Dal i fyny efo Cara

 

Lluniau Cara

 

Shwmae! Cara ydw i a llynedd ar ôl i mi gwblhau fy mlwyddyn gyntaf, ysgrifennais blog am fy mhrofiadau.  ‘Dwi newydd orffen fy ail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, felly sut brofiad oedd hi i mi eleni?

Roedd yr ail flwyddyn yn flwyddyn llond dop gyda chyfleoedd di-ri.  Mi fues yn llysgennad i myf.cymru, llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â llysgennad i’r brifysgol. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd yma.  'Dwi wedi creu ffrindiau ar hyd y ffordd yn ogystal â dangos i fyfyrwyr ar hyd a lled y wlad pa fath o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael o fewn prifysgolion ar draws Cymru, rhywbeth dwi’n angerddol iawn amdano.

Fe fu’r flwyddyn academaidd ddiwethaf yn un brysur ond yn un anodd hefyd am nifer o resymau, felly dyma bryd wnes i ddechrau rhedeg.  Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fy iechyd meddwl a lles ac mi ‘dwi’n sôn am fy mhrofiad i o ddechrau rhedeg a’r rhesymau pam mewn pennod o’r podlediad Sgwrs? y gwnes i ei recordio ar gyfer myf.cymru yn y Gwanwyn.  Mae linc i wrando ar y bennod yma ac isod. Erbyn hyn dwi wedi rhedeg sawl ras, ond dwi ddim yn gystadleuol o bell ffordd. Fe fues hefyd ar daith gyda’r Coleg Cymraeg o gwmpas rhai o ysgolion Cymru yn hyrwyddo’r fantais o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac fe wnes i fwynhau mas draw yn cynorthwyo’r Coleg Cymraeg ar ei stondin yn Tafwyl!

Un o fy uchafbwyntiau yn yr ail flwyddyn oedd derbyn interniaeth gydag Academi Hywel Teifi.  Interniaeth marchnata oedd hon, ac un o fy uchafbwyntiau o fy nghyfnod fel intern oedd yr Eisteddfod yn Llanymddyfri. Rhywbeth gwnâi byth anghofio. Roedd creu pili-palod cromatograffig am wythnos yn dra gwahanol i ysgrifennu traethodau ar Un Nos Ola Leuad yn y brifysgol!  Dyma gyfle gwych i gael mewnwelediad o beth sy’n mynd ymlaen tu ôl i’r llenni. Trefnu digwyddiadau megis Eisteddfod yr Urdd a gweld yr holl beth yn dod yn fyw i baratoadau ar gyfer y myfyrwyr newydd a fydd yn ymuno â ni ym mis Medi. Gallwch chi ddarllen mwy am fy mhrofiad o fod yn intern i Academi Hywel Teifi yma. 

Yn ogystal â gweithio ochr yn ochr a fy astudiaethau, ‘dwi hefyd yn rhan o’r Gymdeithas Gorawl o fewn y brifysgol a ‘dwi wedi fy mhenodi fel swyddog y Gymraeg ar gyfer y côr blwyddyn nesaf. Mae’r brifysgol â’r côr yn gefnogol iawn o’r iaith Gymraeg ac yn rhywbeth dwi’n angerddol tu hwnt amdano. Fe fuodd ein cyngherddau eleni yn llwyddiant enfawr ac fe fu’n brofiad grêt i gyd-ganu gyda fy ffrindiau o ar draws y byd. 

Erbyn hyn mae Abertawe yn gartref oddi cartref a ni allai ddychmygu astudio unrhyw le arall. Mae rhedeg yn sicr wedi fy helpu trwy adegau anodd eleni, ond 'dwi’n lwcus iawn fy mod yn cael gwneud hynny wrth ymyl y traeth.  Mae’n berffaith a dyma le ‘dwi hapusaf wedi diwrnod hir o ysgrifennu ac ymchwilio. Mae’r adran Gymraeg yn gefnogol tu hwnt ac yn fy nghefnogi gyda phob agwedd dwi’n ei wneud yn allgyrsiol hefyd.  Dwi’n gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth wrth fy narlithwyr, teulu a fy ffrindiau! Mae’n anodd credu mai ond blwyddyn sydd gen i ar ôl. 

‘Dwi'n edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd nesaf sydd i ddod ond dwi hefyd yn pryderu fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr hefyd.  Mae'r streicio wedi effeithio nifer o fyfyrwyr ar hyd a lled y wlad, ond mae'n bwysig cofio ein bod ni i gyd yn yr un cwch.  Mae'n braf i rannu a sgwrsio am y profiad yma gyda myfyrwyr eraill hefyd, gan wybod fy mod i ddim ar ben fy hunan. 

Cara x J

 

Gellir gwrando ar Cara, Trystan a'r criw yn trafod pwysigrwydd hunan ofal yma.   

Cara podlediad