Sut i ymdopi a straen ariannol

Cyn mynd i’r brifysgol, yn aml iawn nid yw unigolyn wedi gorfod bod yn ofalus neu trin arian fel oedolyn. Drwy Lywodraeth Cymru rydym ni fel myfyrwyr yn ffodus o dderbyn grant a benthyciad gan y wlad er mwyn ein cynorthwyo gyda chostau ariannol sydd yn ein hwynebu yn ystod blynyddoedd yn y coleg. Mae’r Llywodraeth yn darparu’r arian yma er mwyn sicrhau nad yw unrhyw unigolyn yn colli allan ar addysg oherwydd problemau arian.  Felly dyma ychydig o ‘top tips’ pwysig (a hanfodol) ar gyfer ymdrin ag arian yn y coleg: 

- Cyfrif Myfyrwyr – cyn mynd i’r brifysgol, mae’n hanfodol eich bod yn dweud wrth y banc. Y rheswm am hyn yw er mwyn i chi gael gorddrafft am ddim. Felly os yw arian yn mynd yn brin a bod gofyn i chi ddefnyddio eich gorddrafft, ni fydd y banc yn codi llog dyddiol arnoch.

- Bod yn gall – peidiwch a gwario yn ddi-angen dim ond oherwydd bod swm mawr o arian yn eich cyfrif.

- Talwch rent ar yr adeg cywir – eich llety/tŷ yw un o'r pethau pwysicaf.

- Peidiwch â bod ofn gofyn am help – does dim diben yn dioddef a phoeni eich hun, mae help ar gael.

- Gweithio allan faint o arian sydd gennych i’w wario yn wythnosol – mae’n help mawr roi ‘budget’ er mwyn i chi wybod faint o arian sydd gennych ar gyfer yr wythnos ac er mwyn sicrhau nad ydych yn gor-wario.

 

Does dim angen i ti wario bob tro ar gymdeithasu a mynd allan.  Dyma awgrymiadau pellach gan Kayley sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor:  

 

TIps gan Kayley