Lle i gael cymorth

Friends

Siarad gydag meddyg teulu

Ystyriwch siarad â meddyg teulu. Byddant yn gwybod pa gymorth sydd ar gael yn lleol a gallant eich helpu i benderfynu pa driniaeth sydd orau i chi.

Wrth drafod eich sefyllfa, ceisiwch fod mor onest â phosibl gyda'r meddyg teulu fel y gallant awgrymu'r math gorau o gefnogaeth i chi.  

Os ydych chi'n cael trafferth ymdopi ar hyn o bryd, cysylltwch â’r Samaritans:

ffoniwch 116 123 (ar agor 24 awr, pob dydd), gwasanaeth Cymraeg ar gael trwy ffonio 0808 164 0123 rhwng 7yh a 11yh. 

e-bostio jo@samaritans.org 

Mae’r Samariaid yn cynnig lle diogel i chi siarad am beth bynnag sydd ar eich meddwl, unrhyw bryd.

 

Cefnogaeth

Mae’r sefydliadau yma yn darparu cyngor iechyd meddwl, cefnogaeth a gwasanaethau ar gyfer unigolion sy'n LHDTC+.

Imaan
Mae Imaan yn elusen sy’n cefnogi Mwslimiaid lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar neu holi (LHDTC+), gan ddarparu fforwm ar-lein lle gall pobl rannu profiadau a gofyn am help.

Consortium
Mae'r sefydliad aelodaeth hwn yn gweithio i gefnogi sefydliadau a phrosiectau LHDT+ ledled y wlad. Defnyddiwch Gyfeirlyfr Aelodau'r wefan i ddod o hyd i wasanaethau iechyd meddwl lleol.

LGBT Foundation
Mae'r LGBT Foundation yn cynnig gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cymorth, gan gynnwys Rhaglen Therapïau Siarad i bobl LHDT.

Mind LGBTQ
Gwybodaeth am gymorth iechyd meddwl i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, anneuaidd, cwiar neu sy’n cwestiynu eu rhywioldeb (LHDTC+).

Pink Therapy
Mae gan Pink Therapy gyfeiriadur ar-lein o therapyddion sy'n gweithio gyda phobl sy'n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, rhyngrywiol a cwiar neu (LGBTIQ), a phobl sy'n rhywiol-amrywiol (GSD).

Switchboard LGBT+ Helpline
Mae'r Switchboard yn darparu gwasanaeth gwrando i bobl LHDT+ dros y ffôn, drwy e-bost a sgwrs ar-lein, yn ogystal â darparu manylion cyswllt therapydd LGBT-gyfeillgar i chi.