Mathau o anhwylder gorbryder

Logo Rethink Mental Illness
Darparwyd y wybodaeth isod gan Rethink Mental Illness 
 

Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'r mathau mwyaf cyffredin o anhwylderau gorbryder. 

- Anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD) 

- Anhwylder panig 

- Anhwylder gorbryder cymdeithasol 

- Ffobiâu 

- Agoraffobia 

- Anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) 

- Pigo croen 

- Tynnu gwallt 

- Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

 

Anhwylder Gorbryder Cyffredinol (GAD) 


Mae GAD yn gyffredin. Prif symptom GAD ydy pryderu'n ormodol ynghylch gwahanol weithgareddau a digwyddiadau. Gall hyn deimlo y tu hwnt i'ch rheolaeth. Rydych chi'n teimlo'n orbryderus am lawer o'r amser os oes gennych chi GAD. Efallai eich bod chi'n teimlo 'ar binnau' ac yn effro i'ch amgylchoedd.

Gall hyn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Efallai y bydd yn effeithio ar eich gallu i weithio, teithio i leoedd neu adael y tŷ. Mae'n bosib y byddwch chi hefyd yn blino'n hawdd neu'n cael trafferth cysgu neu ganolbwyntio. Mae'n bosib y bydd gennych chi symptomau corfforol, megis tyndra yn y cyhyrau a chwysu.

Mae'n beth cyffredin fod gan bobl gyflyrau eraill, megis iselder neu anhwylderau gorbryder eraill, os oes ganddyn nhw GAD. 

Gall GAD fod yn anodd ei ddiagnosio, gan nad oes ganddo symptomau unigryw fel anhwylderau gorbryder eraill. Mae eich meddyg yn debygol o ddweud bod gennych chi GAD os ydych chi wedi teimlo'n orbryderus y mwyafrif o'r dyddiau am y chwe mis diwethaf ac mae wedi cael effaith niweidiol ar rannau o'ch bywyd.

 

Anhwylder Panig 


Os oes gennych chi anhwylder panig, fe fyddwch chi'n cael pyliau o banig yn rheolaidd, heb i rywbeth penodol eu sbarduno. Maen nhw'n gallu digwydd yn sydyn a theimlo'n llethol ac yn ddychrynllyd. Mae'n bosib y byddwch chi hefyd yn pryderu y byddwch chi'n cael pwl arall o banig. 

Gall symptomau anhwylder panig gynnwys y canlynol: 

  • Teimlad llethol o ofn mawr a braw 
  • Poen yn y frest neu deimlo bod eich calon yn curo'n afreolaidd 
  • Teimlo y gallech chi fod yn marw neu'n cael trawiad ar y galon 
  • Chwysu a phyliau o wres, neu deimlo oerfel a chrynu 
  • Ceg sych, diffyg anadl neu deimlad o dagu 
  • Cyfog, pendro a theimlo eich bod chi am lewygu 
  • Diffyg teimlad, 'pinnau bach' neu deimlad ysol yn eich bysedd 
  • Teimlo'r angen i fynd i'r toiled 
  • Stumog yn troi 
  • Sŵn clychau'n canu yn eich clustiau 


Efallai y byddwch chi hefyd yn datgysylltu yn ystod pwl o banig. Er enghraifft, teimlo eich bod wedi datgysylltu oddi wrthoch chi'ch hun. 

Gall sefyllfaoedd penodol achosi pyliau o banig. Er enghraifft, efallai y cewch chi bwl o banig os nad ydych chi'n hoffi mannau bychain ond mae'n rhaid ichi ddefnyddio lifft. Dydy hynny ddim yn golygu bod gennych chi anhwylder panig. 

 

Anhwylder Gorbryder Cymdeithasol 


Weithiau, mae anhwylder panig cymdeithasol yn cael ei alw'n ffobia cymdeithasol. Bydd llawer o bobl yn pryderu ynghylch sefyllfaoedd cymdeithasol, ond os oes gennych chi orbryder cymdeithasol, bydd sefyllfaoedd cymdeithasol neu berfformio yn codi ofn anferthol arnoch chi. Gall hyn ddigwydd cyn, yn ystod neu ar ôl y digwyddiad.

