Iaith yr ymennydd: dysgu sut i siarad â’ch hun yn y ffordd gywir

Os gwelwch arwydd yn dweud, ‘Peidiwch â cherdded ar y glaswellt‘, y peth cyntaf a ddaw i’ch meddwl yw cerdded ar y glaswellt, byddwch wedyn yn prosesu’r rhan negyddol o’r frawddeg ‘peidiwch‘. Mae hyn am ein bod yn meddwl am y cyfarwyddyd ar ôl y gwrthrych, (y gwrthrych yw’r hyn rydym yn ei weld neu ei deimlo). Byddai ‘Cerddwch ar y palmant’ yn arwydd mwy effeithiol, gan y byddai eich meddwl yn gweld y palmant yn gyntaf.

Yn awr gadewch inni gysylltu’r broses hon â gorbryder. Os byddwch yn dweud wrth eich hun ‘Ni fyddaf yn bryderus heddiw‘ y peth cyntaf a welwch yn eich meddwl yw bod yn bryderus, a allai sbarduno symptomau gorbryder ar unwaith, Byddai’n fwy priodol i ddefnyddio’r ymadrodd ‘Mi wna i ymlacio heddiw’ gan y bydd eich meddwl yn canolbwyntio ar y gair ymlacio.

Y peth pwysig yw sut mae eich meddwl yn gweld neu’n meddwl am rywbeth cyn y gall symud ymlaen i’r cam nesaf.

Dyma yw hanfod iaith yr ymennydd, osgoi defnyddio negydd.

Fel y rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, mi allwch edrych ar sut yr ydych yn meddwl mewn dwy ffordd:

 

- ‘Rydw i wedi ymlacio’ neu ‘Nid wyf yn bryderus’

- ‘Rwyf yn bwyta pryd iach’ neu ‘Nid wyf yn bwyta bwyd afiach’

- ‘Rwyf yn ddiwyd’ neu ‘Nid wyf yn ddiog’ 

 

Mae ystyr pob un o’r enghreifftiau uchod yn union yr un fath ond mae gan bob un syniad positif a syniad negyddol.

Bydd ymadroddion positif yn gweithio’n well â’ch ymennydd bob amser, gan roi gwedd fwy positif ar fywyd a’ch helpu i reoli eich pryderon.