Celf ac Iechyd Meddwl

Celf a iechyd meddwl

 

Celf ac Iechyd Meddwl

Mae tîm Gwasanaethau Lles Prifysgol Bangor dan arweiniad Gwawr Roberts wedi datblygu pecyn o weithgareddau celf er mwyn annog a datblygu lles. Gall rai myfyrwyr ei ffeindio yn anodd mynegi eu teimladau ar lafar, ac mae celf yn gallu eu helpu i gyfleu profiadau anodd. Yn Gwnsleydd ac yn Seicotherapydd Celf, mae Gwawr fel rhan o'i gwaith yn cynnal nifer o sesiynau un i un a grwp yn ddwy-ieithog yn y brifysgol.  

 

Pam mae gwneud gweithgareddau celf yn llesol i iechyd meddwl? 

Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, fel celf, cerddoriaeth neu ymweld ag oriel ddod â theimlad o foddhad a sbarduno rhyddhau dopamin yn yr ymennydd. Gall y cemegyn pwysig hwn hybu pleser a helpu gyda ffocws a chynllunio. Does dim rhaid i chi fod yn artist medrus i fwynhau manteision celf. Gall rhoi cynnig ar rywbeth newydd fod yn ffordd wych o fanteisio ar eich creadigrwydd.  Gellir darllen mwy am fuddion celf ag iechyd meddwl ar wefan Mind.   

Cliciwch yma i lawr lwytho copi o'r adnodd.