awr ar wefannau cymdeithasol bob diwrnod yn ddwywaith mwy tebygol o ddatblygu a dangos symptomau iselder. Hyn yn dangos yr effaith ‘bittersweet’ na o wefannau cymdeithasol, yn gwneud i chi deimlo’n hapus ond eto i deimlo’n isel yr un pryd.

 Un o’r rhesymau pam dwi di meddwl mwy am hyn yn ddiweddar yw'r sioc o weld y canran o ‘screen time’ sy’n dod fyny ar fy ffôn bob wythnos. Dwi wedi cael fy nychryn ond hefyd wedi cael gwireddu. Rydym ni yn ymwneud mwy gyda beth sydd yn digwydd ar y gwefannau cymdeithasol yma nag ydym ni i fywyd go iawn sydd yn digwydd tu hwnt i’r sgrin. Rydym ni yn gaeth i hyn ac yn gwneud ein hunan yn llai hapus wrth barhau fod gydag ein trwynau yn stwc i ein ffonau o hyd.

I ymdopi a hyn dwi wedi penderfynu o hyn ymlaen postio pethe dwi eisiau ei rannu gyda’r byd yn hytrach beth dwi’n meddwl mai pobl eisiau gweld. Dwi’n sicr mi fydd yn cymryd amser i mi fynd allan o’r ffrâm meddwl o feirniadaeth eraill ond dwi’n barod i newid hynny er lles fy iechyd meddwl a hapusrwydd. Mae o’n ormod meddwl a dibynnu ar farn pobl eraill i gael fi lawr. Yn ogystal â hyn dwi wedi dibynnu llai o faint ar wefannau cymdeithasol yn ddiweddar. Dwi heb atal mynd arnyn nhw o gwbl oherwydd dwi yn hoffi gweld be mae fy ffrindiau yn ei wneud o ddydd i ddydd a chadw mewn cysylltiad ond lleihau'r amser dwi’n ei gwastraffu yn sgrolio yn ddibwys a gwastraffu amser yn lle treulio’r amser hynny yn gwneud pethau sydd yn fy ngwneud i yn hapus!