Triniaeth, meddyginiaeth a cysylltiadau

Logo Rethink Mental Illness
Darparwyd y wybodaeth isod gan Rethink Mental Illness 
 

Mae'r GIG yn cynnig triniaethau dwyster isel, therapi siarad a meddyginiaeth i drin anhwylderau gorbryder. Bydd ar rai pobl angen y ddau yr un pryd.

Gall pobl ddod dros anhwylderau gorbryder.

 

Beth ydy triniaethau dwyster isel?

Hunangymorth heb ei hwyluso

Mae 'heb ei hwyluso' yn golygu y byddwch chi'n ceisio'ch helpu chi'ch hun gan ddefnyddio gwybodaeth gan y GIG.

  • Gwybodaeth ysgrifenedig neu electronig sy'n seiliedig ar egwyddorion therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). 
  • Cyfarwyddiadau i weithio drwy'r deunydd dros o leiaf 6 wythnos. 
  • Cefnogaeth am amser byr iawn gan therapydd. Er enghraifft, sgwrs dros y ffôn am 5 munud. 

 

Hunangymorth dan arweiniad

Dylech chi gael: 

  • deunyddiau ysgrifenedig neu electronig, 
  • cefnogaeth gan weithiwr proffesiynol hyfforddedig, sy'n arwain y rhaglen hunangymorth ac yn adolygu cynnydd a chanlyniadau,
  • 5 i 7 o sesiynau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, ar sail wythnosol neu bob bythefnos. 

Bydd pob sesiwn yn para 20-30 munud, ond bydd hyn yn dibynnu ar y math o orbryder sydd gennych chi. 

 

Grwpiau seico-addysgol

Mae seico-addysg yn golygu dysgu ynghylch eich symptomau a sut i'w rheoli. 

Dylai'r addysg:

  • fod yn seiliedig ar CBT,
  • eich annog chi i gymryd rhan,
  • cynnwys cyflwyniadau gan weithiwr proffesiynol hyfforddedig,
  • cynnwys llawlyfrau hunangymorth
  • ddarparu un therapydd i tua 12 o bobl, 

Fel arfer, bydd 6 sesiwn wythnosol, bob un yn para 2 awr. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar y math o orbryder sydd gennych chi. 

 

Therapïau siarad

Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)


Mae CBT yn eich helpu chi i ddeall y cysylltiadau rhwng eich meddyliau, eich teimladau a'ch ymddygiad. Gall eich helpu chi i ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn gorbryder drwy herio meddyliau a chredau negyddol. 

Yn dibynnu ar y math o orbryder sydd gennych chi, byddwch chi fel arfer yn cael 12-15 sesiwn wythnosol, bob un yn para un awr. Fe ddylech chi gael llai os byddwch chi'n gwella'n gyflymach, a mwy os bydd arnoch chi eu hangen. 


Ymlacio Cymhwysol

Mae ymlacio cymhwysol yn golygu canolbwyntio ar ymlacio eich cyhyrau mewn ffordd benodol, ac ar adeg benodol. Er enghraifft, dysgu sut i ymlacio eich cyhyrau fel eich bod chi'n gallu syrthio i gysgu yn haws. 

Bydd therapydd hyfforddedig yn dysgu gwahanol dechnegau ichi, fel y gallwch chi reoli eich sefyllfa. 

Yn dibynnu ar y math o orbryder sydd gennych chi, byddwch chi fel arfer yn cael 12-15 sesiwn wythnosol, bob un yn para un awr. Byddwch chi'n cael llai os byddwch chi'n gwella'n gyflymach, a mwy os bydd arnoch chi eu hangen. 


Amlygu ac atal ymateb (ERP)

Mae hwn yn effeithiol ar gyfer ystod o anhwylderau gorbryder, yn enwedig anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD). Bydd eich therapydd yn eich annog i brofi eich meddyliau obsesiynol ac yn eich helpu i'w rheoli mewn ffordd wahanol. Bydd y tasgau'n mynd yn anos yn raddol.

