Pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl

Mae diwrnod iechyd meddwl y byd yn cael ei gynnal ar y 10fed o fis Hydref bob blwyddyn. Er bod hi’n hynod o bwysig i godi ymwybyddiaeth dros salwch meddwl bob diwrnod o’r flwyddyn, mae cael un diwrnod yn arbennig ar gyfer salwch meddwl yn bwysig wrth iddo ledaenu’r neges o bwysigrwydd salwch meddwl yn fwy.

Felly, beth allech chi i wneud i godi ymwybyddiaeth ar y diwrnod hwn yn ogystal â phob diwrnod arall o’r flwyddyn? Dyma 7 peth allech chi ei wneud i helpu:

1)  Gofyn i bobl chi’n nabod am sut maent yn teimlo - wrth ofyn i’r rheini sydd o’ch cwmpas boed yn ffrind, aelod o’r teulu neu gyd-weithiwr am sut maent yn teimlo mae’n bosib y gwnânt nhw agor i fyny am ei gwir deimladau. Wrth fod yn glust iddyn nhw ac yn gwrando ar sut maent yn teimlo, gallwch hefyd ei annog i gael y cymorth maent yn eu hangen.

2)  Agor i fyny gydag eich profiadau chi eich hun - wrth siarad o brofiad, wrth glywed unigolyn yn siarad am ei phrofiadau nhw o salwch meddwl a fi yn gallu uniaethu gyda hyn, mae wedi codi fy hyder i agor fyny a siarad am fy mhrofiadau i fy hun hefyd. Wrth gael cyngor hefyd ar be mha nhw wedi ei wneud i wella, mae hynny yn helpu llawer hefyd.

3)  Addysgu chi eich hun ar iechyd meddwl - mae’n bwysig i unigolion addysgu ei hunan yn gyson am salwch meddwl. Mae hyn yna yn galluogi i chi addysgu eraill gyda’r hyn rydych wedi ei ddysgu amdano ond hefyd yn gwneud i chi deimlo mwy hyderus yn siarad am y pwnc o flaen eraill neu bobl sydd yn dioddef o salwch meddwl.

4)  Gwirfoddoli - mae gwirfoddoli yn ffordd dda o godi ymwybyddiaeth wrth helpu eraill sydd yn mynd trwy'r un peth. Mae llawer o sefydliadau yn gwerthfawrogi cyfraniadau a help gan unrhyw un.

5)  Addysgu pobl ar ba mor bwysig yw ymarfer corff ar iechyd meddwl unigolyn - mae gwneud ymarfer corff yn rhoi gymaint o effaith positif a da ar les meddyliol unigolyn ac nid llawer o bobl sydd yn ymwybodol o hynny, felly mae angen pwysleisio ar hyn ag addysgu pobl yn iawn ar yr effeithiau mae bwyta’n iach ac ymarfer corff yn cael ar gyflwr meddyliol ag emosiynol unigolyn.

6)  Trefnu gweithgareddau neu ddigwyddiadau - mae hyn yn ffordd dda i gael pobl at ei gilydd. Siawns i gwrdd â phobl sydd yn yr un sefyllfa neu wedi bod yn yr un sefyllfa. 

7)  Defnyddio gwefannau cymdeithasol i ledaenu’r neges - dyddiau yma, mae gwefannau cymdeithasol yn rhan fawr o fywydau pawb yn enwedig pobl ifanc. Pa ffordd well sydd na nag i ddefnyddio gwefannau cymdeithasol i siarad a rhannu profiadau personol am iechyd meddwl. Mae’n ffordd dda i ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Hefyd mae’n bosib defnyddio '#' fel #BreakTheStigma sydd yn llawn cynnwys iechyd meddwl.