Newid ieithoedd, newid hunaniaeth – Sut mae iaith yn effeithio ar sut rydym yn teimlo

Cyflwyniad
Fel myfyriwr sy’n dod o Gymru, mae’n gyffredin iawn i naill ai symud gwlad ar gyfer y brifysgol neu gwrdd â phobl o wledydd gwahanol sy’n arwain at ddefnyddio iaith arall sydd ddim y Gymraeg. Hyd yn oed os nad oeddech yn siarad Cymraeg adref, rwy’n tybio eich bod chi wedi gwneud eich astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac felly wedi dod i’r arfer o ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun academaidd. Felly, os ydych yn symud i wlad arall, naill yn y DU neu dramor, mae’n debygol eich bod chi efallai yn defnyddio’r Gymraeg yn llai ac yna’n defnyddio naill ai Saesneg neu iaith o’r wlad rydych wedi symud i yn fwy. Gall hyn cael effaith enfawr ar ein hunaniaeth, yn enwedig ar Gymry Cymraeg oherwydd mae pob iaith yn gysylltiedig gyda’n hunaniaeth. Byddaf felly yn esbonio sut mae iaith yn gysylltiedig gyda’n hemosiynau a’n profiad mewn bywyd. Wedyn byddaf yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg a sut mae cael ein magu mewn diwylliant dwyieithog yn siapio ni fel pobl. Yn olaf, byddaf yn trafod fy mhrofiad i gan fy mod i’n byw tramor ac yn aml rwy’n meddwl am sut mae’r iaith Gymraeg ynghlwm wrth fy hunaniaeth.
Iaith ac Hunaniaeth
Mae iaith yn ffordd rydym yn mynegi ein hunan. Ein hemosiynau, ein meddyliau ac ein barn, y ffordd rydym yn mynegi hyn yw trwy ddefnyddio iaith. Yn bennaf gyda’r achos yma yng Nghymru, mae’r iaith yn gysylltiedig gyda’r diwylliant ac mae nifer yn ddwyieithog felly mae’n debyg rydym yn defnyddio geiriau Cymraeg hyd yn oed pan rydym yn siarad Saesneg (dyna oedd yr achos i mi, er enghraifft geiriau fel ‘paned’ a ‘cwtsh’). Ac felly gall fod yn anodd pan mae’r geiriau mewn ieithoedd eraill ddim wir yn cyfateb gyda beth rydym ni eisiau mynegi.
Ar gyfer myfyrwyr sydd angen newid iaith, gall nifer teimlo fel maen nhw’n colli rhywbeth neu ryw elfen o’i hun oherwydd maen nhw’n teimlo eu bod nhw yn methu mynegi ei hun y ffordd y maen nhw’n dymuno gwneud. Hefyd, mae’n bosib na fydd pobl yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio iaith arall wrth fynegi teimladau neu farn sy’n gallu arwain at deimlo fel does neb yn dy ddeall neu dy fod yn unig oherwydd mae’n anoddach cyfleu yn union sut rwyt ti’n teimlo.
Mewn achos y myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg, mae’n gallu teimlo fel rydym yn bell o’n gwreiddiau gan fod yr iaith Gymraeg a diwylliant yn benodol iawn ac mae’n anoddach ffeindio cymunedau sy’n siarad yr iaith tu fas Cymru. Er bod yna wastad cyfleoedd a chymunedau, mae’n bosib gall newid iaith codi hiraeth ar fyfyrwyr oherwydd mae’r iaith Gymraeg yn gysylltiedig iawn i’n diwylliant a’n hunaniaeth ac felly bydd yr elfen honno o’n hun ddim yn cael ei gweld sy’n gallu gwneud i ni deimlo fel nad ydy eraill yn ein hadnabod.
Profiad personol
Wrth nodi’r perthynas rhwng iaith a hunaniaeth, rydw i yn bendant wedi teimlo fel bod rhywbeth ‘ar goll’ pan dydw i ddim yn defnyddio’r Gymraeg llawer.