Dyma rai sefyllfaoedd cyffredin lle gall pobl deimlo gorbryder:

  • Siarad yn gyhoeddus neu mewn grwpiau
  • Cwrdd â phobl newydd neu bobl sy'n ddieithr i chi
  • Mynd ar ddêt
  • Bwyta neu yfed yn gyhoeddus 

Efallai eich bod chi'n poeni y byddwch chi'n gwneud rhywbeth neu'n ymddwyn mewn ffordd a fydd yn gwneud ichi deimlo'n annifyr. Efallai eich bod chi'n teimlo'n ymwybodol o arwyddion corfforol eich gorbryder. Gall hyn gynnwys chwysu, curiad calon cyflym, cryndod yn eich llais a gwrido. 

Efallai eich bod chi'n poeni y bydd pobl eraill yn sylwi ar hyn neu'n eich beirniadu. Mae'n bosib y byddwch chi'n ceisio osgoi sefyllfaoedd penodol. Efallai eich bod chi'n gwybod bod eich ofnau'n ormodol, ond eich bod chi'n ei chael hi'n anodd eu rheoli. 

Bydd eich meddyg teulu'n eich holi ynghylch eich symptomau ac efallai y bydd yn gofyn ichi lenwi holiadur. Bydd hyn yn ei helpu i ddeall pa mor bryderus rydych chi'n teimlo mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae'n bosib y bydd yn eich cyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl i gael asesiad llawn.

Gallwch ofyn am apwyntiad dros y ffôn gyda'ch meddyg teulu os ydych chi'n meddwl y buasai'n rhy anodd ichi siarad wyneb yn wyneb.

 

Ffobiâu


Ffobia ydy pan fydd gwrthrych, lle, sefyllfa, teimlad neu anifail yn gwneud ichi deimlo ofn llethol. 

Mae ffobia yn gryfach nag ofn. Mae ffobia'n datblygu pan fydd person yn teimlo perygl mwy na'r arfer ynghylch sefyllfa neu wrthrych. Mae'n bosib y bydd person sydd â ffobia yn trefnu ei arferion dyddiol fel ei fod yn osgoi'r peth sy'n achosi gorbryder iddo.

Dyma rai enghreifftiau cyffredin o ffobiâu:

  • Ffobiâu yn ymwneud ag anifeiliaid, e.e. pryfed cop, nadroedd neu gnofilod
  • Ffobiâu amgylcheddol, e.e. uchder a germau
  • Ffobiâu yn ymwneud â sefyllfaoedd, e.e. mynd at y deintydd
  • Ffobiâu yn ymwneud â'r corff, e.e. gwaed neu gyfogi
  • Ffobiâu rhywiol, e.e. gorbryder perfformio


 

Agoraffobia


Ofn bod mewn sefyllfa lle y buasai'n anodd dianc ydy agoraffobia. Gall hefyd fod yn ofn bod mewn sefyllfa lle na fuasai help ar gael petai pethau'n mynd o chwith. 

Gall hyn gynnwys y canlynol:

  • Gadael eich cartref
  • Bod mewn mannau cyhoeddus
  • Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Bod yng nghanol torf o bobl


Efallai y bydd y sefyllfaoedd hyn yn gwneud ichi deimlo'n ofidus, yn llawn panig ac yn bryderus. Efallai y byddwch chi'n osgoi rhai sefyllfaoedd yn gyfan gwbl. Gall hyn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd.

Gall agoraffobia ei gwneud hi'n anodd ichi wneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu i siarad ynghylch eich symptomau. Efallai na fyddwch chi'n teimlo eich bod chi'n gallu gadael eich tŷ neu fynd i'r feddygfa. Gallwch drefnu apwyntiad dros y ffôn os oes gennych chi symptomau agoraffobia. Bydd meddyg teulu yn penderfynu beth yw'r opsiynau gorau ichi o ran triniaeth yn ôl yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrtho.

 

Anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD)


Os oes gennych chi OCD, bydd gennych chi obsesiynau, gorfodaethau, neu'r ddau ohonyn nhw. 

Obsesiwn - delwedd neu syniad digroeso y byddwch chi'n meddwl amdano/amdani o hyd ac sydd, i raddau helaeth, y tu hwnt i'ch rheolaeth. Gall fod yn anodd anwybyddu'r rhain. Gall y meddyliau hyn fod yn annymunol, a gall hynny wneud ichi deimlo'n ofidus ac yn orbryderus. 

Gorfodaeth - rhywbeth rydych chi'n meddwl amdano neu'n ei wneud dro ar ôl tro i leddfu gorbryder. Gall hyn fod yn rhywbeth cudd neu'n rhywbeth amlwg. Er enghraifft, dweud ymadrodd yn eich pen i dawelu'ch meddwl, neu edrych ydy'r drws ffrynt ar glo. 

