Mathau o Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD)

 

Logo meddwl.org
Darparwyd y wybodaeth isod gan meddwl.org
 


OCD Perthnasoedd

Math o OCD yw OCD Perthnasau. Mae pobl sy’n byw â’r cyflwr yn aml yn cwestiynau eu perthynas ac yn pryderu a ydynt mewn perthynas â’r person cywir. Mae cael amheuon a phryderu ynghylch eich perthynas yn hollol naturiol. Mae pawb yn profi hynny i ryw raddau. Serch hynny, i’r sawl sydd â’r math hwn o OCD, gall y meddyliau fod yn afresymol, yn ddi-sail ac yn niweidiol i’w bywyd beunyddiol.

OCD Niweidio

Math cyffredin o OCD yw OCD Niwedio. Mae pobl sy’n byw â’r cyflwr hwn yn poeni’n gyson am achosi niwed i eraill. Mae’r meddyliau hyn mor gyffredin, bod 85% o’r boblogaeth nad ydynt yn byw gydag OCD yn dweud eu bod wedi profi meddyliau treisgar, annymunol, gan gynnwys meddyliau am anafu eu hunain neu eu teulu neu ffrindiau. 

Fodd bynnag, mae’r fath feddyliau ar gyfer rhywun sydd â’r cyflwr hwn  lawer mwy annifyr na lluniau a meddyliau treisgar, achlysurol. Maent yn ailadroddus, yn graffig ac fe allant eich rhwystro rhag cyflawni tasgau beunyddiol syml.

Mae’r obsesiynau OCD Niweidio hyn yn gyffredin ymysg pobl sy’n byw ag OCD Niweidio:

• Ofn niweidio eich hunan, eich partner neu ddieithryn.
• Ofn colli ymwybyddiaeth a niweidio rhywun.
• Ofn gwenwyno rhywun yn ddamweiniol.

OCD Rhywioldeb

Math o OCD yw OCD Rhywioldeb (Sexual Orientation OCD). Gall y sawl sy’n byw â’r math hwn o OCD hwn fod yn obsesiynol am eu rhywioldeb. Mae’n bosibl y byddant yn cwestiynu eu hunain yn ddwys er mwyn canfod eu rhywioldeb neu gyfeiriadedd rhywiol (sexual orientation). Gall y cwestiynu di-baid hwn beri dryswch a gorbryder dirfawr.  

OCD Halogiad 

Math adnabyddus o OCD yw OCD Halogiad; lle bydd rhywun yn ofn cael haint neu fynd yn sâl. Math mwyaf cyffredin o OCD y Deyrnas Unedig ydyw ac mae 25% o’r bobl sydd ag OCD ar draws y byd yn byw â’r math hwn o OCD. 

Yr obsesiwn mwayf cyffredin a gysylltir ag OCD Halogiad yw’r ofn o gael afiechyd terfynol megis AIDS neu gancr. Gall sefyllfaoedd beunyddiol, megis cyffwrdd â dolen ddrws neu bolion ar drafnidiaeth gyhoeddus neu rannu gwydr o ddŵr beri gorbryder dwys.

OCD Somatig

Math llai cyffredin yw OCD Somatig, sy’n golygu obsesiynau niwtral. Mae obsesiynau niwtral yn ymwneud â meddwl am ddelweddau sydd heb unrhyw effaith negyddol na pheryglus. Er enghraifft, nid obsesiynau niweidiol ’mo obsesiynau niwtral, gan nad yw’r gorbryder yn gysylltiedig â gweithred beryglus. Felly, mae obsesiynau OCD somatig yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o amryw fathau o weithgarwch corfforol, megis llyncu, anadlu ac amrantu. Gallwch hefyd fod yn dra ymwybodol o sŵn cefndirol megis clywed rhywun arall yn cnoi bwyd. 

OCD Hunanladdol 

Mae’n berffaith naturiol i bobl feddwl am hunanladdiad. Serch hynny, bydd meddyliau hunanladdol yn troi’n obsesiynau gan rai sy’n byw â’r math hwn o OCD. Gallwch bryderu cymaint am ladd eich hun nes i chi deimlo’n anniogel pan fyddwch ar ben eich hun. Mae’n bosibl byddwch yn poeni am wireddu’r lluniau sydd yn eich pen ar unrhyw adeg. Gall hyn fod yn hynod anodd, ond mae’n bwysig cofio nad ydych yn fwy tebygol o wireddu’ch meddyliau nag unrhyw un arall.

OCD Crefyddol  

Cyflwr sy’n dyddio nôl i’r Eglwys Gatholig yn y 1600au yw OCD Crefyddol, a elwir hefyd yn Ysgrwpliaeth (Srupulosity). Fe sylwyd bod rhai mynaich yn ymroi i weddïo’n ormodol. Roeddent yn ceisio ymgyrraedd â chyflwr afrealistig o sancteiddrwydd. Yn aml, pobl sy’n byw â’r math hwn o OCD  ceisio gwneud y peth iawn yn gyson, yn grefyddol ac yn foesol.