 

Meddyginiaethau

Atalyddion ailamsugno serotonin detholus (SSRIs) 

Mae SSRIs yn fath o wrthiselydd sy'n cael ei ddefnyddio i drin anhwylderau gorbryder. Sertraline ydy'r SSRI mwyaf cyffredin sy'n cael ei awgrymu ar gyfer gorbryder, ond mae SSRIs eraill ar gael. 
 

Bensodiasepinau 

Ni ddylai meddygon roi presgripsiwn am bensodiasepinau oni bai fod eich gorbryder yn eithafol neu eich bod chi mewn argyfwng. Mae hyn oherwydd eu bod nhw'n gaethiwus ac fe allan nhw fynd yn llai effeithiol dros amser. 
 

Atalyddion beta 

Gall y rhain helpu gydag arwyddion corfforol gorbryder. Gallan nhw helpu i ostwng curiad calon cyflym, a lleihau crynu neu wrido.
 

Therapïau cyflenwol 

Therapïau nad ydyn nhw fel arfer yn rhan o ofal prif ffrwd y GIG ydy therapïau cyflenwol. Mae rhai pobl yn teimlo eu bod nhw'n helpu gyda symptomau gorbryder. Mae ymwybyddiaeth ofalgar, ioga a hypnotherapi yn enghreifftiau o'r therapïau hyn. 

 

Beth os nad ydw i'n hapus gyda fy nhriniaeth?

Gallwch chi roi cynnig ar yr opsiynau canlynol os: 

  • nad ydych chi'n hapus gyda'ch gofal neu driniaeth 
  • ydych chi'n teimlo nad ydy'r berthynas rhyngoch chi â'ch gweithiwr proffesiynol yn gweithio'n dda.

 

Y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) 

Mae PALS yn rhan o'r GIG. Bydd PALS ar gael yn eich ardal chi. Maen nhw'n gallu ceisio datrys problemau neu ateb cwestiynau ynghylch y GIG. Cewch fanylion eich PALS lleol yn https://www.nhs.uk/Service-Search/Patient%20advice%20and%20liaison%20services%20(PALS)/LocationSearch/363 

 

Eiriolaeth 

Gall eiriolaeth eich helpu chi i fod yn rhan o benderfyniadau ynglŷn â'ch gofal. Mae eiriolwr yn rhywun annibynnol, nad yw'n rhan o'r GIG. Mae hyn yn golygu nad ydy'r GIG yn ei gyflogi. Mae gwasanaethau eiriolaeth yn rhad ac am ddim i'w defnyddio. Fel arfer, bydd elusen yn rhedeg gwasanaeth eiriolaeth. Mae eiriolwr yno i'ch cefnogi chi. Gall helpu i gael pobl i wrando ar eich llais chi pan fyddwch chi'n ceisio datrys problem. Efallai y bydd yn gallu eich helpu chi i ysgrifennu llythyr at y GIG neu fynd i gyfarfod gyda chi. 


Gofalwyr a Theulu

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'ch iechyd meddwl eich hun a chael cymorth i chi'ch hun os ydych chi'n cael trafferth ymdopi. Efallai fod yno grŵp cymorth lleol i ofalwyr y gallwch chi ei fynychu. Gallwch chi ofyn am asesiad gofalwr gan eich awdurdod lleol os oes arnoch chi angen cymorth ychwanegol i ofalu am aelod o'ch teulu. 

Gallwch chi fod yn rhan o'r broses o gynllunio gofal a chymorth yr aelod o'ch teulu. Ond, dim ond os ydy'r aelod o'ch teulu eisiau hynny. Mae hyn oherwydd cyfraith cyfrinachedd. Dylai'r tîm ofyn i'r aelod o'ch teulu a ydyw'n fodlon iddyn nhw rannu gwybodaeth gyda chi.