Meithrin ymdeimlad cytbwys o'r hunan

meditation

DARPARWYD GAN ANNA FREUD

logo

 

Mae hyn yn swnio’n eithaf anodd – ond nid yw mor gymhleth â hynny! Yn hytrach na gosod disgwyliadau rhy uchel i chi eich hun ac anelu at berffeithrwydd, mae a wnelo hyn â sylweddoli nad oes y fath beth i’w gael ag ‘unigolyn delfrydol’ a bod gan bob un ohonom gryfderau a gwendidau. Mae cymdeithas yn rhoi llawer o bwysau ar bobl, yn enwedig ar bobl ifanc, ac o dro i dro mae hyn yn peri inni anghofio am y pethau bach sy’n ein gwneud yn unigryw, gan ein bod mor brysur yn ceisio cyrraedd safonau rhywun arall. 

Beth am geisio gwneud rhestr o bethau rydych yn eu hoffi amdanoch eich hun, a gofynnwch i’ch cyfeillion eich helpu os ewch i drafferthion. Mae rhai pobl yn teimlo bod dweud pethau caredig a chadarnhaol wrthyn nhw eu hunain o flaen drych yn y bore cyn iddyn nhw adael eu tŷ, yn eu helpu. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am wella eich hunan-barch ar wefan y GIG

Os ydych yn brwydro gyda’ch iechyd meddwl neu os ydych wedi cael diagnosis iechyd meddwl, efallai y byddai’n fuddiol ichi gofio bod llawer mwy o elfennau yn perthyn ichi, a bod eich personoliaeth a’ch rhinweddau unigol yn wahanol i’ch tymer neu eich ymddygiad: 

‘Nid yw fy iechyd meddwl yn gyfystyr â mi; rhan ohona’ i yn unig ydi o. Ar ddiwedd y dydd, dim ond tamaid o bapur ydi diagnosis. Tydi o ddim yn fy niffinio nac yn golygu bod popeth a wna’ i yn ddibynnol arno.’