OCD Cyfrifoldeb

Math o OCD yw OCD Cyfrifoldeb sy’n peri gorbryder ac euogrwydd. Ni yw pobl â’r math hwn o OCD yn poeni cymaint am les eu hunain, ond yn hytrach, am sgil-effeithiau eu gweithredoedd. Byddant yn poeni’n ddi-baid am anafu pobl ar ddamwain, ac yn aml yn derbyn cyfrifoldeb am bethau nad ydynt ar fai amdanynt. 

Mae’n normal i bobl feddwl am sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar eraill. Serch hynny, mae’r sawl sy’n byw ag OCD Cyfrifoldeb yn pryderu’n ormodol ynghylch peri niwed i rywun arall, er nad oes rheswm dros hynny.

OCD Dirfodol 

Mae pobl sy’n byw ag OCD dirfodol yn poeni am agweddau athronyddol ar fywyd. Gallant fod yn obsesiynol am gwestiynau megis "Beth yw ystyr bywyd? Pam rydym ni yma?" Mae eich meddwl yn creu’r cwestiynau haniaethol hyn ac yn dweud wrthoch bod rhaid i chi eu datrys. 

Mae’n normal bod yn chwilfrydig ynghylch ystyr bywyd. Serch hynny, bydd pobl ag OCD yn obsesiynol am y cwestiynau hyn i’r fath raddau eu bod yn amharu ar eu bywyd bob dydd.

OCD Halogiad Metaffisegol  

Math anghyffredin yw OCD Halogiad Metaffisegol. Yn amlach na pheidio, bydd gan y person hanes o drawma neu gam-drin. Fe fydd yr hyn sy’n gysylltiedig â’r hanes hwnnw yn cael ei “halogi” gan y profiad gan beri gorbryder dwys. 

Mae’n arferol i’r sawl sydd wedi goroesi trawma ymateb yn ddwys i rai themâu, sefyllfaoedd a phobl. Serch hynny, bydd ar y sawl sy’n byw ag OCD Halogiad Metaffisegol ofn obsesiynol o wrthrychau difywyd sy’n gysylltiedig â phrofiadau blaenorol gan gredu y gall y pethau hynny ei heintio ag arwyddion negyddol neu drwgargoelion.

OCD Pur a Meddyliau Ymwthiol

Math o OCD yw OCD Pur, a elwir hefyd yn Pure O. Yn hytrach na delio â meddyliau ymwthiol drwy wneud ddefodau amlwg megis golchi dwylo neu gyfrif, mae pobl yn hel meddyliau yn ailadroddus o ganlyniad i straen. Oherwydd natur gudd yr anhwylder, mae OCD Pur yn gallu bod yn anodd i’w drin. Mae nifer o bobl â’r cyflwr yn byw am flynyddoedd heb chwilio am gymorth. 

Mae symptomau OCD Pur yn amrywio’n fawr o berson i berson. Serch hynny, mae rhai o’r meddyliau mwyaf cyffredin yn ymwneud â rhywioldeb, cyfrifoldeb, trais, ffydd, iechyd a rhamant. 

Sut ydw i'n gwybod mai OCD ydyw, ac a yw gwella'n bosibl i mi?

Daw meddyliau ymwthiol i ran pawb ond nid ydynt yn golygu bod OCD arnoch. I bobl sy’n byw â’r cyflwr, gall y meddyliau hyn beri straen a gorbryder enfawr i’r unigolyn.  

Mae pobl yn gallu gwella drwy ymgymryd â math o therapi o’r enw Atal Ymateb yn sgil Dangos (Exposure Response Prevention), lle’r ydych yn wynebu’r hyn sy’n codi ofn arnoch dro ar ôl dro, heb ddefnyddio unrhyw ddefodau. Drwy ailadrodd hyn, rydych yn gorfodi eich meddwl i weld pethau’n wahanol. Wrth gwrs, mae hyn yn amrywio’n dibynnu ar y math o OCD sydd gennych, ac mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) a meddyginiaeth hefyd yn gallu bod o gymorth. 

Mae’n bosibl na fydd meddyliau ymwthiol ac obsesiynol rhai yn dod i ben yn llwyr. Yn hytrach na’u gwaredu’n hollol, mae gwella OCD yn golygu ei reoli. Nid yw hynny’n golygu nad oes modd i chi fyw yn hapus ac yn iach. Drwy ymroi i driniaeth ac i arferion cadarnhaol yn eich ffordd o fyw, gallwch fagu hyder ac ymdeimlad o ryddid. Hyd yn oed os bydd rhywfaint o orbryder yn parhau, ni fydd y cyflwr yn eich llethu yn yr un modd am byth. 

 

at uni

OCD yn y Brifysgol

Dolen ddefnyddiol am gael OCD yn y brifysgol

Dysgu mwy
how to prepare

Paratoi ar gyfer therapi OCD

Cyngor ac arweiniad defnyddiol at baratoi ar gyfer therapi OCD

Dysgu mwy