Syndrom y Ffugiwr (Imposter syndrome): Fy mhrofiad i a sut dwi’n ymdopi

Ydych chi erioed wedi bod mewn dosbarth ac yn teimlo bod pawb yn gwybod mwy na chi? Fel bod chi yw’r fraud a dydych chi ddim yn gwybod pam na sut y gwnaethoch chi lwyddo i fod yna? Dydych chi ddim yr unig un.
Yn ôl ymchwil gan The University of Law yn 2022, mae bron hanner o fyfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig yn wynebu Syndrom y Ffugiwr. Mae’n gyffredin iawn ymhlith myfyrwyr yn enwedig yn ystod cyfnodau o straen fel dechrau yn y brifysgol a sefyll arholiadau. Bydd yr erthygl hon yn trafod Syndrom y Ffugiwr a’i heffaith ar fyfyrwyr a’u hiechyd meddwl. Byddaf hefyd yn cynnig cyngor ar sut i oresgyn y teimlad hwn gan rannu fy mhrofiad personol.
Beth yn union yw Syndrom y Ffugiwr?
Yn gyntaf mae’n bwysig deall beth yw Syndrom y Ffugiwr er mwyn i ni fynd i’r afael â’r broblem. Mae Syndrom y Ffugiwr yn golygu bod rhywun yn teimlo fel fraud neu ddim yn teimlo’n ddigon da er eich llwyddiant. Mae’n gysylltiedig gyda gorbryder, ceisio bod yn berffaith a hunan amheuaeth. Mewn achos myfyrwyr, mae’n gallu arwain at fyfyrwyr osgoi mynd i’r gwersi rhag ofn bydd pawb yn darganfod y ‘gwir’. Mae’n fwy tebygol y bydd myfyrwyr yn gwrthod cyfleoedd o ganlyniad iddyn nhw ddim teimlo’n ddigon da. Mae’n rhwystr enfawr i fyfyrwyr ac felly nad ydyn nhw am fedru o gwbl rhag ofn ‘methu’.
Profiad personol
Wrth astudio Ffrangeg a Sbaeneg yn y brifysgol, roedd yn amlwg bod syndrom y ffugiwr yn effeithio fy hunan hyder. Mae’n holl bwysig gallu siarad yn yr iaith ac felly pan roeddwn i ar fy mlwyddyn tramor yn Ffrainc a Sbaen roeddwn i’n amau fy hun a fy ngallu yn yr ieithoedd ac roeddwn i’n mynd mor nerfus yn siarad. Doedd gen i ddim hyder yn fy hun a fy ngallu i siarad yr iaith a doedd y teimlad hwn ddim yn diflannu hyd yn oed ar ôl gwella. Os rhywbeth, roedd hyn yn gwneud syndrom y ffugiwr yn waeth oherwydd os oeddwn yn cael clod, roeddwn i’n bychanu fy llwyddiant a doeddwn i ddim yn credu roeddwn i’n haeddu clod.
Hyd heddiw, rydw i’n ddiffyg hyder yn fy ngallu ac os ydw i’n cael fy nghymeradwyo am rywbeth, rydw i dal yn amau fy hun ac rydw i’n dweud fy mod i’n ‘lwcus yn hytrach na fedrus’. Rydw i eisoes yn cadw’n dawel mewn sefyllfaoedd ac yn teimlo bob pobl o gwmpas yn gwybod yn well felly mae’n rhywbeth rydw i’n brwydro gydag yn aml.
Rhywbeth oedd yn fy helpu oedd bod yn onest gyda phobl am sut roeddwn i’n teimlo oherwydd roedd hyn yn helpu eraill yn aml, roedd y person roeddwn i’n siarad ag yn uniaethu gyda beth roeddwn i’n dweud. Roedd hyn yn fy synnu oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl roedden nhw’n meddwl amdanyn nhw eu hunain fel yna hefyd. Felly roedd siarad gydag eraill yn agor fy llygaid i ba mor feirniadol ydym ni fel pobl ohonom ein hunain.
