Ymarfer anadlu 7-11

Gall yr ymarfer anadlu hwn eich helpu i leihau straen unrhyw bryd.
Os byddwch yn ei ymarfer yn rheolaidd, efallai y byddwch hefyd yn gweld ei fod yn eich helpu i deimlo'n dawelach eich meddwl yn gyffredinol. Po fwyaf y byddwch chi'n ymarfer, y mwyaf effeithiol y daw'r dechneg hon.
Sut i wneud ymarfer anadlu 7–11
Dyma sut rydych chi'n ei wneud – mae'n syml iawn:
Anadlwch i mewn wrth gyfrif i 7, yna anadlwch allan wrth gyfrif i 11.
Parhewch am 5 i 10 munud, neu fwy os gallwch chi, a mwynhewch yr effaith dawelu.
Cynghorion i wneud y gorau o'r ymarfer:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn anadlu'n ddwfn o’ch diaffram yn hytrach nag anadlu’n fas o'ch ysgyfaint. Mae hyn yn golygu anadlu mor ddwfn i'ch stumog ag y gallwch. Dylai eich diaffram fod yn symud i lawr ac yn gwthio'ch stumog pan ydych chi'n anadlu i mewn.
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd anadlu hyd at y cyfrif 7 ac 11 llawn, yna gallwch chi ei leihau i gyfrif o rhwng 3 a 5. Gwnewch yn siŵr bod yr anadl allan yn hirach na'r anadl i mewn.
Gyda beth y gall yr ymarfer anadlu 7–11 helpu?
Gall yr ymarfer anadlu 7–11 helpu os ydych chi'n …
- Teimlo o dan straen
- Cael trafferth gyda phyliau o banig
- Cael trafferth yn cysgu
- Cael trafferth yn canolbwyntio
- Teimlo'n gynhyrfus neu'n orbryderus
- Cael trafferth rheoli eich emosiynau
Crëwyd yr erthygl hon gan Student Minds, yn wreiddiol ar gyfer Student Space. Gweler yr erthygl hon yn Saesneg ar eu gwefan - https://www.studentminds.org.uk/