Gwasanaethau a gwybodaeth Iechyd Rhywiol yn y Gymraeg

Yn ystod eich amser yn y Brifysgol gall fod yn anodd gwybod lle i droi at ar gyfer gwybodaeth ynglŷn ag iechyd rhywiol. Gall poeni am eich iechyd rhywiol achosi straen a chael effaith ar eich lles a gall fod yn lletchwith siarad hefo dy ffrindiau am y peth ond mae cyngor a help ar gael.
Mae gwefan Iechyd Rhywiol Cymru yn wefan sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth am wahanol heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) ac maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth profi a phostio sydd yn galluogi i chi brofi am heintiau o adref yn hytrach na mynd i ymweld â chlinig.
Yn ychwanegol i’r gwasanaeth profi a phostio, mae’r wefan hefo gwybodaeth am feddyginiaeth atal cenhedlu, addysg rhyw a pherthnasoedd, syndrom sioc wenwynig, endometriosis, a llawer mwy. Mae’r wybodaeth ar gael yn y Gymraeg, yn frathog, ac wedi ei ddarparu gan Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG Cymru).
Er mwyn darganfod mwy, ewch i’r wefan: https://www.ircymru.online/