Cyngor ar sut i reoli Syndrom y Ffugiwr
Mae’n bosib na fydd Syndrom y Ffugiwr yn hawdd cael gwared ag ond mae yna ffyrdd i ni ei reoli a gwneud siŵr dydy e ddim yn ein diffinio neu yn rhwystro ni rhag ceisio gwneud rhywbeth.
Cydnabod eich teimladau
Does dim byd yn bod gyda chi am deimlo hyn ac yn hytrach na frwydro’r teimlad, gadewch i chi deimlo beth rydych chi angen teimlo. Ffyrdd o gydnabod eich teimladau yw ysgrifennu lawr eich teimladau, bron fel llif o’ch teimladau (stream of consciousness). Bydd hyn yn galluogi dealltwriaeth well o bam rydych chi’n teimlo fel hyn ac efallai sut dechreuodd y teimladau hyn. Mae ysgrifennu yn caniatáu i chi brosesu’r teimladau hyn. Rwy’n sicr bydd gennych chi syniad gwell o’ch teimladau ar ôl ysgrifennu nhw i lawr.
Siarad â rhywun
Fel dwedais yn gynharach, mae hyn yn hollol bwysig oherwydd bydd cyngor rhywun neu brofiad a rennir yn helpu chi. Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried yn fel rhywun o’ch teulu neu un o’ch ffrindiau. Os ydych chi’n teimlo bod hyn yn effeithio chi yn y brifysgol neu yn y gweithle, mae’n bwysig gadael rhywun gwybod. Yn achos y brifysgol, mae yna gymorth i fyfyrwyr ar gael neu gallech chi drafod unrhyw broblem gyda’ch tiwtor personol neu’r darlithwyr.
Ffocysu ar y ffeithiau
Gall hyn fod yn her i nifer oherwydd mae’n normal canolbwyntio ar deimladau yn unig ond mae’n bosib newid y ffocws i’r ffeithiau. Pan mae’r llais bach yn eich meddwl yn dweud ‘dwyt ti ddim yn gallu ‘neud hyn’ ‘dwyt ti ddim yn ddigon da’, rhestrwch eich cyraeddiadau a gweld beth oedd y canlyniad. Ystyriwch sut roedd e’n teimlo ar ôl gwneud rhywbeth doeddech chi ddim yn meddwl gallech chi wneud. Fel arfer, mae ysgrifennu’r teimladau neu’r cyraeddiadau (bach fel ‘journaling’) yn ffordd rwy’n trio ymdopi gyda’r teimladau oherwydd rwy’n teimlo fel rydw i’n deall y teimlad yn well a hefyd mae’n galluogi fi wahanu’r teimlad o’r ffaith.
Bod yn gyfforddus gydag ‘amherffaith’
Mae ymchwil yn dangos bod ‘perfectionism’ a’r syndrom y ffugiwr yn gysylltiedig felly rwy’n gofyn i chi adael eich hun fod yn amherffaith. Wrth gwrs mae pawb yn ymwybodol nad ydym yn berffaith ond efallai yn yr isymwybod rydym yn teimlo bod rhaid i ni fod yn berffaith. Felly y tro nesaf i chi roi cynnig ar rywbeth, dwedwch wrth eich hunain cyn ei bod hi’n iawn i ddim gwneud rhywbeth yn berffaith. Mae’n hollol iawn i ni wneud camgymeriadau ac efallai methu. Dyna sut rydych chi’n dysgu’r mwyaf!
I grynhoi, mae Syndrom y Ffugiwr yn gyffredin iawn, yn enwedig ymhlith myfyrwyr ond nid yw e’n diffinio eich gallu ac yn bendant dim chi fel person. Os ydych yn teimlo bod Syndrom y Ffugiwr yn rhwystro chi yn eich bywyd dydd i ddydd, mae cymorth ar gael mewn prifysgolion. Cofiwch fod hi’n bwysig iawn cymryd gofal o’ch meddwl iechyd.
gan Carys Davies
Prifysgol Aberystwyth