Pryd yw'r amser gorau i ddatgelu fy nghyflwr iechyd meddwl? 

Tabŵ

 

Tri dêt mewn pythefnos!  Reit intense de!  Ond oedd o di gwirioni hefo fi gymaint ag o ni wedi gwirioni hefo fo!  Oedd popeth yn teimlo’n iawn. 

Ces i ddiagnosis o Borderline Personality Disorder neu BPD sawl blwyddyn yn ôl bellach, gan fy mod yn berson eithaf byrbwyll, yn gorfwyta a gorwario ac i orffen y cwbl yn digalonni yn hawdd dros bethau bach. 

Diwrnod ar ôl y trydydd dêt anhygoel, dywedodd … mi nawn ni alw fo’n Aled, bod pethau'n mynd rhy sydyn, ac nad oedd o’n meddwl bod o’n gallu bod y person iawn i mi.  Roedd hyn yn hollol annisgwyl.  Fy ymateb i i'r sgwrs dros y ffôn oedd i ddechrau crio, a gofynnodd pam o ni yn ymateb mewn modd mor emosiynol.  Felly dyma fi’n deud wrtho, dwi’n emosiynol achos mae gennai BPD.  Wedyn trodd y sgwrs yn eithaf hyll, dim achos o’r ffaith bod gennai BPD ond nad oeddwn i wedi deud wrtho fod gennai y cyflwr ar ôl mond bythefnos o’i adnabod o. 

Dwi ddim yn deud wrth bobl yn syth bod o gennai, dim ar ôl bythefnos, beth bynnag.  Mae’n cymryd amser i lwyr ymddiried ym mhobl, a hefyd o ni isio fo ddod i fy adnabod i fel person nid y cyflwr iechyd meddwl, nid yw’r cyflwr yn fy niffinio i!  Wrth gwrs bu i mi siarad â theulu a ffrindiau am y sefyllfa, ac mae rhan fwyaf ohonynt wedi deud wrthyf fod fy ymateb sef mynd o fod mewn perthynas oedd yn tyfu a thyfu yn llawn cariad i gael fy ngadael i lawr, yn ymateb hollol naturiol.  Dyna d'ir broblem, dwi’n colli adnabod be sydd yn ‘normal’ a be sydd yn iechyd meddwl! 

A fysa unrhyw un arall yn digalonni a chrio?  Ai ymateb naturiol ydy hyn ynteu fy BPD?

Beth bynnag un peth da ‘bitter sweet’ i ddod allan o hyn i gyd oedd gwneud gwaith ymchwil fy hun ar y cyflwr BPD.  Mae llawer iawn o ferched yn cael eu gor-ddiagnosio gyda BPD, ac mae'n rhaid cael o leiaf 5 allan o’r 9 symptom.  Y peth mwyaf eironig i mi ydy canfod mai dim ond 3 symptom o’r 9 sydd gennai.  Felly pan ddwedais wrth Aled fod gennai BPD, mewn gwirionedd doedd gennai ddim ohono beth bynnag!  Mae sawl papur academaidd ac erthyglau yn trafod y gor-ddiagnosio o ferched hefo BPD a’r diffyg diagnosis ohono mewn dynion. 

Beth bynnag BPD neu ddim, torrodd i fyny hefo fi am beidio â deud bod gennai, yn honedig BPD.  Ond pryd ydy’r amser iawn i ddeud wrth ddarpar gariad?  Mae’r ffynonellau proffesiynol yn deud wrtha’i aros 8 mis, er mwyn rhoi digon o amser i allu ymddiried yn y person, eraill yn dweud y dylwn i wedi deud wrtho yn syth, ar y dêt cyntaf?  Be da chi’n feddwl?  Mae gennai hefyd bwysa gwaed uchel, a ddylwn i wedi sôn am hynny hefyd?  Ynteu stigma BPD odd hyn i gyd wedi’r cwbl?

Mae yma fwlch enfawr yn y byd academaidd ac o fewn cyngor cwnsela ynglŷn â’r mater yma. 

Pryd yw’r amser gora i ddweud, beth yw’r cyfrifoldebau, a oes angen dweud o gwbl?  Dwi dal ddim yn gwybod be di’r ateb! 

 

Tegwen x