PANIG: ydw i wedi cymryd cam yn ôl?

Dyma stori un fyfyrwraig a’i phrofiad hi o fyw gyda ffobia o daflu i fyny sef emetophobia a'r straen y mae'r coronafeirws wedi ei gael ar ei chyflwr.

Mae’r llwybr i wellhad o unrhyw anhwylder yn un gwahanol i bawb, sydd gan amlaf yn un gyda digonedd o rwystrau ar y siwrne'.

Rwyf wedi bod yn delio gydag anhwylder pryder ers i mi allu cofio, does gen i ddim cof o fynd i barti pen blwydd ysgol fach heb gael pwl o banig cyn cyrraedd. Mi fuodd fy ngorbryder ar ei waethaf pan oeddwn tua blwyddyn wyth yn yr ysgol uwchradd , roeddwn yn cael pyliau o banig sawl gwaith bob diwrnod, ac roedd fy meddyliau afresymol ymwthiol yn fy rheoli i. I roi ychydig o gyd-destun, fy anhwylder gorbryder i yw ffobia o daflu i fyny a enwir yn emetophobia, mae’n effeithio ar nifer o agweddau o fy mywyd megis cymdeithasu, bwyta, mynd ar wylia i enwi rhai. Erbyn heddiw dwi’n fyfyrwraig sydd newydd orffen fy ngradd isradd, rhywbeth nad oeddwn yn meddwl y buaswn yn gallu ei gyflawni, ac erbyn hyn mae gen i reolaeth dda ar fy ffobia ac rwyf yn gallu byw bywyd hapus a gweithredol.

Fodd bynnag mae yna amgylchiadau diweddar megis y sefyllfa gyda'r pandemig a phwysau academaidd sydd wedi herio fy ngallu i gadw’n gryf. Mae’n bwysig siarad am wellhad yn ei gyfanrwydd, ac mae fy mhrofiadau i, y byddaf yn eu trafod heddiw yn berthnasol i bawb sydd ar unrhyw siwrne o wellhad, boed yn wellhad o helynt iechyd meddwl neu o gyflwr ffisegol.

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn arbennig o dda i mi, dwi wedi cael ffrindiau newydd yr wyf yn teimlo’n wirioneddol agos atyn nhw, cariad cefnogol sy’n fy annog i drio pethau newydd a llwyddiannau personol sydd wedi profi i mi fy mod yn berson mwy galluog nac yr oeddwn i wedi'i sylweddoli. Ers Rhagfyr 2019, dydw i ddim wedi cael pwl o banig o gwbl a dwi wedi teimlo’n gryf yn feddyliol. Mae’n stori ychydig yn wahanol erbyn hyn gan mae’r sefyllfa Covid-19 wedi rhoi straen ar bawb, ac mae’n arbennig o heriol i mi oherwydd bod natur fy ffobia yng nghlwm a gorbryder iechyd. Ychydig wythnosau yn ôl roeddwn i’n gwylio teledu gyda mam a dad ac mi ges i don annisgwyl iawn o adrenalin yn dod trosaf, roedd yn sioc fawr ac am nad oeddwn i wedi cael pwl o banig ers cymaint o amser ‘roedd yn deimlad anghyfarwydd. Arweiniodd hyn wedyn at bwl o banig ddaru barau tua hanner awr gyda’r 'whole shebang', crynu, trafferth anadlu, pinnau bach, pen ysgafn, ceg sych ac wrth gwrs meddyliau ymwthiol. Ers hynny dwi wedi cael un neu ddau arall, ac yn teimlo ychydig yn fwy bregus, pan ddigwyddodd hyn un o'r meddyliau cyntaf a ddaeth i'm mhen i oedd, “dwi wedi cymryd cam yn ôl, ydi hyn yn golygu fy mod i am gael cyfnod gwael eto?”

Fodd bynnag ers hynny dwi wedi edrych ar y sefyllfa o bersbectif mwy gwrthrychol. Gall fod yn anodd edrych yn wrthrychol ar eich profiad chi’ch hunan, yn enwedig pan mae yna feddyliau afresymol yn eich herio, fodd bynnag mae’n angenrheidiol gwneud hyn. Yr wyf wedi sylweddoli fod gwellhad yn broses gymhleth ac unigryw i bawb, ond y bwysicach na hynny, dydi o ddim yn un llinell syth. Mae gwellhad yn anodd, ac mae rhai adegau yn anoddach na’i gilydd, ac mae’n holl bwysig cydnabod hynny a pheidio bod yn rhy galed arnom ni’n hunan pan rydym yn cael cyfnod heriol. Dwi wedi deall nad ydi cael 'setback' mewn cyfnod bregus, ddim yn dadwneud yr holl gynnydd yr ydw i wedi ei gyflawni, mae fy llwyddiannau’n dal yn bodoli ac mae’n rhan naturiol o wellhad.

Mi all eich iechyd meddwl fod mewn un o dair stad ar unrhyw adeg, am i fyny, am i lawr neu yn llonydd, ond rhaid cofio mae llwybr o wellhad ar y cyfan am i fyny, yn debyg i’r farchnad stoc sydd i fyny ac i lawr ond dros y cyfnod cyfan mae’n symud am i fyny. Ceisiwch edrych ar hyn fel cyfle i weithredu popeth rydych wedi'i ddysgu yn ystod eich gwellhad a dysgu sut y gallwch chi helpu'ch hun gael rheolaeth ar sefyllfaoedd heriol, yn hytrach na phrofi lles goddefol cymerwch ran mewn lles gweithredol. Rhaid peidio â rhoi gormod o bwysa' arnom ni’n hunain na phryderu’n ormodol pan rydym yn profi blip, gall hyn roi mwy o straen gan wneud y cyfnod hwn yn anoddach i’w oresgyn.

Yn fy achos i, dwi dal i deimlo’n fregus, dydw i ddim yn siŵr pryd y byddai’n ôl ar i fyny ond yr wyf yn bod yn dosturiol ac yn amyneddgar gyda fi fy hun. Gwn y byddaf yn ôl ar y llwybr o wellhad ac ar i fyny yn fuan ond yn y cyfamser rwyf am geisio dysgu mwy am fy anhwylder a sut mae wedi datblygu i fod fel y mae o heddiw a chymryd rôl actif yn edrych ar ôl fy hun o ddydd i ddydd. Dwi wir yn gobeithio fod hwn yn eich helpu chi i ddeall fod cyfnodau heriol, pan fyddwch yn teimlo yn fwy bregus yn rhan o’r daith o symud ymlaen a gwella.