Gwirfoddoli tra yn y brifysgol  

Dynes yn rhoi dŵr i blodau

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i edrych ar ôl eich hun, a rhoi’n ôl i’r gymuned. Un o’r 5 cam at lesiant meddwl, yn ôl y GIG ydi ‘Rhowch i eraill’ ffordd wych o wneud hyn ydi wrth wirfoddoli. Dyma beth oedd gan Sarah Francis i ddweud am y buddion o wirfoddoli yn eich cymuned. 

 

Mae’n brofiad yn wahanol i bawb yn amlwg, rydw i’n golchi cit rygbi'r plant o’r clwb lleol ar ôl gemau, dysgu nofio i griw o blant bron pob wythnos a helpu trefnu gemau pêl droed gyda’r tîm pêl droed (plant) lleol. Dwi yn gobeithio gwneud mwy os allai ddod ar draws cyfle sydd yn gyfleus ac addas ar gyfer ffitio mewn gyda’r ymrwymiadau arall sydd gyda fi. Mae gwirfoddoli yn ffordd dda o gymdeithasu, gwneud rhywbeth da i helpu rhywun arall a rhywbeth ar gyfer y CV. 

  

Gwirfoddoli – 7 rheswm pam fod gwirfoddoli yn syniad da. 

 

  1. Helpu pobl eraill a/neu anifeiliaid. Mae helpu rhywun arall a dangos caredigrwydd nid yn unig yn gallu gwneud i ni deimlo’n dda am ein hunain, o’n yn gallu helpu ni i ffocysu ar rywbeth sydd yn fwy na ni ein hunain. 

 

  1. Dysgu sgiliau newydd. Mae dysgu sgiliau newydd yn gallu fod o fodd i ni wrth drio am swydd newydd, ac yn gallu rhoi teimlad o gyflawniad i ni. 

 

  1. Teimlad o berthyn i gymuned. Mae perthyn i gymuned yn gallu cyfrannu yn bositif i’n bywydau ni, er enghraifft yr 7 rheswm yma! Ond hefyd, yn helpu ni i feddwl am eraill. 

 

  1. Cynyddu hunan hyder. Mae gwneud rhywbeth er lles rhywun arall yn rhoi synnwyr o gyflawniad i ni, ac mae hyn yn cynyddu ein hunan hyder a hunan-barch. 

 

  1. Cwrdd â phobl newydd. Mae cwrdd â phobl newydd yn gyfle gwych i ymarfer ein sgiliau cymdeithasol, ond hefyd i wneud ffrindiau newydd, a hyd yn oed cysylltiadau proffesiynol. 

 

  1. Cyfleoedd ar gyfer swyddi. Mae’r ymrwymiad sydd ynghlwm a gwaith gwirfoddol yn agor y drysau i gyfleodd proffesiynol newydd. 

 

  1. Mwynhad a hapusrwydd. Mae’r mwynhad a hapusrwydd sydd yn dod o wirfoddoli yn gallu ein gwneud ni yn fwy creadigol, gan ein bod yn fwy hyderus i drio pethau newydd. Mae creu cysylltiadau gyda gwirfoddolwyr eraill yn gallu helpu gydag unigrwydd. Yn olaf, mae gwneud gwahaniaeth mewn bywyd rhywun arall boed yn helpu gyda siopa, yn cerdded ci digartref neu yn dysgu plant i chwarae rygbi, yn gallu lleihau gorbryder drwy roi ffocws ar rywun arall. 

 

Dyma beth sydd gan Kayley i’w ddweud am bwysigrwydd cysylltiad cymdeithasol tra yn y brifysgol:

Pam mae gwirfoddoli yn bwysig yn y brifysgol