Sut i astudio

Mae ffordd pawb o ‘stydio yn wahanol ac felly dyma 10 tip i chi drio wrth fynd ati i neud eich gwaith gan Heledd myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth. Rhowch gynning arnynt a gweld be sydd yn gweithio orau ar eich cyfer chi!

  1. Un ffordd dda o gael trefn ar adolygu yw gwneud rhestr ‘beth sydd angen ei wneud’ ac o hynny gweithio drwy ‘beth sydd angen cael ei wneud’.

  2. Defnyddiwch ddigon o liw wrth wneud nodiadau – mae amrywiaeth yn bwysig!

  3. Post-it notes er mwyn nodi'r pethau pwysicaf.

  4. Cardiau Fflach pob tro yn ddefnyddiol ar gyfer profi eich hun.

  5. Gwneud map meddwl o’r pethau pwysicaf.

  6. Posteri er mwyn ceisio rhoi'r holl wybodaeth ar un daflen a gwneud y nodiadau yn fwy deniadol!

  7. Yfwch ddigon er mwyn eich cadw i fynd!

  8. Mae cael torriad pob tro yn help – ond dim gormod ohonynt!

  9. Gwnewch amserlen – ffordd dda o drefnu eich diwrnod!

  10. Gofynnwch i ffrind/aelod o deulu eich profi!