Efallai eich bod chi'n credu y bydd rhywbeth drwg yn digwydd os na fyddwch chi'n gwneud y pethau hyn. Efallai eich bod chi'n gwybod bod eich meddyliau a'ch ymddygiad yn afresymegol ond yn ei chael hi'n anodd iawn rhoi'r gorau iddi er hynny. 

Ceir gwahanol fathau o OCD, gan gynnwys: 

- Halogiad - Yr angen i lanhau a golchi oherwydd bod rhywbeth neu rywun wedi'i halogi 

- Gwirio - yr angen cyson i wirio chi'ch hun neu eich amgylchedd er mwyn atal difrod, tân, gollygiadau neu niwed. 

- Meddyliau digroeso - Meddyliau sy'n ailadroddus, yn peri gofid ac yn aml yn ddychrynllyd 

- Cronni - Teimlo na allwch chi daflu eitemau diddefnydd neu dreuliedig 


Siaradwch gyda'ch meddyg teulu os ydych chi'n meddwl bod gennych chi OCD. Fe ddylai drafod opsiynau triniaeth gyda chi. Neu, fe allech chi geisio cyfeirio eich hun at wasanaeth triniaeth siarad gan y GIG. 

 

Pigo Croen 


Y term meddygol am bigo croen ydy dermatillomania. Mae'n anhwylder rheoli cymhelliad. Fe fyddwch chi'n pigo eich croen o hyd. Yn aml, byddwch chi'n pigo croen iach. Gall hyn achosi niwed i'ch croen, gan gynnwys gwaedu, cleisio ac weithiau marciau parhaol. Fel arfer, byddwch chi'n pigo'r croen ar eich wyneb, ond efallai y byddwch chi'n ei bigo ar rannau eraill o'r corff hefyd. Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd rhoi'r gorau i wneud hyn.

Does neb yn gwybod beth sy'n achosi i rywun bigo croen. Credir y gallai fod yn fath o gaethiwed (addiction), neu ei fod yn lleddfu tyndra a straen. Mae cael OCD a dermatillomania ar yr un pryd yn beth cyffredin.

Mae'n bosib y bydd eich meddyg teulu'n trefnu ichi gael gweld meddyg arbenigol iechyd meddwl, megis seiciatrydd, i gael diagnosis.

 

Tynnu gwallt 


Y term meddygol am dynnu gwallt ydy trichotillomania. Mae'n anhwylder rheoli cymhelliad. Rydych chi'n teimlo cymhelliad i dynnu eich gwallt allan os oes gennych chi'r cyflwr hwn. Gall hyn fod o groen eich pen neu rannau eraill o'ch corff, megis eich breichiau, eich amrannau, eich coesau neu flew cedor. Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd rhoi'r gorau i wneud hyn. 

Efallai y byddwch chi'n teimlo tyndra'n adeiladu a bod tynnu'r blewyn yn lleddfu hynny. Mae'n bosib na fyddwch chi'n ymwybodol eich bod chi'n ei wneud hyd yn oed. 

Gall fod yn anodd rhoi'r gorau i wneud hyn, felly gall arwain at golli gwallt. Gall hyn wedyn wneud ichi deimlo'n euog a theimlo cywilydd, ac effeithio ar y ffordd rydych chi'n teimlo ynglŷn â chi'ch hun neu'r ffordd mae eich ffrindiau a'ch teulu yn eich gweld. 

- Bydd eich meddyg yn edrych ar y canlynol i ddiagnosio eich cyflwr: 

- Rydych chi'n tynnu eich gwallt allan dro ar ôl tro, gan achosi colled gwallt amlwg 

- Rydych chi'n teimlo tyndra cynyddol cyn ichi dynnu eich gwallt allan 

- Rydych chi'n teimlo rhyddhad neu bleser ar ôl tynnu'ch gwallt allan 

- Does gennych chi ddim salwch, megis cyflwr croen, sy'n achosi ichi dynnu eich gwallt allan 

- Mae tynnu eich gwallt allan yn effeithio ar eich bywyd bob dydd neu'n achosi gofid ichi. 

 

Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD) 


Efallai fod gennych chi PTSD os oes sefyllfa fygythiol yn eich bywyd wedi achosi symptomau eich gorbryder. Er enghraifft, damwain trên neu dân. Gallwch deimlo gorbryder am fisoedd neu flynyddoedd wedi'r digwyddiad, hyd yn oed os na chawsoch chi niwed corfforol ar y pryd.