Er i mi fod yn fyfyrwraig yng Nghymru, roeddwn i wedi byw yn Ffrainc a Sbaen ar gyfer fy mlwyddyn tramor ac rydw i nawr yn byw yn Llydaw felly rydw i wedi gweld sut mae iaith yn cael effaith ar ein teimladau a sut rydym yn ymddangos mewn sefyllfaoedd academaidd a chymdeithasol.
Pan roeddwn i’n byw yn Ne Ffrainc ac yn Ne Sbaen, doeddwn i ddim yn defnyddio fy Nghymraeg llawer, dim ond ar y ffôn neu pan roedd fy ffrindiau neu fy nheulu’n dod i’m weld ond doeddwn i ddim yn defnyddio’r iaith yn fy mywyd ‘newydd’. Roedd hynny wedi dangos i mi pa mor bwysig oedd yr iaith a’r ffordd roeddwn i’n cyfathrebu. Er roeddwn i’n mwynhau fy mywyd tramor, roedd yna rywbeth yn dweud nad oeddwn yn gallu setlo hirdymor oherwydd roeddwn i’n teimlo mor bell o fy iaith a diwylliant ac roedd yn amlwg i mi roedd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant yn rhan enfawr o fy hunaniaeth. Roeddwn i’n teimlo fel roedd rhan o fy hun nad oedd pobl yn gallu deall, yn enwedig pan roeddwn i’n byw tramor, oherwydd roedd pawb yn meddwl taw Saesneg oedd fy iaith gyntaf gan nad oedd llawer yn gwybod bod Cymraeg yn iaith. Roeddwn i hefyd yn teimlo fel roedd y ffordd roeddwn i’n siarad wedi newid cymaint oherwydd dylanwadau o’r ieithoedd Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg ar fy acen neu’r pethau roeddwn i’n dweud.
Yn dweud hynny, roedd e’n brofiad gwych i gael oherwydd roeddwn i werthfawrogi’r iaith Gymraeg hyd yn oed yn fwy ac yn gweld sut mae iaith yn siapio ni fel pobl ac ein mynegiant a sut rydym yn teimlo. Roeddwn i hefyd yn datblygu fel person ac roedd y profiadau yn ehangu fy ngorwelion wrth i mi ddeall pwysigrwydd iaith a sut all iaith fod yn gysur i nifer.
Yn dilyn hynny, rydw i nawr yn byw yn Llydaw ac roedd gweld arwyddion yn Llydaweg a chwrdd â phobl sy’n siarad Llydaweg yn gysur enfawr i mi wrth i mi uniaethu gyda’r Llydäwyr. Rydw i nawr wedi cwrdd â Llydäwyr a phobl o Gymru sy’n siarad Cymraeg yma yn Llydaw sy’n gwneud i’r lle teimlo fel cartref ac felly mae newid iaith yn gallu cael effaith enfawr ar ein teimladau.
Crynhoi
Fel dwedais, pan rydym yn symud o adref, mae ein byd yn agor lan sy’n bositif iawn. Ond mae’n gallu bod yn anodd wrth addasu a gall deimlo’n anghyfforddus oherwydd nad ydym yn gwybod sut i fynegi’r emosiynau os ydym yn cysylltu emosiynau gydag iaith.
Hoffwn bwysleisio bod e’n hollol normal os rydym yn fwy cyfforddus mynegi teimladau ac emosiynau mewn un iaith yn erbyn y llall oherwydd mae iaith yn rhywbeth personol ac mae’n ffordd o fynegi ein hun.
Wrth drafod fy mhrofiad personol, roedd bod yn ymwybodol o’r effaith mae iaith yn cael ar sut rydw i’n teimlo wedi fy helpu i ddeall pa mor bwysig roedd hi i ddefnyddio’r Gymraeg. Roedd e’n amlwg fod yr iaith Gymraeg yn rhan fawr o fy hunaniaeth ac roedd hwn wedi f’ysbrydoli i ffeindio ffyrdd i’w defnyddio’n fwy gan ffeindio cymuned tramor a oedd yn gwneud i mi deimlo’n fwy sefydlog.
Gan Carys Davies
Myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth